Cymorth Rhaglen y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Dyddiad cau: 10 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Grŵp Tir a Natur Gynaliadwy / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/03/2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 3 Medi 2025
Rhif swydd: 203984
Y rôl
Mae’r Grŵp Tir a Natur Gynaliadwy yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni’r weledigaeth a amlinellir yn ein Cynllun Corfforaethol, sef Cymru ble mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Rydym yn canolbwyntio ar ecosystemau a rhywogaethau’r tir, a hefyd yn hyrwyddo dulliau cynaliadwy ar gyfer rheoli’r tir, coedwigaeth a choetiroedd.
Mae ein gwaith yn cwmpasu’r meysydd cynghori canlynol:
- Ecosystemau’r tir
- Rhywogaethau’r tir
- Rheoli tir yn gynaliadwy
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC)
- Coetiroedd a choedwigaeth
- Pridd
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud:
- Arwain ar gynllunio amgylcheddol integredig ar gyfer y tir a byd natur.
- Rheoli a chyflawni Rhaglen Tir a Natur Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan sicrhau canlyniadau cydgysylltiedig ar draws nifer o wasanaethau.
- Pennu polisïau, strategaethau a chanlyniadau amgylcheddol targed Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gysylltiedig â’r tir a byd natur, gan gynnwys bioamrywiaeth y tir, ffermio cynaliadwy, y pridd, coetiroedd a choedwigaeth
- Nodi anghenion tystiolaeth strategol a chydweithio â’n hadran Dystiolaeth i gyflwyno rhaglen dystiolaeth wedi’i thargedu a’i chymhwyso.
- Darparu mewnbwn polisi a thechnegol arbenigol i asesiadau amgylcheddol fel SoNaRR, yn benodol mewn perthynas â’n cylch gwaith tir a natur.
- Datblygu safbwyntiau polisi strategol, canllawiau a chyngor technegol yn fewnol ac ar gyfer ein partner allanol.
- Gweithio ar y cyd ar draws CNC gyda gwasanaethau gan gynnwys Rheoleiddio a Thrwyddedu,
- Tystiolaeth, Gweithrediadau, Stiwardiaeth y Tir, Rheoli Digwyddiadau, a Rheoli Adnoddau Naturiol, i gyflawni canlyniadau amgylcheddol integredig drwy’r Rhaglen Tir a Natur.
- Rydym yn ymdrechu i ddiogelu ac adfer iechyd adnoddau naturiol Cymru sy’n seiliedig ar y tir, gan sicrhau eu gwydnwch hirdymor ar gyfer pobl a byd natur.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cyflawni rôl gweinyddwr, i gychwyn ar gyfer Tîm Parodrwydd Gweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), ac yna ar gyfer tîm darparu gwasanaethau Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig (CRhSD) y CFfC, gan gefnogi a chydlynu llif gwaith y timau i alluogi’r defnydd gorau posibl o amser, rheoli dyddiaduron, monitro a threfnu i gydlynu â’r cytundeb lefel gwasanaeth.
- Darparu cefnogaeth ysgrifenyddol mewn amrywiol gyfarfodydd a byrddau (gan gynnwys gweithio ar draws cyfarwyddiaethau yn ôl yr angen).
- Datblygu perthnasoedd gwaith da yn fewnol ac yn allanol gyda’r holl randdeiliaid allweddol yn ôl yr angen er mwyn cydlynu ymatebion cymhleth o fewn eich maes gwaith.
- Delio ag ymholiadau a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth CRhSD y CFfC, gan sicrhau cwrteisi a chyfrinachedd a chydymffurfiaeth â GDPR.
- Bod yn weinyddwr busnes ar gyfer gwasanaeth CRhSD y CFfC, gan gynnwys cefnogi Rheolwr y Rhaglen i gydlynu’r gwaith o reoli risg, logiau o gamau gweithredu, penderfyniadau a materion, penderfyniadau recriwtio a chyfathrebu a chefnogi’r gwaith parhaus o ddatblygu a chynnal a chadw cofrestr risg gwasanaeth y CRhSD.
- Darparu cefnogaeth hanfodol i reolwr Rhaglen Parodrwydd Gweithredol y CFfC ac arweinwyr technegol eraill ar eu prosiectau yn unol ag anghenion y busnes a’r prosiect.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad blaenorol mewn rôl weinyddol.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth.
- Hunan-gymhelliant a greddf.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol.
- Gallu cadarn i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth – mae hyn yn hanfodol.
- Y gallu i ddefnyddio data a gwybodaeth yn hyderus a chyflwyno data gan ddefnyddio systemau Microsoft.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.