Swyddog Cymorth Prosiect
Dyddiad cau: 06/08/2025 | Cyflog: Gradd 4, £32,544-£35,377 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: CNC2030 / Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos dechrau 18/08/2025
Rhif swydd: 204014
Y rôl
Fel Swyddog Cymorth Prosiectau, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cyflawniad llwyddiannus prosiectau a rhaglenni ar draws CNC2030— rhaglen drawsnewid Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gynlluniwyd i foderneiddio'r ffordd rydym yn gweithio, gwella ein gwasanaethau, a chynyddu ein heffaith ar amgylchedd naturiol Cymru erbyn y flwyddyn 2030.
Byddwch yn gyfrifol am reoli systemau gwybodaeth a dogfennaeth sy'n sail i lywodraethu ein prosiect, gan sicrhau bod yr holl gofnodion yn gywir, yn hygyrch, ac yn cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau mewnol.
Byddwch yn darparu cefnogaeth fusnes hanfodol i Reolwyr Prosiectau a Rhaglenni, gan gynnwys cynnal pecynnau cymorth llywodraethu, cydlynu prosesau gwneud penderfyniadau, a rheoli cofnodion fel logiau risg, tracwyr ariannol, a chontractau. Byddwch hefyd yn gweithredu fel pwynt cyswllt canolog ar gyfer rhanddeiliaid a chyflenwyr mewnol, gan helpu i drefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a darparu gwasanaethau ysgrifenyddol llawn.
Mae hon yn rôl ddeinamig ac amrywiol sy'n gofyn am sgiliau trefnu, cyfathrebu a rheoli gwybodaeth cryf. Byddwch chi'n ffynnu wrth weithio mewn amgylchedd cyflym lle mae addasu a rhoi sylw i fanylion yn hanfodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Andrew Jones ar andrew.r.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae CNC2030, ein rhaglen drawsnewid, yn ail-lunio sut rydym yn gweithio i ymateb yn well i'r heriau amgylcheddol a chymdeithasol sy'n wynebu Cymru.
Fel Swyddog Cymorth Prosiectau, byddwch yn rhan o'r daith uchelgeisiol hon—naill ai wedi'ch ymgorffori mewn rhaglen benodol CNC2030 neu'n gweithio o fewn Swyddfa Reoli CNC2030. Byddwch yn helpu i gyflawni prosiectau o ansawdd uchel, sy'n cael eu llywodraethu'n dda, ac sy'n cael effaith wirioneddol.
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, gweithio hybrid, a ffocws cryf ar lesiant a chynhwysiant staff.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau’r rhaglen, gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau, canllawiau a dulliau CNC ym maes Rheoli Prosiectau a Rhaglenni.
- Cynhyrchu, adolygu a phrosesu gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cynnal pecyn cymorth rheoli Prosiectau gan gynnwys logiau risg a phroblemau, siartiau Gannt ac olrheinwyr ariannol.
- Rheoli, storio, casglu a dehongli dogfennaeth y prosiect gan gynnwys contractau, prydlesi a gwybodaeth fasnachol sensitif arall.
- Darparu gwybodaeth at ddibenion rheoli contractau.
- Delio ag ymholiadau gan randdeiliaid mewnol a chyflenwyr.
- Trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau tîm.
- Ymgymryd â gweinyddiaeth briodol o ran canolfannau cost gan gynnwys defnyddio MyNRW a darparu gwasanaethau ysgrifenyddol llawn i Gyfarfodydd Prosiect
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o reoli gwybodaeth a systemau Rheoli Prosiectau.
- Gallu dehongli contractau.
- Effeithiol wrth ddatblygu cysylltiadau da â rhanddeiliaid yn fewnol ac yn allanol.
- Sgiliau rhifedd a'r gallu i gyfathrebu'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau dadansoddol cryf gyda'r gallu i gasglu, trefnu, dadansoddi a lledaenu symiau sylweddol o wybodaeth gan roi sylw i fanylion a sicrhau lefel uchel o gywirdeb
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Yn drefnus ac yn hyblyg ac yn gallu ymateb i ofynion newidiol o ran llwyth gwaith.
- Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG da (Microsoft Office)
- Profiadol ym maes gweinyddiaeth swyddfa.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.