Swyddog Rheoleiddio Gwastraff
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 y flwyddyn. | Lleoliad: 2x Canolbarth/Gogledd Cymru, 4x De Cymru
Efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau 'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwastraff Unwaith Mewn Gweithrediadau / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 16 Mehefin 2025.
Rhif swydd: 203921, 203922, 203923, 203924, 203925, 203926
Y rôl
Rydym yn chwilio am bobl ddeinamig i dderbyn y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n gweithlu rheoleiddio gwastraff i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.
Ydych chi'n frwdfrydig am gadw adnoddau mewn defnydd cyhyd â phosib ac osgoi gwastraff? Ydych chi eisiau helpu i gyflawni ymrwymiadau Cymru i gyrraedd dim gwastraff erbyn 2050 a lleihau ein hallyriadau carbon? Mae 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru yn gynllun i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith nad yw ein llwybr tuag at economi ddi-wastraff, carbon isel erioed wedi bod mor bwysig.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, a elwir fel arall yn Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle
sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle yng Nghymru wahanu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un modd ag y mae deiliaid cartrefi yn ei wneud. Bydd y rolau hyn yn hanfodol i helpu CNC i reoleiddio'r gofynion newydd hyn. Drwy ddefnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, yn ymgymryd â chamau gorfodi cymesur ac yn cyflawni nifer o fuddion yn sgil ein hymyriadau rheoleiddiol. Bydd hyn yn cynnwys ymweliadau â safleoedd, darparu cyngor ac arweiniad, cynnal gwaith ymchwilio, casglu data, a monitro ac adrodd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kate Jones at kate.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal wythnos sydd yn cychwyn 16/06/2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Asesu cydymffurfiaeth â rheoliadau gwastraff nad ydynt yn seiliedig ar safle gan gynnwys cludo gwastraff rhyngwladol, cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchwyr, gwastraff peryglus, LART ac unrhyw gyfundrefnau yn y dyfodol a allai ddod o dan ddyletswyddau tîm unwaith i Gymru ee Cyfleusterau Deunyddiau, Cynllun Dychwelyd Ernes ac Olrhain Gwastraff Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle.
- Byddwch yn cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau gwaith tîm.
- Cynhyrchu dogfennaeth ofynnol i gefnogi camau cyfreithiol.
- Ceisio dylanwadu ar gwsmeriaid a sefydlu partneriaethau a chydweithrediadau lleol wrth i gyfleoedd godi i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
- Ymateb i ddigwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad o weithio fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Bydd gennych gymhwyster lefel gradd mewn maes pwnc perthnasol neu lefel gyfatebol o wybodaeth.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.