Cymorth Technegol Asedau Rheoli Perygl Llifogydd

Dyddiad cau: 31 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 15 Medi 2025

Rhif swydd: 204015

Y rôl

Chwarae rôl allweddol wrth amddiffyn cymunedau rhag llifogydd drwy ein helpu i reoli a gwella data asedau hanfodol ledled Cymru.

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi'r Tîm Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol i gyflawni ystod o dasgau gan gynnwys rhaglenni gwella data sy'n sail i reoli asedau perygl llifogydd CNC yn gynaliadwy. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm asedau Rheoli Perygl Llifogydd cenedlaethol a chydweithwyr gweithredol ledled Cymru i sicrhau bod ein data yn gywir, yn ddibynadwy ac yn ddefnyddiol.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Trefnu a chyflwyno pecynnau gwaith o fewn y rhaglen rheoli asedau genedlaethol.
  • Cyflawni tasgau tactegol gan ddefnyddio'r gronfa ddata AMX Flood, yn ogystal â chynnal a diweddaru setiau data GIS sy'n wynebu'r cyhoedd fel y Gronfa Ddata Asedau Genedlaethol a map Asesu Perygl Llifogydd Cymru.
  • Cefnogi timau gweithredol trwy ddarparu data o ansawdd uchel sy'n galluogi penderfyniadau gwybodus wrth werthuso safleoedd a chyflawni rhaglenni.
  • Cyfrannu at gyngor technegol, monitro rhaglenni ac adrodd.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol.

Mae hon yn rôl sy'n cael ei harwain gan ddata a thystiolaeth sy'n cyfuno arbenigedd technegol ag effaith yn y byd go iawn — rôl ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn ym maes rheoli perygl llifogydd ledled Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Wyn Davies

wyn.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n dibynnu ar ddata o ansawdd uchel i lywio'r broses o wneud penderfyniadau. Mae’r tîm Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol yn dîm bach arbenigol wedi'i leoli ar draws Cymru, sy'n cefnogi timau Gweithredol gyda pholisi, systemau, dadansoddiad ac arweiniad.

Rydym yn rheoli ein hasedau perygl llifogydd gan ddefnyddio 'AMX Flood', cronfa ddata strwythuredig sy'n seiliedig ar SQL gyda rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio sy'n cefnogi arolygiadau, cynllunio gwaith cynnal a chadw, penderfyniadau buddsoddi, a rheoli risg i ddiogelwch y cyhoedd. Mae data dibynadwy yn hanfodol i ddeall cyflwr ein hasedau a chynllunio buddsoddiad yn y dyfodol. Mae'r rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth nodi a chyflawni gwelliannau data, cefnogi ein cynlluniau data cenedlaethol a sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau strategol gwybodus ar gyfer rheoli perygl llifogydd ledled Cymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyflawni gwaith tactegol o fewn rhaglenni rheoli asedau perygl llifogydd, gan ddefnyddio'r gronfa ddata asedau Rheoli Perygl Llifogydd 'AMX Flood' yn bennaf. 
  • Cynnal a gwella data GIS a sicrhau bod gan dimau gweithredol ddata dibynadwy i gynnal gwerthusiad safle wrth gyflawni rhaglenni gweithredol.
  • Darparu cyngor technegol ar gyfer materion sector neu dechnegol penodol, gan ganolbwyntio ar wella data yn ein cronfa ddata 'AMX Flood'.
  • Cyfrannu at wella ein data asedau llifogydd mewn amgylcheddau gofodol gan ddefnyddio offer GIS.
  • Cyflawni cynlluniau gwaith tîm, a chyflawni camau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyfrannu at gynllunio busnes.
  • Cymryd rhan yng ngwaith grwpiau technegol CNC mewn perthynas â chronfa ddata AMX Flood.
  • Rhyngweithio â chydweithwyr ar draws CNC i hyrwyddo diwydiant cyson ac arferion pwnc arbenigol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster cydnabyddedig mewn rheoli data, cyfrifiadura neu beirianneg neu brofiad cyfatebol.
  2. Profiad o weithio gyda setiau data mawr mewn amgylcheddau rheoli data.
  3. Profiad o chwilio tablau cronfa ddata SQL cysylltiedig i ddadansoddi data.
  4. Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli asedau.
  5. Sgiliau meddwl dadansoddol, a phrofiad o ddefnyddio offer dadansoddi data e.e. Excel, Power BI ac eraill.
  6. Dealltwriaeth drylwyr o systemau a chymwysiadau cyfrifiadurol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf