Uwch Gynghorydd Dulliau Rheoleiddio Bioamrywiaeth
Dyddiad cau: 31 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Dulliau Rheoleiddio’r Tir / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31/03/2027
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 12 Medi 2025
Rhif swydd: 204030
Y rôl
Ydych chi'n barod i lunio sut rydym yn gwarchod ac yn rheoli rhai o'r safleoedd naturiol pwysicaf yng Nghymru? Dyma gyfle unigryw i gymryd yr awenau wrth ddatblygu canllawiau rheoleiddio ar gyfer safleoedd gwarchodedig, cau bylchau gwybodaeth hanfodol, a dylanwadu ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli ei gyfrifoldebau caniatáu a chydsynio.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y rôl hon byddwch yn datblygu datganiad sefyllfa 'Sut rydym yn rheoleiddio safleoedd gwarchodedig', yn datblygu ac yn rhoi ar waith ganllawiau adfer Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (EDR), a hefyd yn cychwyn datblygu dull gwirio cydymffurfiaeth caniatâd/cydsyniad a pheilot.
Yn yr ail flwyddyn bydd deiliad y swydd yn rhoi gwirio cydymffurfiaeth a chanllawiau adfer EDR ar waith ac yn gweithio ar ddatblygu canllawiau Cynlluniau Rheoli safle gwarchodedig a chanllawiau Hysbysiadau Rheoli.
Dros y ddwy flynedd byddwch yn arwain adolygiad o'r broses gydsynio ac yn edrych ar ba opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer cyflawni'r drefn hon
Byddwch hefyd yn gweithredu fel cynghorydd arbenigol o fewn CNC, gan ddylanwadu ar sut rydym yn ymdrin â thrwyddedu, cydymffurfio a gorfodi ar draws ystod o gyfundrefnau rheoleiddio. Bydd eich arbenigedd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu offer ymarferol a chanllawiau ar gyfer trwyddedu rhywogaethau, cydsyniadau a chaniatâd, gan sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio yn gadarn, yn dryloyw ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae hon yn rôl ystyrlon a mawr ei heffaith i rywun sydd eisiau gyrru newid gwirioneddol ym maes rheoleiddio amgylcheddol a gwneud gwahaniaeth i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru yn y tymor hir.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Stephen Attwood
Stephen.Attwood@naturalresourceswales.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae'r tîm Dulliau Rheoleiddio Tir yn eistedd o fewn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Mae'r tîm yn canolbwyntio ar ddatblygu canllawiau, hyfforddi a chyflwyno prosesau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn brif bwynt cyswllt gyda Chymdeithasau Masnach y DU a Chymru, Adrannau’r Llywodraeth a rheoleiddwyr amgylcheddol yn y DU ac Ewrop, i rannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisi gweithredol a deddfwriaeth newydd, dehongli deddfwriaeth, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) penodol a meysydd cyfrifoldeb.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
- Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws CNC drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad technegol, deddfwriaethol a rheoleiddiol.
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth gan gynnwys comisiynau gan RBB i sicrhau dealltwriaeth a defnydd cyson a phriodol ymysg staff sy’n galluogi CNC i ddarparu gwasanaeth rheoleiddio effeithiol.
- Cyfrannu at gyflawni cynllun busnes y tîm, cynllun cyflawni’r gyfarwyddiaeth a chynllun corfforaethol CNC.
- Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi Cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm ddigon o gydnerthedd technegol a deddfwriaethol ar gyfer eich maes gwaith penodedig.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiad o'r angen i CNC wella prosesau rheoleiddio a thrwyddedu.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; a’r hyn sy’n sbarduno polisïau Llywodraeth Cymru a’r DU yn eich secto(au) penodol.
- Profiad o hysbysu a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
- Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau rheoleiddio.
- Gallu gweithio'n gyflym â phrofiad cydnabyddedig o gyflawni.
- Bod yn arloesol a dangos cymhelliant i gyrraedd targedau.
- Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.