Uwch Gynghorydd Polisi Gwastraff

Dyddiad cau: 29 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn. | Lleoliad: Hyblyg

 

Efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau 'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Polisi Gwastraff / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/03/2026

Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203928, 203929

Y rôl

A ydych chi’n angerddol am ddiogelu’r amgylchedd a llunio’r modd y mae Cymru’n rheoli ei gwastraff a’i hadnoddau? A ydych chi’n ffynnu pan rydych rhoi polisïau ar waith ac yn ysgogi newid cadarnhaol?

Yn y rôl ddynamig hon, bydd cyfle i chi archwilio a datblygu arbenigedd mewn meysydd polisi gwastraff amrywiol. Yn benodol rydym yn chwilio am geisiadau gan unigolion sydd â phrofiad ym maes gwastraff peryglus, tirlenwi, a defnyddio biosolidau/slwtsh papur gwastraff ar dir. Fodd bynnag, bydd cyfleoedd i gefnogi’r tîm mewn meysydd eraill hefyd, er enghraifft ‘Gwastraff: dyletswydd gofal’, deddfwriaeth cofrestru cludwyr, cludo gwastraff rhyngwladol, safleoedd gwastraff a ganiateir, ac esemptiadau gwastraff. Byddwch yn gweithio ar lefel Cymru a’r DU gydag adrannau’r llywodraeth a rheoleiddwyr amgylcheddol eraill wrth ddatblygu polisi sy’n ymwneud â gwastraff. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â dealltwriaeth gref o reoleiddio amgylcheddol, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a’r gallu i ddehongli data a deddfwriaeth gymhleth. Os ydych chi’n rhagweithiol, yn gydweithredol, ac yn barod i gael effaith ystyrlon—gallai hon fod yn rôl sy’n addas i chi.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Louise Peel at louise.peel@naturalresourceswales.gov.uk.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi'r tîm i feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol a ffyrdd newydd o weithio gyda grwpiau o bob rhan o'r sefydliad i gyflawni'r amcanion corfforaethol gorau.
  • Cefnogi datblygiad technegol “dulliau rheoleiddio” arloesol; i gyflawni’r “canlyniadau rheoleiddiol” y mae CNC yn eu ceisio.
  • Dehongli data ac arsylwadau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol a chanllawiau'r diwydiant a chynghori yn unol â hynny.
  • Gwerthuso codau, safonau, rheoliadau a chanllawiau cyfredol ac arfaethedig i bennu'r effaith ar raglenni a gweithgareddau'r presennol a'r dyfodol.
  • Cynorthwyo neu arwain ar brosiectau cenedlaethol i gyflawni atebion integredig wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda sy’n ysgogi a chynyddu newid a gwelliant effeithiol yn CNC ac ar gyfer busnes ledled Cymru.
  • Cymhwyso dulliau gwelliant parhaus i'r meysydd gwaith rydych chi'n ymgymryd â nhw.
  • Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol, er mwyn caniatáu i staff yn y busnes eu deall a’u defnyddio’n gyson a phriodol er mwyn galluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau (Ar gyfer rolau gyda chysylltiad union neu gysylltiad cryf yn unig) 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; a’r hyn sy’n sbarduno polisïau Llywodraeth Cymru a’r DU yn eich sector(au) penodol.
  2. Profiad o hysbysu a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  3. Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
  4. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da fel y gallwch gyfleu materion technegol a rheoleiddiol cymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio cryf i ddylanwadu ar, neu i helpu i gyflawni canlyniadau drwy, sefydliadau partner/rhanddeiliaid.
  5. Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau rheoleiddio.
  6. Gallu gweithio'n gyflym â phrofiad cydnabyddedig o gyflawni.
  7. Bod yn arloesol a dangos cymhelliant i gyrraedd targedau.
  8. Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf