Cynghorydd Arweiniol Polisi Ynni Morol
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203914
Y rôl
A ydych chi’n frwdfrydig dros yr amgylchedd morol ac wedi ymrwymo i gefnogi trawsnewid Cymru i ddyfodol carbon isel? Rydym am benodi cynghorydd ynni morol strategol a phrofiadol i helpu i lunio dyfodol ynni gwynt alltraeth a mathau eraill o ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru.
Fel Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Ynni Morol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu cyngor polisi arbenigol, lefel uchel ar ddatblygiadau ynni morol – gyda ffocws cryf ar wynt alltraeth. Byddwch yn arwain mewnbwn strategol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i bolisi’r llywodraeth, cynllunio sectorau, a mentrau ynni morol cenedlaethol.
Gan weithio fel rhan o’n tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, byddwch yn datblygu canllawiau, offer a thystiolaeth sy’n llywio twf ynni morol sy’n ystyriol o’r amgylchedd. Byddwch yn gweithio ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru a chyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys Llywodraethau Cymru a’r DU, Ystad y Goron, a’r sector ynni alltraeth ehangach i sicrhau canlyniadau cynaliadwy i natur, yr hinsawdd a chymunedau.
Y prif gyfrifoldebau fydd:
- Arwain y gwaith o ddatblygu polisi ynni morol a chyngor strategol CNC, yn enwedig mewn perthynas â gwynt alltraeth.
- Monitro a dylanwadu ar bolisi, strategaethau a chynlluniau sy’n llunio tirwedd ynni morol yng Nghymru a’r DU.
- Cynllunio a blaenoriaethu gwaith ynni morol CNC a chydweithio ar draws timau i alinio wrth gyflawni.
- Cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn fforymau strategol a grwpiau rhanddeiliaid i hyrwyddo defnyddio ynni morol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n gadarnhaol o ran natur.
- Mentora aelodau’r tîm a helpu i feithrin arbenigedd mewnol mewn diwydiannau morol ac ynni adnewyddadwy alltraeth.
- Cynorthwyo gwaith llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru gyda briffiau, papurau strategol, a chynrychiolaeth arbenigol ar bwyntiau penderfynu allweddol.
Dyma gyfle effaith uchel i fod yn rhan o ymateb Cymru i’r argyfyngau hinsawdd a natur, gan weithio ar flaen y gad o ran strategaeth ynni morol. Ymunwch â’n tîm ymroddedig gan helpu i lunio dyfodol glanach a gwyrddach i Gymru.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Helen Bloomfield drwy anfon neges e-bost i Helen.Bloomfield@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynnal gwaith arwain a rheoli prosiectau mewn perthynas â materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC, gan gynnwys cymorth ar waith achos sydd yn newydd, yn gynhennus neu er budd mawr i’r cyhoedd.
- Darparu cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau morol a gedwir, ac adolygu a rhoi cyngor yn eu tro ar y polisi, cynlluniau a strategaethau a grëir.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros y diwydiant morol a’r maes polisi ynni i sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda bwriad polisi Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth Ganolog a’r UE.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y diwydiant morol a’r sectorau ynni gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol ac o ran y farchnad i CNC a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Llywio’r trosolwg a pherchnogaeth o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant morol ac ynni.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â chynllunio, rheoli a rheoleiddio’r amgylchedd morol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth gynllunio a rheoli’r diwydiant morol a’r sectorau ynni; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau cymhleth, yr ysgogwyr a’r rhwystrau y mae CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni canlyniadau’r diwydiant morol a’r sectorau ynni yng Nghymru yn eu hwynebu.
- Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth fanwl o gynllunio, rheoli a rheoleiddio diwydiannau morol a sectorau ynni, a’r ystod gymhleth o ysgogwyr a rhwystrau i gyflawni.
- Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
- Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.