Uwch Arbenigwr Datgarboneiddio Diwydiannol
Dyddiad cau: 22 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203940
Y rôl
Ydych chi'n frwdfrydig am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a llunio dyfodol diwydiant yng Nghymru? Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am ddau Uwch Gynghorydd Arbenigol deinamig a medrus ym maes Datgarboneiddio Diwydiannol. Mae'r rolau dylanwadol hyn yn eistedd o fewn ein Timau Gweithrediadau yn y Gogledd Ddwyrain a’r De-orllewin ond yn cwmpasu ardaloedd ehangach De a Gogledd Cymru. Mae'r rolau yn cynnig cyfle i ysgogi newid ystyrlon wrth wraidd trawsnewidiad Cymru i economi carbon isel.
Fel Uwch Gynghorydd Arbenigol, byddwch yn arwain ymgysylltiad CNC â thechnolegau datgarboneiddio diwydiannol sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys hydrogen, dal a storio carbon, a'r rhwydweithiau y maent yn dibynnu arnynt. Gan weithredu fel arbenigwr cenedlaethol a rheolwr rhaglenni, byddwch yn cydlynu strategaethau rheoleiddio, yn dylanwadu ar ddatblygu polisi, ac yn adeiladu partneriaethau cryf gyda rhanddeiliaid diwydiannol a chyrff llywodraethol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau gweithredol, polisi a thystiolaeth ledled CNC i lunio ein dull rheoleiddio, gan helpu i sicrhau bod modd darparu technolegau newydd yn effeithlon wrth ddiogelu'r amgylchedd. Mae hon yn rôl proffil uchel, sy'n gweithredu ar draws ystod eang o sectorau a rhanddeiliaid. Ni fydd gennych gyfrifoldebau rheoli llinell uniongyrchol, ond byddwch yn arwain rhaglenni gwaith effaith uchel a staff cymorth ar draws y sefydliad. Mae'r rôl yn hyblyg o ran lleoliad ac yn cynnig gweithio hybrid, gyda theithio'n ofynnol i fynychu cyfarfodydd ac ymweliadau safle.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC a nodir uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lyndsey Rawlinson, lyndsey.rawlinson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n digwydd trwy Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Fel arfer gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r prif reoleiddiwr, cynghorydd a gweithredwr amgylcheddol yng Nghymru. Rydym yn gweithio i amddiffyn a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan sicrhau bod pobl a natur yn ffynnu gyda'i gilydd.
Mae'r swydd hon yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, mewn timau rhanbarthol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheoleiddio a chynghori rheng flaen. Mae'r rolau Datgarboneiddio Diwydiannol yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein blaenoriaethau newid hinsawdd, gan weithio ar y rhyngwyneb rhwng polisi, cynllunio a thrwyddedu i gefnogi'r broses o gyflwyno technolegau carbon isel arloesol ar draws diwydiannau sy'n achosi’r mwyaf o allyriadau yng Nghymru.
Mae'r timau y byddwch yn ymuno â nhw yn gweithio ar y cyd ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod datgarboneiddio wedi'i ymgorffori yn ein dulliau rheoleiddio a'n cyngor i randdeiliaid. Byddwch yn cyfrannu at amcanion corfforaethol ehangach CNC, gan gynnwys economi wydn a chynaliadwy, canlyniadau amgylcheddol gwell, a sector cyhoeddus sero net. Mae'r rôl hon yn ganolog i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau hinsawdd cyfreithiol-rwym ac alinio systemau rheoleiddio CNC â chyflymder newid diwydiannol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithredu fel arweinydd technegol cenedlaethol arbenigol CNC ar gyfer sectorau penodol neu faterion technegol cymhleth iawn.
- Gweithredu fel mentor a chynghorydd technegol i aelodau'r tîm.
- Cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith tîm a chyflawni unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio a chyflawni busnes.
- Hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid diwydiannol a sefydliadau partner perthnasol, gan sicrhau sianeli cyfathrebu agored a dulliau cydweithredol o weithio ar brosiectau datgarboneiddio.
- Gweithio gyda Gweithredwyr Clystyrau Diwydiannol i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer y gweithfeydd, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch reolwyr a swyddogion gweithredol o fewn cwmnïau, i sicrhau buddion lluosog.
- Arwain ein hymateb i achosion/materion mawr neu ddadleuol yn rheolaidd a gweithredu fel rheolwr cyfrif ar gyfer rhanddeiliaid allweddol.
- Cyfrannu at waith sector a grwpiau sector traws-asiantaeth yn ôl yr angen er mwyn helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da er budd yr amgylchedd. Pan fo’n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer sectorau technegol penodol.
- Bydd gennych gyfrifoldeb gweithredol dros arwain a rheoli grwpiau gorchwyl cymhleth a phrosiectau proffil uchel sy'n cynnwys staff arbenigol/technegol amlswyddogaethol.
- Gweithio gydag Arbenigwyr Technegol eraill yn CNC, gan arwain lle y bo'n briodol, i hyrwyddo arferion cynghori a rheoleiddio cyson ar draws cyfundrefnau gweithredol.
- Cynrychioli CNC fel arbenigwr proffesiynol ar grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU. Bydd y mathau hyn o grwpiau yn cytuno ar strategaeth reoleiddio sy'n benodol i'r sector ar lefel Cymru, y DU neu Ewrop.
- Datblygu cysylltiadau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau a thrwy hynny gyfrannu at ddatblygu unrhyw bolisïau perthnasol Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â diwydiant.
- Rhyngweithio ag arbenigwyr rheoleiddio eraill yn CNC i hyrwyddo arferion rheoleiddio cyson.
- Cefnogi cynghorwyr Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ar lefel weithredol.
- Bydd disgwyl i chi hefyd gynorthwyo cydweithwyr i ymateb i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd ar safleoedd diwydiannol rheoledig.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy wneud defnydd effeithiol o’ch cynllun datblygiad personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n ofynnol ac sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Bydd gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Aelodaeth broffesiynol.
- Profiad sylweddol o weithio ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol perthnasol.
- Cymwysterau rheoli prosiectau a/neu brofiad cyfatebol sylweddol o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Profiad o reoli materion cynhennus a chysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Sgiliau ymgysylltu â rhanddeiliaid cryf, gyda'r gallu i gysylltu'n effeithiol â phartneriaid diwydiannol, cyrff allanol, a chymunedau lleol i hwyluso cydweithredu ac amcanion a rennir.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.