Uwch Swyddog Arbenigol, Arweinydd Newid Busnes Rheoleiddio

Dyddiad cau: 30 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31st Mawrth 2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203762

Y rôl

Mae’r gwaith o ddylunio, datblygu a gweithredu rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau gwastraff trawsnewidiol ar y gweill fel yr amlinellir yn strategaethau Mwy nag Ailgylchu a Sero Net Cymru Llywodraeth Cymru (LlC) gan gynnwys datblygu a gweithredu Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol y DU. 

Bydd y diwygiadau hyn yn newid y dirwedd rheoleiddio gwastraff, a bydd yr effaith gronnol yn cael effaith sylweddol ar bwy a sut y mae Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau CNC yn rheoleiddio yng Nghymru. Pwrpas y rôl yw darparu arbenigedd lefel uchel yn y maes gwasanaeth Rheoleiddiol ar draws y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i -:

Weithredu fel cyswllt rhwng yr Is-grŵp Gwastraff, Gweithrediadau a Rhaglen Diwygio Rheoleiddio Gwastraff CNC

  • Paratoi’r maes busnes yr effeithir arno ar gyfer gweithredu dyletswyddau a phrosesau rheoleiddio newydd a’r newid dilynol i strwythurau a ffyrdd newydd o weithio, gan sicrhau bod strwythurau a chapasiti rheoleiddio yn addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer unrhyw ddiwygiad pellach.
  • Gwireddu manteision Rhaglen Diwygio Rheoleiddio Gwastraff CNC a sicrhau bod y strwythur a’r galluoedd staff gofynnol yn rhan annatod o’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Gwreiddio’r dyletswyddau newydd i fusnes fel arfer a sicrhau nad ydynt yn effeithio ar sefydlogrwydd busnes a gallu parhaus.
  • Sicrhau bod y modelau rheoleiddio gofynnol yn cael eu darparu, wedi’u hategu gan ddull y Rhaglen/Bwrdd Busnes o oruchwylio a chydgysylltu.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda’r adran Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Rheolwyr Gweithredol i gynllunio a goruchwylio gweithrediad modelau rheoleiddio diwygio gwastraff a dyletswyddau rheoleiddio cysylltiedig ar draws yr holl Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.  Byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Rheoli Busnes Rheoleiddio i roi sicrwydd bod cyllid ac adnoddau a ddyrennir i’r gwasanaeth rheoleiddio yn cael eu defnyddio i gyflawni dyletswyddau statudol CNC a’u bod yn cael eu hadennill yn llawn.

