Adnabod migwyn – ailddarganfod perl!
Mae’r gwaith monitro a wnaed fel rhan o Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwain at ailddarganfod migwyn prin ar un o safleoedd y prosiect yng ngogledd Cymru.
Ar hyn o bryd mae Dave Reed yn un o Uwch Swyddogion Asesu Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru ond gwnaeth y darganfyddiad hwn wrth weithio yn ei rôl fel Uwch Gynghorydd Mawndiroedd. Yma, mae'n esbonio ei rôl yn cefnogi prosiect LIFE, sut mae'n adnabod migwyn a beth mae hyn yn ei olygu i'r safleoedd.
Fel Uwch Gynghorydd Mawndiroedd, roedd fy rôl yn cynnwys rhoi cyngor arbenigol i ddatblygwyr, rheolwyr gwarchodfeydd natur/SoDdGAau a thirfeddianwyr ar unrhyw beth a oedd yn effeithio ar fawndiroedd dwfn ledled Cymru. Felly, gallai hyn olygu cynghori ar seilwaith ffermydd gwynt fel nad yw'n cael effaith, neu fod llai o effaith, ar fawndiroedd dwfn a llifoedd hydrolegol o fewn cynllun y seilwaith a'r cynllun adfer. Roedd hefyd yn golygu dod â chyrff mawn i statws hydrolegol ffafriol ar y prosiectau seilwaith cenedlaethol a grybwyllais, ond hefyd ar warchodfeydd natur a SoDdGAau. Roedd hefyd yn cynnwys arolygon safle-benodol o gyflwr y llystyfiant a'r cyrff mawn, lle byddwn yn defnyddio fy mhrofiad ar ôl treulio 17 mlynedd gydag Arolwg Mawn yr Iseldir yng Nghymru.
Rwyf wedi bod yn cefnogi Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE ers iddo gael ei sefydlu yn 2018, gan gyfrannu’n fawr at fapio’r gwaith adfer blaenorol ar safleoedd a chyfrifo ardaloedd o gyforgorsydd gweithredol a chyforgorsydd sydd wedi dirywio ym mhob un o'r saith safle. Ers hynny rwyf wedi bod yn teithio ledled Cymru i fonitro a chofnodi rhywogaethau planhigion pwysig a hydroleg ym mhob un o saith safle’r prosiect cyn i unrhyw un o'r ymyriadau rheoli ddigwydd. Mae hyn yn rhoi darlun pwysig iawn i ni o sut gyflwr oedd ar safleoedd ACA ein cyforgorsydd o ran eu blodau a’u hydroleg cyn eu hadfer.
Yn yr achos hwn rwyf wedi bod yn monitro nanotopau yng nghyforgors Cors Goch ger Trawsfynydd. Mae Cors Goch yn safle 284hectar ger pentref Trawsfynydd, i'r de o'r argae a'r llyn cyn i waith sylweddol i fyndio ar hyd y cyfuchliniau ddigwydd i godi’r lefel trwythiad i lefel fwy ffafriol drwy gydol y flwyddyn.
Gyda'i gilydd, mae strwythurau nanotop a'u trefniant ar ficrodirwedd (microtop) arwyneb yn rhoi rhai o'r arwyddion cliriaf sydd ar gael o gyflwr hydrolegol mawn heb ddefnyddio dyfeisiau cofnodi lefel dŵr fel tiwbiau mesur neu biesomedrau.
Mae monitro microtopau yn golygu gwahanu'r gwahanol fathau o nanotopau naill ai i nodweddion daearol (Da) neu ddyfrol (Dy). Yna cânt eu rhifo'n ddilyniannol yn ôl eu pellter fertigol i ffwrdd o'r lefel trwythiad cyfartalog.
