Cynghorwyr Arweiniol Morol x2
Dyddiad cau: 18/06/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203917 / 203918
Y rôl
A ydych chi’n barod i arwain y gwaith o roi cyngor arbenigol ar rai o ddatblygiadau morol mwyaf cymhleth ac uchel eu heffaith yng Nghymru? Rydym yn chwilio am gynghorydd morol profiadol i ymuno â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel Cynghorwyr Arweiniol Morol l o fewn ein Gwasanaeth Cynghori Morol ym maes seilwaith a gwaith achosion.
Yn y rôl uwch hon, byddwch yn arwain ac yn cydlynu ein cyfraniadau i brosiectau seilwaith morol mawr, gan gynnwys ynni adnewyddadwy ar y môr, ac yn cefnogi aelodau eraill y tîm sy’n gweithio ar waith achos o arwyddocâd cenedlaethol. Byddwch yn rheoli’r rhaglen gyffredinol o achosion morol mawr, gan sicrhau bod cyngor a roddir yn gyson ac yn dechnegol gadarn a’i fod yn cael ei gyflwyno mewn modd effeithlon.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn rhaglen forol ehangach CNC, gan gydweithio â chydweithwyr ar draws cyfarwyddiaethau, a chyfrannu at y rhaglen ynni adnewyddadwy ar y môr. Byddwch hefyd yn cydlynu ein hymatebion i ymgynghoriadau cenedlaethol, ac yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wella ein gwasanaeth cyngor morol, gan gadw’n gyfredol â pholisi a strategaeth sy’n datblygu ledled Cymru a’r DU.
Bydd eich prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Arwain y gwaith rheoli achosion ar gynigion datblygu morol cymhleth, gan gynnwys ynni adnewyddadwy ar y môr.
- Goruchwylio’r ddarpariaeth a sicrhau ansawdd ar gyfer gwaith achos morol ar raddfa fawr ar draws y tîm.
- Mentora a chefnogi aelodau’r tîm sy’n gweithio ar ymgynghoriadau technegol.
- Cydlynu ymatebion tîm i ymgynghoriadau cenedlaethol ac ymarferion cynllunio strategol.
- Cydweithio ag arbenigwyr mewnol a phartneriaid allanol, gan gynnwys cyrff cadwraeth natur statudol, y llywodraeth a’r diwydiant.
- Cyfrannu at ddatblygiad parhaus gwasanaeth cynghori morol CNC a rhaglenni morol traws-swyddogaethol.
Byddwch yn gweithio yn nhîm cyngor a rheoli’r ardal forol, gan weithio ochr yn ochr â thimau arbenigol sy’n cwmpasu meysydd megis ecosystemau morol, trwyddedu, monitro a pholisi morol. Mae hwn yn gyfle gwych i lunio datblygiad morol yng Nghymru a helpu i gyflawni canlyniadau natur-bositif yn ein moroedd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Caiff unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Gjerlov charlotte.gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau yn digwydd drwy gyfrwng Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn gyfrifol am gynhyrchu a chyflwyno cyngor dylanwadol ar ran CNC i’r cynigion seilwaith cenedlaethol mwyaf arwyddocaol.
- Dadansoddi data a gwybodaeth gymhleth iawn er mwyn datblygu ymateb CNC.
- Arwain a rheoli cyfraniadau technegol amrywiaeth eang o arbenigwyr mewnol o bob rhan o’r busnes er mwyn cefnogi’r gwaith o roi cyngor. Datrys gwrthdaro mewnol mewn perthynas â chyngor.
- Rheoli rhaglenni darparu cyngor, gan nodi a rheoli risgiau.
- Cynhyrchu a chyflwyno cyngor ysgrifenedig ffurfiol sy’n dryloyw, cymesur a rhesymol, ac wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer archwiliadau cyhoeddus ac ymchwiliadau, gan sicrhau bod amserlenni statudol yn cael eu bodloni.
- Cynrychioli CNC a darparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar mewn gwrandawiadau archwilio ac ymchwiliad cyhoeddus.
- Arwain a rheoli’n effeithiol materion o ddiddordeb mawr i wleidyddion a/neu i’r cyhoedd, cyfathrebu â phob parti sydd â diddordeb, gan gynnwys y llywodraeth a rhanddeiliaid cenedlaethol.
- Pan fo’n briodol, bod yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn adennill ei gostau am y gwaith a wnaed, a bod costau’n cael eu hysgwyddo’n rhesymol ac yn dryloyw.
- Pan fo’n berthnasol, bod yn brif gyswllt ar gyfer ymholiadau cymhleth gan gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol ag unigolion allweddol o fewn CNC, ac asiantaethau a rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau bod dylanwad CNC ar gyngor cynllunio morol yn cael ei gynyddu i’r eithaf.
- Dylanwadu a chyfrannu at ddatblygu a chyflenwi Cynllun Gwasanaeth Morol CNC a’r Rhaglen Forol, a pholisïau, strategaethau a phrosesau perthnasol eraill CNC, gan gynnwys canllawiau gwaith achos, a gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
- Cefnogi arweinwyr y tîm i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Cynghori Morol yr offer a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn sicrhau dull teg a chyson o wneud penderfyniadau yn unol â’n cylch gwaith cyfreithiol.
- Cefnogi’r Gwasanaeth Morol er mwyn sicrhau ffyrdd cyson o weithio, gan arwain ar fentrau penodol, a sicrhau bod gennym yr offer a phrosesau cywir ar waith, a bod bylchau mewn sgiliau a chanllawiau yn cael eu datrys.
- Mentora a hyfforddi aelodau’r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gan y tîm ddigon o wydnwch technegol a deddfwriaethol i allu cynghori ar yr ystod lawn o ofynion cynllunio datblygu morol a’u hasesu.
- Bod yn barod am ddigwyddiadau llygredd morol ac ymateb iddynt.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Ymrwymo i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygiad personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
- Bydd yn ofynnol i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Arbenigedd technegol sylweddol a phrofiad ymarferol mewn amgylcheddau morol, gyda sylfaen gref mewn cynllunio a chadwraeth forol.
- Gwybodaeth ymarferol uwch am y system gynllunio a thechnegau asesu amgylcheddol, yn enwedig fel y maent yn berthnasol i ddatblygiadau morol.
- Profiad helaeth o reoli’r gwaith o asesu cynigion ar gyfer seilwaith morol cymhleth a sensitif yn wleidyddol, gan gynnwys ymgysylltu’n effeithiol â’r llywodraeth, cyrff statudol a’r sector datblygu.
- Profiad amlwg o ddarparu tystiolaeth arbenigol mewn fforymau cyhoeddus fel ymchwiliadau neu wrandawiadau.
- Dealltwriaeth uwch ac arbenigol o ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau sy’n berthnasol i’r broses cynllunio morol a chadwraeth forol, gan gynnwys y rheini sy’n gysylltiedig â rôl a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Profiad amlwg o hyfforddi, mentora a datblygu pobl eraill i feithrin gallu technegol a phroffesiynol.
- Dull cryf sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda sgiliau negodi, dylanwadu a rheoli cydberthnasau rhagorol.
- Ymrwymiad i gynnal gwybodaeth gyfredol am bolisi morol a chynllunio sy’n datblygu, gan gynnwys newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth, trwy aelodaeth o gorff proffesiynol neu ddatblygiad proffesiynol parhaus cyfatebol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 – Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.