Cynghorydd Trawsnewid y Gwasanaeth Cynllunio

Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cynllunio, Tirwedd ac Ynni, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203897

Y rôl

A oes gennych chi angerdd dros wella gwasanaethau cyhoeddus a’r sgiliau i arwain newid trawsnewidiol? Rydym yn chwilio am feddyliwr strategol i arwain y gwaith o gyflawni ein Strategaeth Gwasanaeth Cynllunio, gan helpu i lunio swyddogaeth cynllunio datblygu wydn a pharod ar gyfer y dyfodol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Fel Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Trawsnewid y Gwasanaethau Cynllunio, byddwch yn cymryd awenau mewn rhaglen o welliant parhaus, gan ddatblygu datrysiadau ymarferol i wella sut rydym yn cefnogi datblygu cynaliadwy drwy’r system gynllunio. Byddwch yn dylunio a chyflawni allbynnau allweddol, gan gynnwys offer, canllawiau a sefyllfaoedd polisi, ac yn cydlynu cydweithio ar draws timau er mwyn sicrhau cyflawniad cyson o ansawdd uchel.

Byddwch yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr mewnol ar draws y timau rheoleiddio, polisi a gweithrediadau, ac yn gweithredu fel cyswllt allweddol â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill, er mwyn sicrhau bod ein dull yn alinio â blaenoriaethau cenedlaethol.

Mae eich prif gyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Arwain y gwaith o gyflawni strategaeth gwasanaeth cynllunio a rhaglen drawsnewid CNC.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer gwella ein gwasanaethau cynllunio defnydd tir yn barhaus, a’u rhoi ar waith.
  • Datblygu offer, canllawiau a pholisi i gefnogi swyddogaeth gynllunio gyson a gwydn.
  • Cydweithio â thimau mewnol a rheoli cydberthnasau strategol â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid cynllunio.
  • Troi polisi’r llywodraeth yn ymarfer gweithredol er mwyn cefnogi canlyniadau cynllunio cynaliadwy ar sail tystiolaeth.

Mae hwn yn gyfle gwych i arwain newid ystyrlon yn un o wasanaethau cynllunio amgylcheddol pwysicaf Cymru. Os ydych chi’n barod i lunio dyfodol cynllunio defnydd tir mewn sefydliad dynamig a chydweithredol – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Adrian James yn Adrian.james@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.   

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a rheoli’r prosiect ar gyfer rhaglen CNC ar gyfer trawsnewid a gwella ei wasanaeth cynllunio datblygu yn barhaus drwy nodi problemau penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, offer, cynlluniau a rhaglenni CNC a rheoli eu darpariaeth. Yn ogystal â hyn, byddwch yn cynorthwyo gyda gwaith achos sy’n newydd, yn ddadleuol neu o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu canllawiau ar gyfer staff CNC, ac ar gyfer sectorau/partneriaid.
  • Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU fel y bo’n briodol ac, yn eu tro, adolygu a chynghori ar y polisi, cynlluniau a strategaethau sy’n cael eu cynhyrchu.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros faes cynllunio defnydd tir er mwyn sicrhau bod dulliau CNC yn cyd-fynd â dulliau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Paratoi achosion cryf i gefnogi newidiadau i bolisi CNC a rôl ymyriadau amgen.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Comisiynu cynlluniau ymgysylltu a hyfforddiant er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno allbynnau fesul cam i staff CNC a phartneriaid/sectorau.
  • Comisiynu gwaith monitro a gwerthuso ymyriadau er mwyn llywio asesiad o’r angen am newid mewn dull gweithredu gan CNC a/neu Lywodraeth Cymru.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer CNC a’r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Llywio’r trosolwg a chymryd yr awenau yn y broses o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n ymwneud â chynllunio defnydd tir.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.     
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol:deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â defnydd tir a chynllunio gofodol. Ysgogwyr polisi a strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i ddefnydd tir a chynllunio gofodol, a’r problemau a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o’r amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chynllunio defnydd tir yng Nghymru.
  3. Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth fanwl o un, neu ragor, o’r pynciau canlynol: cynllunio defnydd tir, gan gynnwys cynlluniau datblygu a rheoli datblygu, cynllunio gofodol, prosesau asesu amgylcheddol (gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol). 
  4. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, yr Arolygiaeth Gynllunio, awdurdodau cynllunio lleol, cyrff proffesiynol, a busnesau a sectorau.
  5. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn. 
  6. Byddwch yn aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru / corff proffesiynol amgylcheddol arall a/neu’n gweithio tuag at aelodaeth. 
  7. Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
  8. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel mynediad (yn gallu defnyddio ac yn deall ymadroddion a chynnig sylfaenol, dim Cymraeg trafod)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf