Cynghorydd Rhaglen Seilwaith Arweiniol
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cynllunio, Tirwedd ac Ynni, Polisi Tystiolaeth a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203896
Y rôl
A ydych chi’n barod i arwain rhaglen o bwys cenedlaethol a fydd yn llunio dyfodol seilwaith ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru? Rydym am benodi gweithiwr proffesiynol profiadol i lywio’r gwaith o gyflawni ein hymateb i Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 ac arwain y gwaith o ddatblygu rhaglenni ar gyfer cynllunio seilwaith.
Fel cynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer seilwaith, byddwch yn cydlynu’r gwaith o greu canllawiau, offer ac adnoddau allweddol i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni ei gyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth newydd hon. Byddwch yn gweithredu fel ffigur canolog wrth alinio cyfeiriad strategol CNC â pholisi seilwaith ac ynni Llywodraeth Cymru a’r DU.
Gan weithio ar draws timau sy’n rheoleiddio, cynghori a gweithredu, byddwch yn sicrhau bod cydlynu mewnol a chydweithio allanol yn ddi-dor. Byddwch hefyd yn rheoli perthnasoedd lefel uchel â Llywodraeth Cymru, y sector ynni adnewyddadwy, a rhanddeiliaid cenedlaethol eraill i sicrhau bod polisi’n cael ei drosi’n llwyddiannus yn ddarpariaeth ymarferol.
Y prif gyfrifoldebau fydd:
- Arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni rhaglen seilwaith CNC yn unol â Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
- Creu canllawiau, offer ac adnoddau strategol i gynorthwyo’r gwaith o weithredu polisïau.
- Trosi polisi ynni a seilwaith y llywodraeth yn gynlluniau cyflawni effeithiol.
- Cydweithio ar draws CNC ac yn allanol gyda swyddogion y llywodraeth, datblygwyr a chyrff y sector.
- Darparu cyngor arbenigol ar ynni adnewyddadwy i ddylanwadu ar raglenni a pholisïau cenedlaethol.
Dyma gyfle cyffrous i arwain gwaith seilwaith strategol ar lefel genedlaethol, mewn rôl sy’n cyfuno arbenigedd polisi, arweinyddiaeth rhaglenni a dylanwad cryf gan randdeiliaid.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Adrian James drwy anfon neges e-bost i Adrian.james@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain y gwaith o reoli prosiectau rhaglen seilwaith CNC, gan gynnwys nodi materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau, canllawiau, offer a rhaglenni CNC, a rheoli eu darpariaeth, yn ogystal â chynorthwyo gwaith achos sy’n aml yn newydd, yn ddadleuol neu o ddiddordeb cyhoeddus mawr.
- Darparu cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau morol a gedwir, ac adolygu a rhoi cyngor yn eu tro ar y polisi, cynlluniau a strategaethau a grëir.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros yr ardal cynllunio defnydd tir i sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda bwriad polisi Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r UE.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am ddatblygu seilwaith yng Nghymru a’r cyfundrefnau cydsyniad sy’n berthnasol i seilwaith gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol ac o ran y farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Cefnogi’r oruchwyliaeth a pherchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig ag seilwaith ynni adnewyddadwy.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â datblygu seilwaith.Ysgogwyr polisi a strategaethau Llywodraeth Cymru a’r DU sy’n berthnasol i ddatblygu seilwaith a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau cymhleth, yr ysgogwyr a’r rhwystrau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni seilwaith ochr yn ochr â chanlyniadau amgylcheddol yng Nghymru.
- Profiad o’r canlynol: dealltwriaeth fanwl o gynllunio, rheoli a rheoleiddio seilwaith a’r ystod gymhleth o ysgogwyr a rhwystrau i gyflawni.
- Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
- Cynrychioli’r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.