Dyddiad cau: 22 Mehefin 2025  | Cyflog: Gradd 6,  £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cyngor Ynni Adnewyddadwy / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203910

Y rôl

A ydych chi’n ecolegydd morol sydd â gwybodaeth arbenigol am gynefinoedd benthig ac yn frwdfrydig dros gefnogi datblygiad cynaliadwy ar y môr? Rydym am benodi gweithiwr proffesiynol medrus i arwain ar ddarparu cyngor arbenigol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr ac alltraeth yng Nghymru.

Fel cynghorydd arbenigol ar ecoleg fenthig, byddwch yn darparu cyngor technegol lefel uchel ar ecoleg fenthig i gynnal rôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth asesu ac arwain datblygiadau morol. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio polisi’r llywodraeth, llywio cynlluniau a chanllawiau strategol, a dylanwadu ar ddarparu ynni adnewyddadwy ar y môr mewn modd cynaliadwy.

Byddwch chi’n chwarae rhan allweddol yn rhaglen forol CNC, gan gydweithio â thimau mewnol ar draws cyfarwyddiaethau a chyfrannu at ein rhaglen ynni adnewyddadwy ar y môr. Byddwch hefyd yn ymgysylltu’n allanol â Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth natur statudol eraill, rhanddeiliaid yn y diwydiant ac ymgynghorwyr amgylcheddol i sicrhau bod ecoleg fenthig yn cael ei hystyried yn llawn wrth wneud penderfyniadau.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Darparu cyngor arbenigol ar ecoleg fenthig forol ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr a datblygiadau morol eraill.
  • Cefnogi penderfyniadau strategol ar gynllunio morol, trwyddedu a chadwraeth.
  • Cyfrannu arbenigedd technegol at raglenni ynni adnewyddadwy ar y môr ac alltraeth CNC.
  • Meithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda thimau mewnol a phartneriaid allanol ar draws y llywodraeth a’r diwydiant.
  • Llunio datblygiad strategaethau, cynlluniau a chanllawiau cenedlaethol yn ymwneud â’r amgylchedd morol.

Dyma gyfle gwych i gymhwyso eich arbenigedd gwyddonol i waith o bwys cenedlaethol a helpu i ddiogelu ecosystemau morol wrth gefnogi’r gwaith o drosi Cymru i ynni adnewyddadwy.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Gjerlov at Charlotte.Gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cadarnhau yn nes ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth mewn perthynas ag ecoleg fenthig forol.
  • Cynnig cyngor technegol arbenigol yn fewnol i lywio ymatebion Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol i waith achos allanol, a hefyd pennu gwaith achos mewnol sy’n cael ei reoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (er enghraifft, trwyddedau morol).Bydd cyngor mewnol hefyd yn llywio swyddogaethau rheoli morol ac arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol.
  • Darparu cyngor technegol arbenigol yn allanol ar gyfer (a) datblygwyr a rheoleiddwyr ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, (b) fforymau rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol, ac (c) cyflawni rôl tyst arbenigol mewn ymchwiliadau fel y bo’n briodol.
  • Arwain ar waith datblygu canllawiau gwaith achos perthnasol.
  • Datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol megis cynrychiolwyr o’r sector, Llywodraeth Cymru, partneriaid, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud ag ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) a neilltuwyd iddynt; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU mewn ecosystemau morol ac arfordirol a sector(au) a neilltuwyd iddynt a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad sylweddol o ddarparu cyngor morol technegol arbenigol, ar lefel ranbarthol neu Gymru gyfan, ar ecoleg fenthig forol.
  3. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr.
  4. Gwybodaeth dechnegol arbenigol sy’n berthnasol i ecoleg fenthig forol.
  5. Gweithio gyda/yn Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth natur statudol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cyrff cyhoeddus a chyrff sy’n cynrychioli’r sector morol.
  6. Sgiliau rheoli prosiect, cynllunio gwaith a blaenoriaethu da.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf