Swyddog Arbenigol Rheolaeth Forol

Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Prosiectau / Gweithrediadau Morol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026 gyda phosibilrwydd o estyniad

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203882

Y rôl

Rydym yn chwilio am rywun sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i ardaloedd morol gwarchodedig drwy brosiectau penodol sydd â’r nod o wella cyflwr ein safleoedd. I ddechrau, bydd y rôl hon yn gweithio ar brosiect i adfer poblogaethau adar môr ar ynysoedd Cymru. Bydd yn golygu gweithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid i nodi ynysoedd addas, a mesurau y gellid eu treialu i adfer poblogaethau adar môr (ee gwell cynefin, arbrofion trawsleoli, technegau acwstig ac ati). Byddai’r prosiect wedyn yn rhoi arbrofion ar waith ac yn ehangu lle bo’n bosibl i ddechrau cynyddu poblogaethau adar môr ar ein hynysoedd. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith tystiolaeth a rheoli prosiectau a chontractau a bydd yn golygu rhywfaint o deithio i'r ynysoedd. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio am bum mlynedd ar hyn o bryd ac mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Ar ôl cwblhau'r prosiect adar môr, gall y rôl hon barhau fel prosiect tebyg neu newid i rôl prosiect rheoli morol gwahanol, yn dibynnu ar flaenoriaethau newydd i warchod yr amgylchedd morol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Lily Pauls at lily.pauls@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom Ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi rhaglen gyffrous newydd o waith morol ar waith gyda chymorth Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cyflawni prosiectau sy'n adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar wella cyflwr safleoedd gwarchodedig. Bydd CNC yn cyflwyno cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar arfordiroedd a moroedd Cymru. Yn ogystal, byddwn yn gwneud gwaith dichonoldeb a thystiolaeth a fydd yn ein helpu i roi gwell rheolaeth ar waith ar gyfer ein harfordiroedd a’n moroedd yn y dyfodol.

Yn y rôl hon, byddwch yn rhan o’r Tîm Prosiectau Morol ac yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o arbenigwyr technegol yn CNC, a phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain ar ddarparu cyngor arbenigol ar faterion rheoli morol mewn ardaloedd daearyddol penodol yng Nghymru.
  • Arwain y gwaith o baratoi deunydd i gyfarwyddo’r gwaith o ddatblygu dogfennau polisi, cyngor statudol a chanllawiau CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.  Arwain ar ddatblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Sicrhau ansawdd, dehongli a chynghori ar adroddiadau/asesiadau allanol a mewnol.
  • Cynghori ar fylchau mewn anghenion a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Cynnal gwybodaeth am Ecoleg Forol a’r sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran polisi, deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector.
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd ac ymgysylltu effeithiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys cydweithio a gweithio mewn partneriaeth gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru. 
  • Dylanwadu a chyfrannu at ddatblygu a chyflawni Cynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol CNC a pholisi, strategaeth a phrosesau perthnasol eraill CNC, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Darparu cyngor technegol a gweithredol arbenigol ar ddatblygu safonau/prosesau a chanllawiau corfforaethol.
  • Cydweithio â thimau lleol a darparu cyngor iddynt ar safleoedd dynodedig ag ymyl yr arfordir.
  • Cydweithio â Thîm Cyngor Morol Cymru Gyfan a’r Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol, gan gyflawni rhai agweddau ar weithgareddau monitro, dadansoddi ac adrodd sy’n berthnasol i ardaloedd/safleoedd daearyddol.
  • Mentora a hyfforddi aelodau eraill o'r tîm a chydweithwyr yn ôl yr angen.
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. .Lefel uchel o sgiliau a phrofiad morol neu dechnegol eraill perthnasol.
  2. Gwybodaeth sylweddol am ofynion deddfwriaethol yn enwedig ym maes cadwraeth forol.
  3. Gwybodaeth a phrofiad da o ddulliau monitro a dadansoddi morol neu ddulliau monitro a dadansoddi perthnasol eraill.
  4. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol.
  5. Sgiliau dadansoddi a dehongli tystiolaeth forol da, sgiliau beirniadu adroddiadau ac ysgrifennu.
  6. Dealltwriaeth dda o'r sector datblygu morol ac arfordirol.
  7. Sgiliau dylanwadu lefel uchel a'r gallu i gyfathrebu, trafod a chydweithio'n effeithiol yn fewnol ac yn allanol ar lefelau uwch.
  8. Sgiliau rheoli prosiect / cydlynu prosiect.
  9. Profiad o gadwraeth adar môr neu reoli cynefinoedd ar gyfer adar môr, neu brofiad rheoli morol perthnasol arall
  10. Profiad o reoli contractau

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:   Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf