Uwch-gynghorydd Rheoleiddio

Dyddiad cau: 22 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988per annum | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Polisi a Dulliau Rheoleiddio Morol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Cyfnod Penodol hyd at 1 Ebrill 2027

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203908

Y rôl

A ydych chi’n barod i helpu i lunio sut mae Cymru’n darparu seilwaith sylweddol mewn ffordd sy’n gwarchod ein hamgylchedd ac yn sicrhau trylwyredd rheoleiddiol? Rydym am benodi gweithiwr proffesiynol rheoleiddiol profiadol i chwarae rhan ganolog wrth weithredu cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan y Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 newydd.

Fel uwch-gynghorydd ar gyfer dulliau rheoleiddiol (seilwaith), byddwch yn arwain wrth ddatblygu dulliau rheoleiddiol newydd i gefnogi’r broses gydsynio symlach a gyflwynwyd gan y ddeddf. Mae hyn yn cynnwys helpu i ddiffinio sut mae cydsyniad fel trwyddedau morol a chaniatadau rheoleiddiol eraill yn cael eu rheoli pan ystyrir eu bod o fewn cydsyniad seilwaith, a sicrhau bod ein cyfranogiad yn cyd-fynd â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol.

Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ymgorffori gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio y gellir ei adennill yn llawn ar draws CNC, gan ddatblygu’r canllawiau, yr offer a’r hyfforddiant y mae eu hangen i gefnogi timau mewnol a rhanddeiliaid allanol.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Dylunio dull rheoleiddiol CNC o asesu a ddylid ystyried ceisiadau (morol ac fel arall) o fewn cydsyniad seilwaith.
  • Datblygu canllawiau a hyfforddiant ymarferol i gynorthwyo timau mewnol a sicrhau cysondeb ar draws cyfundrefnau cydsynio.
  • Arwain y gwaith o ryngweithio rhwng CNC a rhanddeiliaid, gan gynnwys Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, Llywodraeth Cymru, a datblygwyr yn ystod y cyfnodau cyn-ymgeisio a chydsynio.
  • Cefnogi’r gwaith o greu gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio y gellir codi tâl amdano ac y gellir adennill ei gost yn llawn o dan y ddeddf newydd.
  • Cydlynu mewnbwn ar draws swyddogaethau rheoleiddiol i sicrhau proses gydgysylltiedig a chadarn yn gyfreithiol.

Dyma gyfle allweddol i ddylanwadu ar sut mae Cymru yn cydbwyso twf seilwaith â chynaliadwyedd amgylcheddol. Os ydych chi’n hyderus yn gweithio ar draws y sectorau rheoleiddio, polisi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac eisiau helpu i lunio dyfodol cydsynio yng Nghymru, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Ryan Knowles drwy anfon neges e-bost i ryan.knowles@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a’r DU, adrannau’r llywodraeth, a rheoleiddwyr amgylcheddol y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol a deddfwriaeth newydd, a dehongli deddfwriaeth, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) a meysydd cyfrifoldeb penodol.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer CNC a’r sector(au).
  • Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws CNC drwy gymhwyso gwybodaeth a phrofiad technolegol, deddfwriaethol a rheoleiddiol.
  • Arwain a rheoli prosiectau ar faterion penodol a chymhleth gan gynnwys comisiynau gan y Grŵp Busnes Rheoleiddio i alluogi dealltwriaeth a chymhwyso cyson a phriodol gan staff sy’n galluogi darpariaeth gwasanaeth rheoleiddio effeithiol.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi’r gyfarwyddiaeth, a chynllun corfforaethol CNC.
  • Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm er mwyn sicrhau bod gan y tîm wytnwch deddfwriaethol a thechnegol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ar gyfer ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiadau o’r angen i wella prosesau rheoleiddiol a thrwyddedu gan CNC.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi llywodraeth Cymru a’r DU yn eich sector(au) penodol.
  2. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau’r llywodraeth / rheoleiddwyr, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  3. Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid / rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni canlyniadau ar lefel tîm / prosiect / swyddogaeth benodol, ac ar lefel y sefydliad ehangach.
  4. Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion gweithgareddau rheoleiddiol.
  5. Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
  6. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
  7. Bydd disgwyl i chi wybod yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn polisïau rheoleiddiol a newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf