Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, Gweithrediadau 

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203900, 203901, 203902, 203903

Y rôl

A ydych chi’n weithiwr proffesiynol cynllunio sydd â phrofiad technegol cryf ac yn frwdfrydig dros lunio datblygu cynaliadwy? Rydym am benodi uwch-gynghorydd cynllunio i ymgymryd â rôl arweiniol wrth reoli gwaith achos cymhleth, proffil uchel o fewn Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Fel yr uwch-reolwr achosion (daearol) yn eich tîm Cynllunio Datblygu lleol, byddwch yn arwain ar y cynigion cynllunio mwyaf arwyddocaol ac yn darparu goruchwyliaeth ar gyfer mewnbwn CNC i gynlluniau datblygu lleol. Bydd eich arbenigedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae datblygu’n digwydd yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer hinsawdd, bioamrywiaeth, a rheoli adnoddau naturiol.
Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth hyfforddi a mentora cydweithwyr, gan gefnogi cysondeb, ansawdd a rhannu gwybodaeth ar draws y tîm a’r gwasanaeth ehangach.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Arwain ar waith achos cynllunio datblygu daearol cymhleth ac effaith uchel.
  • Goruchwylio cyngor CNC i awdurdodau cynllunio lleol ar gynlluniau datblygu lleol.
  • Darparu arbenigedd technegol ar draws y tîm a chyfrannu at arfer gorau ar draws y gwasanaeth.
  • Hyfforddi a mentora aelodau’r tîm i gynorthwyo datblygiad proffesiynol a chydnerthedd y gwasanaeth.
  • Gweithio ar y cyd ar draws y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu ac adrannau eraill i sicrhau cyngor cyson o safon.

Dyma gyfle gwych i weithiwr cynllunio proffesiynol profiadol arwain ar waith o bwys cenedlaethol a chefnogi twf ac ansawdd gwasanaeth cynllunio amgylcheddol uchel ei barch.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Peter Jordan drwy anfon neges e-bost i peter.jordan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Goruchwylio a rhoi sicrwydd o ran cyngor ar gyfer cynlluniau datblygu lleol a chynlluniau a strategaethau isranbarthol eraill, gan gynnwys cyngor ar asesiadau amgylcheddol strategol o gynlluniau o’r fath.
  • Rhoi cyngor i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol neu gynigion datblygu risg uchel a chymhleth, gan sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’i roi yn unol â’r amserlen.
  • Cyfrannu barn a chymorth proffesiynol i’r gwaith o wneud penderfyniadau o ran cynigion datblygu unigol cymhleth a strategol a chynlluniau a reolir gan aelodau eraill o’r tîm.
  • Rhoi sicrwydd i’r wybodaeth a baratowyd mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor cynllunio datblygu CNC.
  • Bod yn bresennol mewn apeliadau ac ymchwiliadau.
  • Rhoi mewnbwn gweithredol i ddatblygu polisi, prosesau ac arweiniad CNC.
  • Sicrhau y dilynir polisïau, prosesau ac arweiniad CNC yn gyson o fewn y tîm.
  • Datblygu cydberthnasau effeithiol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol).
  • Dylanwadu ar brosiectau a strategaethau datblygu lleol yn ystod camau cynnar eu hesblygiad.
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygiad technegol aelodau’r tîm.
  • Rhoi cyngor a phrofiad gweithredol ar gyfer cynllunio lleoedd amlswyddogaethol megis datganiadau ardal.
  • Cyfrannu at ddatblygu cynllun gwaith y tîm.
  • Rheoli a chyflenwi prosiectau gwelliant parhaus ar gyfer y gwasanaeth.
  • Cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau’r holl ofynion cyfreithiol a threfniadol a dangos eu bod wedi cael eu bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth ardderchog a phrofiad sylweddol o brosesau asesu amgylcheddol a chynllunio datblygu.
  2. Dealltwriaeth ardderchog a phrofiad sylweddol o’r sector datblygu.
  3. Profiad o weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd o ran prosiectau mawr.
  4. Y gallu i gyfathrebu a thrafod yn effeithiol â rhanddeiliaid ar lefelau rheoli uwch. 
  5. Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i gynrychioli agweddau strategol a thechnegol ar waith cynllunio datblygu i’r rheini nad ydynt yn arbenigwyr, o fewn CNC ac yn allanol, mewn ffordd gryno ac effeithiol.
  6. Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau craff.
  7. Y gallu i hyfforddi a mentora eraill yn effeithiol. 
  8. Y gallu i reoli prosiectau ac arwain grwpiau gorchwyl rhith.
  9. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf