Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth
Dyddiad cau: 22 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203864
Y rôl
Fel Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth reoli a gwella gweithrediadau diogelwch gwybodaeth Digidol, Data a Thechnoleg y sefydliad. Byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau, achosion o dorri diogelwch a cheisiadau o fewn cwmpas y tîm, gan ddefnyddio profiad a sgiliau datrys problemau i ymchwilio i broblemau, a’u datrys, mewn modd amserol ac effeithlon.
Bydd y swydd hon yn gweithio gyda’r busnes i gwblhau asesiad o’r effaith ar ddiogelu data er mwyn cydymffurfio â safonau deddfwriaethol. Mae’r swydd hon yn rhan o dîm o arbenigwyr ar wybodaeth a seiberddiogelwch, gan gydweithio’n agos ag ymgynghorwyr arbenigol a dadansoddwyr eraill, uwch-arbenigwr/arweinydd y tîm rheoli gwybodaeth a diogelwch, ac uwch-arbenigwr seiberddiogelwch.
Byddwch yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys uwch-arbenigwr rheoli gwybodaeth a diogelwch/arweinydd tîm, swyddog diogelu data, uwch-arbenigwr seiberddiogelwch, swyddogion diogelwch arbenigol, a dadansoddwyr diogelwch eraill. Bydd y rôl hon yn gyfrifol am gasglu data ar risgiau a diogelwch, gan gynnwys gwybodaeth am fygythiadau o nifer o ffynonellau.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Tracey Gilliland ar Tracey.gilliland@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cymryd cyfrifoldeb dros ddigwyddiadau a cheisiadau sy’n berthnasol i’r tîm, gan ddefnyddio profiad a sgiliau datrys problemau i ymchwilio a datrys mewn modd amserol ac effeithlon.
- Cyfathrebu’n glir â staff er mwyn rheoli a datrys digwyddiadau, adfer a rheoli eithriadau. Defnyddio system Defender ac ATP i ymchwilio a datrys digwyddiadau diogelwch sy’n ymwneud â chaledwedd a/neu feddalwedd.
- Cynnal perthynas gref â’r ddesg wasanaeth TGCh er mwyn rhannu arbenigedd ail linell, a chymheiriaid mewn timau gweithredol eraill er mwyn datblygu tîm rheoli problemau cadarn, gan weithio’n agos er mwyn ymchwilio i faterion parhaus.
- Gweithredu fel arbenigwr pwnc mewn meysydd arbenigol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Mae ardystiad o fod yn rhannwr diogelu data yn ddymunol
- Meddu ar brofiad sylweddol o weithio ym maes diogelwch gwybodaeth, yn y sector cyhoeddus yn ddelfrydol.
- Dangos profiad o gymhwyso egwyddorion diogelwch ffisegol a phersonél wrth gefnogi diogelwch gwybodaeth.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gyfforddus ac yn hyderus wrth ddelio â sefyllfaoedd/unigolion heriol, ac ymrwymiad cadarn i gyflenwi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ddefnyddwyr.
- Y gallu i ddadansoddi problemau a cheisiadau diogelwch, gan ddefnyddio’r technegau dadansoddi priodol. I wneud hyn, mae’n bwysig gallu deall gwybodaeth newydd yn hawdd, wrth i ffyrdd newydd o weithio gael eu cyflwyno i gylch gwaith y tîm, a gallu deall a chofnodi gofynion defnyddwyr.
- Y gallu i weithio o fewn amgylchedd pwysau uchel, i gynllunio a chydlynu adnoddau yn rhagweithiol er mwyn cyflawni canlyniadau o fewn amserlenni y cytunir arnynt, a chydag agwedd hyblyg at waith, gan flaenoriaethu yn ôl y gofyn pan fydd problemau a cheisiadau â blaenoriaeth uchel yn cyrraedd tîm diogelwch digidol, data a thechnoleg.
- Mae’r rôl hon yn gofyn am fetio at ddibenion diogelwch cenedlaethol, bydd gofyn ichi fodloni lefel y gwiriad diogelwch). https://www.gov.uk/government/publications/demystifying-vetting
- Bydd angen ichi fod yn rhan o rota y tu allan i oriau
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.