Uwch-gynghorydd Cydsyniad Seilwaith
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Dulliau Rheoliadol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Cyfnod Penodol tan 1 Ebrill 2027
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203909
Y rôl
Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn cyflwyno proses symlach ar gyfer rhoi cydsyniad i brosiectau seilwaith mawr, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o sicrhau bod hyn yn gweithio. Fel ymgynghorai statudol a rheoleiddiwr amgylcheddol, rhaid inni helpu i sicrhau bod y datblygiadau hyn yn symud ymlaen mewn ffordd sy’n effeithlon, yn gyson, ac yn gadarn yn amgylcheddol.
Fel Uwch-gynghorydd Dulliau Rheoliadol ar gyfer Seilwaith byddwch yn arwain datblygiad dulliau rheoleiddio, canllawiau a hyfforddiant i gefnogi rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y system newydd hon. Byddwch yn helpu i benderfynu pryd y dylid ystyried cydsyniad rheoleiddiol o fewn cydsyniad seilwaith a dylunio’r prosesau sy’n cynnal ein mewnbwn yn ystod y camau cyn-ymgeisio a chydsynio.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau mewnol a phartneriaid allanol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a datblygwyr, i sicrhau bod cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru yn amserol, yn gydlynol, ac yn gallu adennill y gost yn llawn drwy ein gwasanaethau y codir tâl amdanynt.
Y prif gyfrifoldebau fydd:
- Datblygu dull rheoleiddio CNC ar gyfer cydsyniad a allai fod wedi’i ystyried o fewn cydsyniad seilwaith.
- Dylunio a rhoi canllawiau, hyfforddiant a phrosesau mewnol clir ar waith.
- Arwain ymgysylltiad â rhanddeiliaid i gynnal proses gydsynio llyfn a chydlynol.
- Cefnogi datblygiad gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y gost yn cael ei hadennill yn llawn.
Dyma gyfle gwych i helpu i lunio sut mae Cymru’n darparu seilwaith sylweddol mewn modd cyfrifol. Os ydych chi’n hyderus yn defnyddio systemau rheoleiddiol ac wrth weithio ar y cyd, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i gael effaith genedlaethol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Stephen Attwood at Stephen.Attwood@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a’r DU, adrannau’r llywodraeth, a rheoleiddwyr amgylcheddol y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol a deddfwriaeth newydd, a dehongli deddfwriaeth, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) a meysydd cyfrifoldeb penodol.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws CNC drwy gymhwyso gwybodaeth a phrofiad technolegol, deddfwriaethol a rheoleiddiol.
- Arwain a rheoli prosiectau ar faterion penodol a chymhleth gan gynnwys comisiynau gan y Grŵp Busnesau Rheoleiddio i alluogi dealltwriaeth a chymhwyso cyson a phriodol gan staff sy’n galluogi darpariaeth gwasanaeth rheoleiddiol effeithiol.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi’r gyfarwyddiaeth, a chynllun corfforaethol CNC.
- Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm er mwyn sicrhau bod gan y tîm wytnwch deddfwriaethol a thechnegol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ar gyfer ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiadau o’r angen i wella prosesau rheoleiddiol a thrwyddedu gan CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi llywodraeth Cymru a’r DU yn eich sector(au) penodol.
- Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau’r llywodraeth / rheoleiddwyr, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid / rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni canlyniadau ar lefel tîm / prosiect / swyddogaeth benodol, ac ar lefel y sefydliad ehangach.
- Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion gweithgareddau rheoleiddiol.
- Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi wybod yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn polisïau rheoliadol a newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.