Ymwelir â phwyntiau ar hap o fewn pob ardal nanotop. Cafodd y pwyntiau eu cynhyrchu drwy astudio delweddau hanesyddol o'r awyr a oedd yn chwilio am ardaloedd homogenaidd o lystyfiant, sy'n amrywio o ran strwythur a chyfansoddiad rhywogaethau. Cofnodir y gwahanol ardaloedd microtop sy'n ymddangos ym mhob lleoliad a chanran yr ardal y maent yn eu gorchuddio ar ffurflenni cofnodi. Cofnodir cyfuniadau penodol o rywogaethau ar gyfer pob microtop, sy'n rhoi syniad o ba mor ffafriol yw cyflwr arwyneb y gors, o ran ei hydroleg bresennol. Yna caiff rhestrau o rywogaethau eu hysgrifennu ar gyfer pob ardal. Wrth ailymweld sawl blwyddyn yn ddiweddarach ar ôl i waith adfer ddigwydd, bydd yr un wybodaeth yn cael ei chofnodi eto yn yr un lle.
Drwy wneud y math hwn o fonitro byddech yn gobeithio gweld symudiad neu newid i gyflwr mwy ffafriol yn y categorïau a gofnodir. Er enghraifft, pe bai 30% o bwynt penodol yn dwmpath Da3, 40% yn wrym uchel Da2, 20% yn wrym isel Da1 a 10% yn Da1:Dy1 ar y llinell sylfaen, ond yna bod ganddo 30%:25%:30%:25% fel canrannau'r un microtopau wrth fonitro ar ôl cyfnod o 5 mlynedd, mae’n hawdd gweld bod arwyneb y gors wedi mynd yn wlypach a’i bod felly mewn cyflwr mwy ffafriol.
Yn ystod y gaeaf diwethaf, wrth fonitro’r microtopau ar gromen ddeheuol Cors Goch Trawsfynydd, darganfuwyd dau dwmpath o’r migwyn rhydlyd (Sphagnum beothuk) prin.
Casglwyd cwpl o goesynnau o bob twmpath a nodwyd y rhywogaeth o dan y microsgop. Yna anfonwyd y rhain i ffwrdd a'u cadarnhau gan Mark Hill, y canolwr Migwyn Cenedlaethol, fel Sphagnum beothuk.
Cafodd Sphagnum beothuk (Sphagnum fuscum gynt) ei chofnodi ddiwethaf yn yr ardal o amgylch Trawsfynydd ym 1978 a rhwng y dyddiadau hynny, yr unig safle yng Nghymru lle roedd y rhywogaeth yn hysbys oedd Cors Fochno, lle mae poblogaeth iach iawn.
Mae'n gymharol gyffredin yn Iwerddon a'r Alban ond mae ei niferoedd wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i ddirywiad cynefinoedd, ynghyd â gormodedd o nitrogen yn yr atmosffer, o bosib.
Mae'n rhywogaeth nodedig sy'n ffurfio twmpathau - rhai trwchus iawn sydd hyd at 50cm o uchder ac sydd â lliw rhydlyd nodweddiadol iawn gyda choesynnau brown. Mae'r llun hwn (isod) yn dangos yn glir dwmpath orenfrown nodweddiadol y migwyn rhydlyd (sphagnum beothuk) ar gromen ddeheuol Trawsfynydd.
Llun agos o’r twmpath (isod) yn dangos y lliw orenfrown a'r coesynnau sy’n dynn at ei gilydd sy’n rhoi’r teimlad trwchus i'r twmpathau.
Hefyd, darganfuwyd pedwar twmpath newydd (isod) o figwyn Austin (Sphagnum austinii) yn ystod gwaith prosiect LIFE ar gromen ddeheuol Trawsfynydd – dyma rywogaeth brin arall. Mae’r Sphagnum austinii yn gyffredin yn lleol ar Gors Fochno ac er nad yw'r niferoedd yn cynyddu'n fawr ar y safle mae'n dal ei thir (gweler y llun isod).
Ers hynny, mae arolwg trawslun manwl ar gyfer y beothuk a’r austinii wedi cael ei gynnal ac mae'r canlyniadau'n cael eu cadarnhau gan y Canolwr Cenedlaethol ar hyn o bryd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu'r dudalen Twitter @Welshraisedbog neu ewch i'n gwefan Cyforgorsydd Cymru LIFE