Cynghorydd Gyrfaoedd Cynnar a Thalent
Dyddiad cau: 15/06/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Recriwtio a Chymhwyso
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 02/07/2025
Rhif swydd: 203942
Y rôl
Fel Cynghorydd Gyrfaoedd Cynnar a Thalent gyda Cyfoeth Naturiol Cymru byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio a chyflawni ein strategaeth uchelgeisiol ar gyfer gyrfaoedd cynnar, yn unol â’n cynllun gweithredu adnoddau. Mae’r swydd arbenigol hon yn cynnig cyfle i arwain ar ddatblygiad polisïau, offer a mentrau sy’n sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru fel cyflogwr o ddewis, gan helpu i ddenu, datblygu a chadw talent sy’n dod i’r amlwg.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag Arweinydd y Tîm Rheoli Adnoddau Strategol a rhanddeiliaid ar draws y sefydliad i ddylunio a gweithredu rhaglenni i raddedigion ac israddedigion, lleoliadau diwydiannol a phrentisiaethau. Gan adeiladu partneriaethau cryf gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, byddwch yn cynnig arweiniad strategol a chefnogaeth i reolwyr sy’n cynnal lleoliadau, gan sicrhau profiad cadarnhaol a gwerth chweil.
Gyda goruchwyliaeth dros y cylch recriwtio llawn ar gyfer gyrfaoedd cynnar a chan gyfrannu at ein Rhaglen Trawsnewid Pobl ehangach, mae hon yn rôl ganolog i rywun sy’n angerddol am feithrin talent y dyfodol a meithrin diwylliant o ddysgu a datblygiad parhaus.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa sydd agosaf at eich cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan fyddwch yn cael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch joseph.smith@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams ar 02/07/2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn gweithio’n agos gydag Arweinydd y Tîm Rheoli Adnoddau Strategol i weithredu strategaeth gyrfaoedd cynnar. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni i raddedigion ac israddedigion, lleoliadau blwyddyn mewn diwydiant a phrentisiaethau.
- Byddwch yn gweithio gyda phob rhan o’r sefydliad i helpu i nodi cyfleoedd gyrfaoedd cynnar, gan hyfforddi a chynghori’r gwahanol feysydd i ddatblygu eu talent eu hunain trwy arweiniad a mewnbwn strategol, gan gynnig cefnogaeth i reolwyr a thimau sy’n cynnal lleoliadau i sicrhau profiad cadarnhaol a gwerth chweil.
- Byddwch yn datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol â chysylltiadau allweddol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
- Byddwch yn cefnogi ac yn cynghori ar adolygu ein polisi lleoliadau / gyrfaoedd cynnar.
- Byddwch yn datblygu cyfleoedd a systemau sy’n ein galluogi i ‘adnabod, tyfu a llifo talent’ o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Gall hyn gynnwys chwilio am gyfleoedd i gydweithwyr ail-sgilio/uwchsgilio. Byddwch yn ein helpu i greu diwylliant o ddysgu parhaus lle mae ein gweithwyr yn tyfu ac yn ffynnu.
- Byddwch yn cefnogi gweinyddiaeth ein rhaglenni profiad gwaith a lleoliadau i fyfyrwyr.
- Byddwch yn datblygu hysbysebion swyddi deniadol, yn cefnogi’r gwaith o hwyluso’r canolfannau asesu ac yn darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y broses ymsefydlu.
- Byddwch yn darparu arbenigedd proffesiynol, rheoli prosiectau a chyflawni.
- Byddwch yn cydgysylltu â rhanddeilaid allanol gan gynnwys cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Byddwch yn cefnogi eich cydweithwyr yn y Tîm Rheoli Adnoddau Strategol ac yn cyfrannu at gyflawni ein Rhaglen Trawsnewid Pobl uchelgeisiol.
- Byddwch yn modelu gwerthoedd ac ymddygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhagweithiol i hyrwyddo a chyflawni perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws y sefydliad.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
-
Gradd neu dystiolaeth o brofiad perthnasol mewn pwnc neu faes cysylltiedig
-
Profiad o ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd gyrfaoedd cynnar a rheoli prosiectau.
-
Profiad o gefnogi, rheoli neu gyflwyno cynlluniau lleoli
-
Profiad o gefnogi rheolwyr i gyflawni cynlluniau lleoli.
-
Profiad o gefnogi neu fentora pobl.
-
Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau mewn cyd-destun gyrfaoedd cynnar
-
Sgiliau negodi a dylanwadu rhagorol ar bob lefel, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gyda ffocws cryf ar gwsmeriaid.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.