Mae’r modelau rheoleiddio diwygio gwastraff y mae angen eu rhoi ar waith o fewn Gweithrediadau yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Y Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol
  • Cyfrifoldeb ehangach y cynhyrchwyr
  • Cynllun Dychwelyd Ernes
  • Ailgylchu yn y Gweithle
  • Rheoliadau Cyfleusterau Materol 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Martin Cox ar martin.cox@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Bydd y rôl hon yn adrodd i swydd Rheolwr Gweithrediadau newydd a fydd yn rheoli sawl tîm sy'n canolbwyntio ar wastraff Unwaith yng Nghymru.  Bydd y rôl wedi’i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau yn y De Ddwyrain wrth i’r timau newydd gael eu recriwtio.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  •       Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Rhaglen Diwygio Rheoleiddio Gwastraff ac Uwch Swyddog Arbenigol, Arweinydd y Gwasanaeth Gweithrediadau ar gyfer Rheoleiddio i drosi’r rhaglen diwygio rheoleiddio gwastraff yn ddarpariaeth reoleiddiol ymarferol sy’n cefnogi CNC i ymgorffori a chyflawni yn erbyn ei ddyletswyddau rheoleiddio newydd.
  • Byddwch yn arwain y mewnbwn gweithredol, yr ymateb a’r oruchwyliaeth i’r Rhaglen Diwygio Rheoleiddio Gwastraff.
  • Byddwch yn datblygu rhaglen waith lefel uchel (ar draws y Gweithrediadau), wedi’i blaenoriaethu ar gyfer y maes gwasanaeth ac yn mabwysiadu dull rheoli rhaglen ar gyfer y newid busnes gofynnol gan sicrhau llywodraethu effeithiol yn unol â phrosesau PMO CNC.
  • Byddwch yn gweithio'n agos gyda Rheolwyr Gweithredol ac Arweinwyr Tîm i gydlynu’r gwaith o ymwreiddio dyletswyddau rheoleiddio newydd a monitro perfformiad yn unol â blaenoriaethau a dyraniad adnoddau. 
  • Byddwch yn arwain y gwaith o nodi problemau posib o ran rheoleiddio ar gyfer y dyletswyddau newydd ac yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu a gweithredu ymyriadau priodol neu addasiadau ar lefel gwasanaeth.  Bydd y gwaith hwn yn cael effaith helaeth ar gynlluniau gwaith a blaenoriaethau grwpiau mawr o staff gweithredol eraill, yn ogystal â'r effaith amgylcheddol a’r effaith ar randdeiliaid.
  • Bydd gennych rôl allweddol wrth nodi ac ymateb i risgiau a chyfleoedd busnes pwysig sy'n dod i'r amlwg.
  • Byddwch yn darparu cyswllt clir, pendant â rolau Arweinwyr Busnes yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ac yn gweithredu fel pont effeithiol rhwng Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau.  Bydd hyn yn cynnwys darparu cyswllt clir rhwng prosesau cynllunio busnes Corfforaethol, ar y Bwrdd Busnes ac ar gyfer ein Lleoedd.
  • Byddwch yn sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng timau gweithredol, Byrddau Busnes a'u his-grwpiau, a byddwch yn gweithio'n agos gydag arweinwyr gwasanaethau a busnes eraill i sicrhau cysylltiadau effeithiol ar draws y meysydd busnes a gwasanaeth.
  • Byddwch hefyd yn cefnogi'r Pennaeth Gwasanaeth ac yn gweithio ochr yn ochr â'r Arweinydd Gwasanaeth ar gyfer Rheoleiddio ar gyflwyno ac adrodd rheoleiddio ehangach.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau (Ar gyfer rolau gyda chysylltiad union neu gysylltiad cryf yn unig)

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Byddwch yn arbenigwr cydnabyddedig gyda phrofiad helaeth o ran gweithredu a/neu bolisi ar draws y maes gwasanaeth perthnasol, a lefel dda o ddealltwriaeth o fusnes ehangach CNC gan gynnwys sut mae’r gwasanaeth yn effeithio ac yn rhyngweithio ar draws y busnes cyfan.  
  2. Gwybodaeth helaeth am y rhanddeiliaid allanol sy'n rhyngweithio â'r maes gwasanaeth ac sy'n cael eu heffeithio ganddo, a hygrededd presennol a pherthnasoedd sefydledig ag amrywiaeth o randdeiliaid perthnasol.
  3. Lefel uchel o sgiliau ariannol, rheoli prosiectau, rheoli risg a rheoli perfformiad i'ch galluogi i arwain y mewnbwn gweithredol a’r ymateb i'r prosesau o gyflwyno cynlluniau gwasanaeth a chynlluniau busnes a'u goruchwylio.
  4. Sgiliau cyfathrebu mewnol ac allanol rhagorol i gyfleu gwybodaeth dechnegol a busnes gymhleth i gynulleidfaoedd eang, ac i greu deialog effeithiol ar y materion hyn.
  5. Y gallu i ddehongli a dadansoddi llawer iawn o ddata a gwybodaeth hynod gymhleth, i lywio penderfyniadau ac ymyriadau effeithiol ar draws yr adran cynllunio a darparu gwasanaethau.
  6. Y gallu i weithredu'n annibynnol gan wneud penderfyniadau effaith uchel cymhleth ynglŷn â blaenoriaethau a allai wrthdaro, gyda mewnbwn cyfyngedig gan reolwyr llinell.
  7. Cymhwyster proffesiynol/technegol cydnabyddedig neu brofiad perthnasol cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf