Prif Gynghorydd Ynni Morol
Dyddiad cau: 18 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203914
Y rôl
Ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd morol ac yn cefnogi trawsnewidiad Cymru i economi carbon isel? Oes gennych chi brofiad da o gynghori ar bolisi a strategaeth ar gyfer sectorau ynni morol, yn enwedig ynni gwynt ar y môr, a’u heffeithiau ar yr amgylchedd morol? Yna mae’r swydd berffaith gennym ni i chi!
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o wneud gwahaniaeth drwy gynghori ar bolisi morol i ymuno â’n tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Mae’r tîm yn arwain ar ddatblygu strategaethau, polisïau, deddfwriaeth, dulliau gweithredu ac arweiniad, a rhoi cyngor arnynt, mewn perthynas â chynllunio a rheoli’r amgylchedd morol ac arfordirol. Rydym yn darparu’r cyngor hwn yn fewnol ac yn allanol i’r llywodraeth, partneriaid, a’r sectorau morol ac arfordirol.
Byddwch yn arwain cyngor strategol Cyfoeth Naturiol Cymru ar ynni morol, gan ganolbwyntio ar ynni gwynt ar y môr, i gefnogi ynni cynaliadwy a glân i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cynrychioli’r maes polisi morol ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru ac ar draws y DU. Elfen allweddol o’r rôl yw darparu cyngor strategol ar sectorau ynni gwynt ar y môr a sectorau ynni morol eraill i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU,
Ystad y Goron a rhanddeiliaid cenedlaethol eraill i lywio a dylanwadu ar bolisïau, cynlluniau a strategaethau.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol, brwdfrydig a llawn egni i fod yn rhan o dîm Cymru gyfan o arbenigwyr morol.
Os yw hyn yn addas i chi – cyflwynwch gais nawr!
Mae meysydd gwaith penodol yn cynnwys:
• Goruchwylio datblygiad polisi, canllawiau a thystiolaeth strategol ynni morol Cyfoeth Naturiol Cymru a rhoi cyngor arnynt, gan ganolbwyntio’n benodol ar ynni gwynt ar y môr.
• Cynnal trosolwg o sectorau ynni morol, a’r polisïau, strategaethau a chynlluniau sy’n eu llywodraethu a rhagweld a rheoli risgiau a chyfleoedd allweddol.
• Cynllunio a blaenoriaethu gwaith strategol Cyfoeth Naturiol Cymru ar ynni gwynt ar y môr ac ynni morol ehangach, ac ymgysylltu â chydweithwyr eraill yn y diwydiannau morol i gyflawni blaenoriaethau.
• Mentora ac arwain datblygiad aelodau’r tîm sy’n gweithio yn y diwydiannau morol.
• Rheoli cyswllt ymgynghorol ar faterion ynni morol strategol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn allanol gyda’r llywodraeth, y diwydiant a phartneriaid eraill, gan sicrhau cynrychiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar grwpiau a fforymau allweddol y diwydiant morol.
• Darparu mewnbwn strategol ar ynni morol i strwythurau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru, darparu briffiau / papurau a sicrhau amlygiad rheoli priodol.
Dewch i ymuno â’n gweithlu cyfeillgar, elwa ar ein hamodau gwaith hyblyg, a bod yn rhan o’r ateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur y mae ein byd yn eu hwynebu.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Helen Bloomfield drwy anfon neges e-bost i Helen.Bloomfield@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a rheoli prosiectau mewn perthynas â materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cefnogi gwaith achos sy’n newydd, yn gynhennus neu er budd mawr i’r cyhoedd.
- Darparu cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau morol a gedwir, ac adolygu a rhoi cyngor yn eu tro ar y polisi, cynlluniau a strategaethau a grëir.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros bolisi diwydiant morol ac ynni a meysydd polisi diwydiannau morol eraill er mwyn sicrhau uniondeb dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru gyda bwriad polisi Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth Ganolog a'r UE
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y diwydiant morol ac ynni a sectorau diwydiannau morol eraill gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol a marchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Llywio’r trosolwg a pherchnogaeth o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig ag ynni morol.
- Darparu cefnogaeth i aelodau eraill y tîm sy’n gweithio ar sectorau ynni morol.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â chynllunio, rheoli a rheoleiddio’r amgylchedd morol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth gynllunio a rheoli sectorau ynni morol; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol mewn perthynas â sut y gellir goresgyn y blaenoriaethau, ysgogwyr a rhwystrau cymhleth a wynebir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni canlyniadau sectorau ynni morol yng Nghymru.
- Profiad o’r canlynol: Dealltwriaeth drwyadl o gynllunio, rheoli a rheoleiddio sectorau ynni morol a’r amrywiaeth gymhleth o ysgogwyr cyflawni a rhwystrau rhag cyflawni.
- Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
- Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu datrys problemau, gan gefnogi eich cydweithwyr, y gyfarwyddiaeth a phenaethiaid busnes yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.