Arbenigwr Mynediad Awyr Agored a Hamdden

Dyddiad cau: 7 September 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Mynediad Awyr Agored a Hamdden / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 22 Medi 2025

Rhif swydd: 203816

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i wneud argraff wrth gyfrannu at uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru i gysylltu pobl â natur yn well, gan adrodd i Arweinydd Tîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden, o fewn y Grŵp Dulliau Integredig Natur, Hinsawdd a Phobl, a’r Adran Rheoli Adnoddau Naturiol. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw bod yn yr awyr agored ar gyfer lles personol, ond y mae hefyd yn hanfodol bod pobl yn gofalu am eu hamgylchedd os ydyw’n dylanwadu ar y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud bob dydd. 

Fel Cynghorydd Arbenigol Mynediad Awyr Agored a Hamdden gyda ffocws ar weithgareddau hamdden cyfrifol, byddwch yn cyfrannu at dîm sy’n gweithio trwy eraill i hyrwyddo mynediad yn amlach er mwyn i ragor o bobl o gefndiroedd amrywiol, a chyda gwahanol anghenion mynediad, fedru mwynhau amgylcheddau amrywiol a thoreithiog Cymru yn gyfrifol er mwyn ymgymryd â gweithgareddau hamdden.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Carys Drew

carys.drew@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru yw prif gorff amgylcheddol Cymru, sy’n gweithio i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol y wlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol yn darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru a’r sefydliad ar ddatblygu polisïau a deddfwriaeth, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Yn y rôl hon, byddwch yn cyfrannu at waith y tîm i ddatblygu a chyflawni uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer mynediad awyr agored a hamdden yn unol â gwerthoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill yn y tîm Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid.  Byddwch hefyd yn gweithredu fel arbenigwr yn y maes gwaith hwn i arwain a chyflawni polisi, strategaethau, cyngor a chyfarwyddyd technegol Cyfoeth Naturiol Cymru.  Bydd hyn yn golygu trosi polisïau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ddulliau ymarferol hyd at y cam darparu.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau arbenigol / technegol, gan dynnu ar amrediad o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio’r broses o ddatblygu polisïau, cyngor a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. 
  • Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau cenedlaethol, gan gynnwys cefnogi newid deddfwriaethol ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Datblygu a chynnal ymgysylltiad â phartneriaid, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, arweinwyr polisi sectorau perthnasol, rhanddeiliaid, rhwydweithiau a phartneriaethau. Byddwch yn cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn brif bwynt cyswllt ar gyfer fforymau mynediad cenedlaethol a lleol, eich maes arbenigol / technegol arall, ac ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Cynnal gwybodaeth am y sector(au) arbenigol a neilltuwyd gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflawni cynllun Sgwrs y cytunwyd arno. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â mynediad awyr agored a hamdden; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU sy’n ymwneud â mynediad awyr agored a hamdden a’r problemau a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Gwybodaeth dechnegol arbenigol yn ymwneud ag un neu ragor o’r canlynol: gweithgareddau hamdden cyfrifol, codau cefn gwlad, llwybrau cenedlaethol, y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, mynediad agored a mynediad hamdden i ddŵr croyw a dyfroedd arfordirol mewndirol, a hawliau tramwy cyhoeddus. 
  3. Profiad o ddadansoddi a dehongli yn arbenigol / technegol amrywiaeth o wybodaeth a ffynonellau data cymhleth amgylcheddol a pherthnasol.
  4. Gweithio gyda neu yn y sector mynediad awyr agored a hamdden, awdurdodau lleol, tirfeddianwyr a rheolwyr, cynrychiolwyr o sefydliadau awyr agored / cefn gwlad, fforymau a chyrff gwirfoddol.
  5. Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf