Cynghorydd Isadeiledd Strategol a Pholisi Codi Tâl

Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877  | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddiad a Thrwyddedu, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2028

Patrwm gwaith: 37 awr (rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod y tymor wedi’u hystyried - croeso i drafodaethau yn ystod y cam cyfweld)

Rhif swydd: 203915

Y rôl

A oes gennych chi ddealltwriaeth gref o fframweithiau rheoleiddiol, codi tâl am wasanaethau, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid? Rydym am benodi gweithiwr proffesiynol strategol a chydweithredol i arwain wrth ddatblygu a chynnal a chadw gwasanaethau taladwy Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn barhaus, gan gynnwys pwerau newydd a gyflwynwyd drwy Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.

Fel cynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer seilwaith a chodi tâl, byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gydlynu gweithredu gwasanaethau taladwy sy’n gysylltiedig â chyfrifoldebau ymgynghorol statudol CNC. Byddwch yn gweithio ar draws sawl adran, yn cynnwys Polisi, Trwyddedu, Gweithrediadau a Chyllid, i ddatblygu prosesau newydd effeithiol, canllawiau mewnol a hyfforddiant i gynorthwyo cyflawni cynlluniau codi tâl sy’n cydymffurfio, yn dryloyw ac yn gynaliadwy.

Byddwch hefyd yn gweithredu fel prif arbenigwr CNC ar gynlluniau codi tâl yn y dyfodol, gan gynrychioli’r sefydliad mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid allweddol a’r diwydiant, gan sicrhau bod ein dull yn adlewyrchu polisi, deddfwriaeth ac anghenion cwsmeriaid.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu gwasanaethau taladwy o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.
  • Cydlynu’r gwaith o gydweithio ar draws timau i sefydlu prosesau a ffyrdd mewnol newydd o weithio.
  • Llunio canllawiau mewnol ac allanol, a darparu hyfforddiant i gefnogi cyflwyno dulliau codi tâl newydd yn effeithiol.
  • Gweithredu fel arweinydd sefydliadol ar gynlluniau codi tâl yn y dyfodol a newidiadau i ffioedd rheoleiddiol presennol.
  • Cysylltu â Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid yn y diwydiant a thalwyr ffioedd allweddol i sicrhau tryloywder a chydymffurfiaeth â pholisi cenedlaethol.

Dyma rôl arweinyddiaeth allweddol i rywun sy’n ffynnu ar weithredu polisïau, gwella prosesau ac ymgysylltu ar draws sectorau. Helpu i lunio sut mae CNC yn ariannu ac yn darparu gwasanaethau rheoleiddio i’r dyfodol.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lisa Phillips drwy anfon neges e-bost i Lisa.Phillips@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu gwybodaeth dechnegol ar bob mater sy’n ymwneud ag incwm taliadau rheoleiddio a chymorth grant.
  • Dadansoddi data gwasanaethau rheoleiddio allweddol a’u dehongli i fod yn sail effeithiol i ddatblygiad mentrau / cynlluniau / cyfleoedd codi tâl yn y dyfodol.
  • Arwain ar ymdrin â cheisiadau / ymholiadau technegol ac asesiadau effaith.
  • Sicrhau cydymffurfedd â’n polisi “Rheoli ein Harian”, gan nodi materion, a naill ai eu datrys neu eu cyfeirio at arbenigwyr llywodraethu i’w datrys.
  • Gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a rheoleiddwyr amgylcheddol y DU ac Ewrop i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth dechnegol.
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennau technegol sy’n ymwneud â ffioedd a thaliadau a chynnwys gwe perthnasol yn gyfredol ac yn cael eu cynnal.
  • Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith â swyddogion Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gwella ein sefyllfa fel cynghorydd yr ymddiriedir ynddo a’n bod yn gallu dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth a deddfwriaeth yn y dyfodol.
  • Datblygu rhwydweithiau gyda rhanddeiliaid allanol a chyrff rheoleiddio eraill y DU i hyrwyddo cydweithredu, arferion gorau a chysondeb o ran dull.
  • Mentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm ddigon o wytnwch technegol a deddfwriaethol mewn perthynas â’n holl brosesau rheoli rheoleiddio.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi’r gyfarwyddiaeth, a chynllun corfforaethol CNC.
  • Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth i alluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Dealltwriaeth dechnegol o bolisi codi tâl a’i ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer rheoleiddio.
  2. Sgiliau dadansoddol cryf a phrofiad o reoli rhaglenni llwyddiannus, a gyflawnwyd trwy brofiad gwaith sylweddol mewn maes cysylltiedig.
  3. Gwybodaeth am egwyddorion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’.
  4. Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
  5. Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth Cymru a’r DU ac ysgogwyr polisi’r llywodraeth sy’n berthnasol i’ch meysydd gwaith.
  6. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau o’r llywodraeth / rheoleiddwyr.
  7. Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid / rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau.
  8. Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion rheoleiddio.
  9. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
  10. Bydd disgwyl i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn polisïau rheoleiddiol a newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf