Swyddog Cymorth Rheoli Contractau
Dyddiad cau: 17/08/2025 | Cyflog: Gradd 4 £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau, Tîm 1 / Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos dechrau 25/08/2025
Rhif swydd: 203958
Y rôl
Fel Swyddog Cymorth Rheoli Contractau, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cyngor a chymorth proffesiynol i reolwyr a thimau gweithredol ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Byddwch yn tywys cydweithwyr drwy gylchred y contract ar ystod eang o gytundebau sydd o risg isel i risg ganolig—sy’n cwmpasu caffael, consesiynau, gwerthu pren, contractau ynni, grantiau, prydlesi a chytundebau rheoli.
Gan weithio’n agos gyda rheolwyr, byddwch yn helpu i gwmpasu gofynion, diffinio a chytuno ar fesurau perfformiad contractau, ac yn cefnogi cynlluniau cyflawni a pharatoi contractau. Byddwch hefyd yn cyfrannu at agweddau allweddol megis ymgysylltu â chyflenwyr, cydweithio â rhanddeiliaid, rheoli newid a risg, a chynllunio ymadawiad neu drawsnewid.
Yn y rôl hon sy’n wynebu cwsmeriaid, byddwch yn darparu cymorth a hyfforddiant o’r radd flaenaf i gydweithwyr ar draws y sefydliad, gan helpu i feithrin eu hyder a’u dealltwriaeth o reoli contractau’n effeithiol. Byddwch hefyd yn cynorthwyo tîm ehangach y Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau gyda chontractau risg uchel a gweithgareddau strategol, gan gadw cofnodion cywir a defnyddio systemau ac offer sydd ar gael i reoli gwybodaeth allweddol am gontractau
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Peter Lees ar Peter.Lees@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae’r Tîm Gwasanaethau Cymorth Rheoli Contractau yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau deilliannau sy’n gadarn, yn cydymffurfio, ac sy’n werth am arian i CNC. Rydym yn darparu cyngor arbenigol, canllawiau a chymorth ymarferol i gydweithwyr sy’n gyfrifol am reoli contractau, fframweithiau, grantiau, partneriaethau a chytundebau eraill drwy gydol eu cylch oes.
Mae ein tîm yn arwain ar y gwaith o ddatblygu a chynnal prosesau a chanllawiau rheoli contractau, gan helpu i sicrhau arfer cyson ac effeithiol ar draws y sefydliad. Rydym hefyd yn cynnal goruchwyliaeth lefel uchaf o bob contract CNC, gan weithredu fel “Ail Linell Amddiffyn” yn ein model llywodraethu—gan gefnogi atebolrwydd, cydymffurfedd a rheoli risg.
Mae gennym awdurdod dirprwyedig o dan fframwaith Rheoli ein Harian CNC, sy’n ein galluogi i adolygu a chymeradwyo amrywiadau contractau, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag arfer da a rheoliadau perthnasol
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo rheolwyr contractau gyda gweithgareddau rheoli contractau risg isel i ganolig, gan gynghori ar brosesau rheoli contract, llywodraethu a chanlyniadau drwy gylchred rheoli contractau.
- Meddu ar ddealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth a mecanweithiau contractiol perthnasol sy’n ymwneud â chydymffurfedd, cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol gwaith rheoli contractau, gan ddarparu cyngor a chymorth i gwsmeriaid yn ôl yr angen.
- Deall gofynion ymadael â chontractau a chynlluniau pontio, a rhoi cyngor proffesiynol arnynt.
- Cynnal atebolrwydd o dan gynllun Rheoli ein Harian (cynllun dirprwyo ariannol CNC), gan sicrhau canlyniadau gwerth am arian cadarn a chydymffurfiol, gyda’r gallu i weithio’n ymreolaethol a gwneud penderfyniadau heb fewnbwn y rheolwr llinell lle y bo angen.
- Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith da gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol, cyflenwyr a phartneriaid er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o’r arferion gorau o ran rheoli contractau.
- Gweithio gydag Uwch-gynghorydd Llywodraethu a Chydymffurfedd, a’i gynorthwyo drwy ymgymryd â gwiriadau cydymffurfedd cyfnodol ar gyfer prosesau rheoli contractau sy’n cynorthwyo’r Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau a rheolwyr contractau, gan sicrhau bod y mesurau a’r camau gweithredu yn effeithiol, yn gymesur ac yn addas i’r diben
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- O leiaf lefel 4 y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi – Diploma mewn Caffael neu Gyflenwi neu’r Rhaglen Galluedd Rheoli Contractau (CMCP) – yn gymwys i lefel ymarferydd neu brofiad cyfwerth. (Mae’n rhaid i unrhyw ymgeisydd â phrofiad perthnasol ond heb gymwysterau fod yn barod i ymgymryd â’r CMCP ar unwaith a chyrraedd lefel ymarferydd o fewn 18 mis o gael ei benodi.)
- Sgiliau TG rhagorol a phrofiad o ddefnyddio cynllun adnoddau menter / system gyllid neu reoli contract dros y tair blynedd diwethaf.
- Profiad o gynnal neu reoli contractau yn y sector cyhoeddus.
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a rhyngbersonol rhagorol sy’n eich galluogi i gyfathrebu’n effeithiol ac yn broffesiynol â’n holl gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Profiad trosglwyddadwy o ddefnyddio dulliau masnachol i gynnal y gwaith o gyflawni amcanion busnes allweddol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.