Uwch Arbenigwr Gweithrediadau

Dyddiad cau: 18 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos syn dechrau 26 Mai 2025

Rhif swydd: 203830

Y rôl

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol a phenderfynol gyda brwdfrydedd dros gadwraeth amgylcheddol? Rydym yn chwilio am Arbenigwr Uwch i arwain agweddau Gweithredol y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, ein cenhadaeth i adfer mawndiroedd a llunio dyfodol cynaliadwy.

Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn gweithio law yn llaw â chydweithwyr yn CNC a phartneriaid ledled Cymru, gan gael effaith ddofn ar ymdrechion adfer mawndiroedd. Eich arbenigedd chi fydd y grym y tu ôl i brosiectau cyfalaf ar lawr gwlad, gan arwain gwaith y timau RhWGF gweithredol a thu hwnt.

Trwy ddarparu arweiniad technegol a chymhwyso egwyddorion rheoli prosiect, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio a gweithredu cynlluniau hirdymor ar gyfer adfer mawndiroedd. Gyda’n gilydd, byddwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy, natur uchel, carbon isel.

Ymunwch â ni ar y daith drawsnewidiol hon a byddwch yn rhan o rywbeth gwirioneddol ystyrlon, gan greu etifeddiaeth o stiwardiaeth amgylcheddol i genedlaethau'r dyfodol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mannon Lewis Mannon.Lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Mae’n bosibl y bydd angen gwiriadau fetio gan ddibynnu ar y rôl. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 6 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Sicrhau bod prosiectau’n cael eu llywodraethu’n briodol yn unol â phrosesau a gweithdrefnau Swyddfa Rheoli Portffolio CNC.  
  • Arwain y gwaith o adfer cynefinoedd mawndiroedd ledled Cymru, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr perthnasol o fewn CNC. 
  • Arwain a darparu arbenigedd technegol i’r timau prosiect amlddisgyblaethol ar gyfer prosiectau cymhleth gydag aelodau tîm prosiect mewnol ac allanol i gyflawni atebion cynaliadwy. 
  • Arwain, rheoli prosiectau a darparu arbenigedd technegol ar gyfer materion penodol a chymhleth sy’n ymwneud â chyflawni’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd sy’n gofyn am gysylltu’n helaeth ar draws CNC a chyrff partner, ynghyd â dehongli a chydymffurfio gyda pholisïau, arferion, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC. 
  • Goruchwylio’r maes gwaith a phrosesau adfer mawndiroedd i sicrhau bod y prosiect yn cyd-fynd gyda dulliau CNC, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Ganolog yn cefnogi datblygiad parhaus y rhaglen hirdymor ar gyfer Mawndiroedd Cymru. 
  • Gweithio fel rheolwr cleientiaid CNC gyda phartneriaid allanol sy’n cymryd rhan drwy’r system ariannu a gytunwyd i sicrhau bod amcanion y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni ac i oresgyn rhwystrau rhag cyflawni. 
  • Sicrhau bod yr holl brosiectau cyfalaf yn cael eu cynllunio, eu rheoli a'u cyflawni yn unol â Dylunio a Rheoli Adeiladau (CDM) a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch perthnasol, a dilyn arferion gorau iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio, trin a rheoli risgiau mewn prosiectau. 
  • Sicrhau bod Strategaethau Caffael ar gyfer defnyddio gwasanaethau allanol yn cydymffurfio â 'Rheoli ein Harian' CNC ac ystyried rhwymedigaethau masnachol CNC i sicrhau’r gwerth gorau am arian.    
  • Cyflwyno materion cymhleth i amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys y cyhoedd, grwpiau gweithredu cymunedol, ASau ac Aelodau. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster proffesiynol/technegol cydnabyddedig neu brofiad perthnasol cyfatebol mewn rheoli prosiect. 
  2. Gwybodaeth sylweddol am systemau rheoleiddio a thrwyddedu deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE, yr hyn sy’n sbarduno polisi ac arferion sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, a rheoli prosiectau gwaith tir ar raddfa fawr. 
  3. Arbenigwr technegol ym maes adfer mawn gyda phrofiad o arwain a chyfarwyddo timau prosiect amlddisgyblaethol mewn prosiectau gwaith cyfalaf cymhleth.
  4. Gwybodaeth fanwl am adfer a rheoli mawndiroedd i roi cyngor gwrthrychol i eraill ar faterion arbenigol.  
  5. Trwydded yrru lawn y DU. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf