Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld:  I'w gardarnhau  

Rhif swydd: 203844

Y rôl

Mae’r rôl hon yn rhan o dîm Cwsmeriaid ac Ymgysylltu CNC, ac yn darparu ymatebion amserol o safon uchel ar gyfer gohebiaeth, ymgyrchoedd ac wrth ryngweithio â chwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithio'n hyblyg ar draws cyfarwyddiaethau, timau seiliedig ar le, a Phenaethiaid Busnes, gan addasu i gydfynd â blaenoriaethau trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys rheoli prosiectau sy'n cefnogi'r strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu, megis datblygu polisïau, canllawiau, datrysiadau technegol, templedi, a sylfaen wybodaeth ar gyfer y Tîm Gohebu Canolog. Mae’r rôl hefyd yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, adrannau San Steffan, sefydliadau’r sector cyhoeddus, Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol, a phartneriaid allweddol eraill. Mae dealltwriaeth a gwerthuso yn hanfodol wrth lywio cynllunio ac ysgogi gwelliant parhaus.

Gan ddarparu cyngor arbenigol ar Ohebiaeth a Rheoli Cwsmeriaid, mae'r rôl yn chwarae rhan allweddol wrth ymdrin â materion cymhleth a phroffil uchel a allai effeithio ar enw da CNC. Mae cydweithio â Chynghorwyr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth yn sicrhau dull cydgysylltiedig o reoli ceisiadau cwsmeriaid. Er nad oes unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell uniongyrchol, mae'r rôl yn cynnwys mentora aelodau o’r tîm a gyrru gwelliannau yn y ffyrdd o weithio. Mae'n adrodd i Miriam Jones ac yn cyfrannu at gyflawni strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu CNC yn llwyddiannus

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Miriam Jones ar miriam.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  •      Cynhyrchu ymatebion o ansawdd uchel, atyniadol ac effeithiol i ohebiaeth, ymgyrchoedd a gweithgarwch i gyflawni canlyniadau strategol i gefnogi ein strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu.  Sicrhau bod CNC yn bodloni ei ofynion cyfreithiol o dan amrywiol ddeddfwriaethau ac yn cadw at bolisi Cwynion CNC a Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid.
  • Cyflwyno gohebiaeth gyson ac amserol ar draws ystod o sianeli gyda ffocws cynulleidfa/cwsmer, naill ai fel partner busnes yn gweithio gyda Chyfarwyddiaethau, Timau Seiliedig ar Le neu weithio gyda Phenaethiaid Busnes. Bydd y rolau hyn yn hyblyg a gallent newid yn dibynnu ar flaenoriaethau trwy gydol y flwyddyn.
  • Rheoli prosiectau i gefnogi cyflawni'r strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu, gan gynnwys datblygu polisi, canllawiau, datrysiadau technegol, templedi a sylfaen wybodaeth ar gyfer yr Uned Gohebu Ganolog
  • Meithrin cysylltiadau yn fewnol ac yn allanol i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu, ynghyd â nodau strategol y sefydliad.
  • Trwy ymgysylltu a chyfathrebu effeithiol, datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith da gyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, adrannau San Steffan, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol, a rhanddeiliaid allweddol eraill.
  • Defnyddio dealltwriaeth a gwerthusiad i gyfarwyddo cynllunio cwsmeriaid a mabwysiadu diwylliant o welliant parhaus.
  • Cyflwyno cyngor Gohebiaeth a Rheoli Cwsmeriaid arbenigol i’r busnes er mwyn hyrwyddo a diogelu ein henw da, gan ddefnyddio barn gadarn a’ch sgiliau proffesiynol, yn enwedig ar y materion mwyaf dadleuol.
  • Gweithio'n agos gyda'r Cynghorwyr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth i sicrhau dull cyson a chydgysylltiedig o reoli gohebiaeth a mathau eraill o geisiadau cwsmeriaid.
  • Mentora aelodau'r tîm a mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am ffyrdd o wella gweithio yn y tîm.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu rhagorol, (ysgrifenedig yn bennaf) gyda'r gallu i ddeall a dehongli gwybodaeth gymhleth, ac i gyfathrebu hyn yn gywir ac yn effeithiol i ystod o gynulleidfaoedd.
  2. Gwybodaeth fanwl o'r sefydliad a'r gallu i ddylanwadu a hysbysu ar bob lefel o'r sefydliad.
  3. Diddordeb cryf mewn materion cyfoes, a dealltwriaeth ardderchog o'r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru a Lloegr, a chyd-destun datganoli.
  4. Sgiliau sefydliadol cryf, gyda'r gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun a monitro llwyth gwaith eraill, gweithio i amserlenni llym ac addasu i flaenoriaethau sy'n newid pan fo angen.
  5. Profiad o ddatblygu perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr mewnol, cyfathrebu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol, a'r gallu i gyflwyno dadleuon cymhellol i ddylanwadu a thrafod canlyniadau boddhaol.
  6. Mae lefel uchel o greadigrwydd ac arloesedd gyda'r gallu i weithio'n rhagweithiol gyda maes busnes yn arwain at wella'r wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.
  7. Dealltwriaeth fanwl a gwybodaeth o gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC er mwyn gallu gyrru ymgysylltiad effeithiol â chwsmeriaid.
  8. Y gallu i wneud galwadau barn gadarn, yn enwedig ynghylch amddiffyn a gwella ein henw da.
  9. Ymrwymiad gweladwy i'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus eich hun.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf