Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, Gweithrediadau 

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203895

Y rôl

A ydych chi’n frwdfrydig dros warchod amgylchedd morol Cymru? Rydym am benodi arbenigwr morol llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm, gan ddarparu cyngor arbenigol a helpu i lunio rheolaeth ein hardaloedd morol gwarchodedig.

Fel Swyddog Cynghori Morol, byddwch yn rhoi cyngor technegol morol ar draws ystod o waith achos, gan ganolbwyntio ar ardaloedd morol gwarchodedig a chadwraeth forol ehangach. Byddwch yn cyfrannu at reoli amgylchedd morol Cymru mewn modd cynaliadwy, gan sicrhau bod penderfyniadau wedi’u seilio ar wyddoniaeth gadarn ac yn cyd-fynd â’n dull o reoli adnoddau naturiol a gwasanaethau ecosystemau.
Gan weithio ar draws ardaloedd daearyddol penodol yng ngogledd a de Cymru – ac weithiau’n ehangach – byddwch yn cydweithio â chydweithwyr mewnol a phartneriaid allanol, gan gefnogi nodau cadwraeth a chryfhau ein sylfaen dystiolaeth.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Darparu cyngor technegol morol i gefnogi gwaith achos a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig ac ardaloedd morol allweddol eraill.
  • Cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu partneriaethau lleol i hyrwyddo cadwraeth forol a defnydd cynaliadwy.
  • Hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ar ecosystemau o roi cyngor a gwneud penderfyniadau morol.
  • Cydweithio ar draws timau a chyda rhanddeiliaid i gynnal rheolaeth forol integredig.

Dyma gyfle gwych i gymhwyso eich gwybodaeth forol mewn amgylchedd dynamig a chydweithredol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar warchod adnoddau arfordirol a morol Cymru.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Gjerlov drwy anfon neges e-bost i charlotte.gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyfrannu at y cyngor a roddir o ddydd i ddydd ar gyfer rheoli ardaloedd morol gwarchodedig a rheoli morol ehangach mewn ardaloedd daearyddol penodol o Gymru.
  • Darparu cyngor technegol ar ddatblygu a gwaith achos arall / ceisiadau am wybodaeth mewn ardaloedd morol gwarchodedig ac ardaloedd morol. Cynorthwyo’r uwch-dîm ac aelodau’r gwasanaeth gyda’r ddarpariaeth hon ar gyfer achosion uchel eu proffil.
  • Darparu cyngor morol ar ddatblygu a gweithredu datganiadau ardal. Yn benodol, cyfrannu at waith rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn lleol yn yr amgylchedd morol ac arfordirol o fewn yr ardal ddaearyddol, gan weithio gyda chynghorydd y datganiad ardal morol.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a chynnal cydberthnasau ac ymgysylltiad effeithiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys cysylltu a gweithio mewn partneriaeth, yn arbennig o ran ardaloedd morol gwarchodedig.
  • Cefnogi’r gwaith o ddylanwadu a chyfrannu at ddatblygu a chyflenwi Cynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol Cyfoeth Naturiol Cymru, a pholisïau, strategaethau a phrosesau perthnasol eraill Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda chydweithwyr y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Rhoi cyngor technegol a gweithredol ar gyfer datblygu safonau / prosesau a chanllawiau corfforaethol.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflenwi rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro morol yn ôl y gofyn yn yr ardal forol warchodedig berthnasol, gan gysylltu â’r tîm monitro, asesu ac adrodd morol.
  • Bod yn barod am ddigwyddiadau llygredd morol ac ymateb iddynt.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Sgiliau amgylchedd morol a phrofiad ohono.
  2. Gwybodaeth am ofynion deddfwriaethol morol.
  3. Gwybodaeth a rhywfaint o brofiad o ddulliau monitro.
  4. Gwybodaeth a phrofiad o waith achos morol a’r fframweithiau deddfwriaethol gwahanol.
  5. Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu da.
  6. Sgiliau dehongli a dadansoddol da o ran data morol, ysgrifennu a beirniadu adroddiadau.

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf