Cynghorydd Arbenigol, Polisi Ansawdd Dŵr

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Ansawdd Dŵr / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Tymor penodol hyd at 31 Rhagfyr 2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos yn cychwyn 19 Mai 2025

Rhif swydd: 203749

Y rôl

Arwain ar ddarparu asesiadau technegol a chyngor Ansawdd Dŵr.  Bydd y cyngor technegol/arbenigol hwn yn llywio datblygiad polisi, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC.  Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a a Thrwyddedu, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda CNC ac arweinwyr cwmnïau dŵr i nodi blaenoriaethau ansawdd dŵr, ac arwain y gwaith o gyflawni polisi, cyngor a chanllawiau CNC i helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau amgylcheddol gorau posibl o raglenni buddsoddi dŵr gwastraff PR24.  Yn benodol, byddwch yn cyfrannu at ddull CNC o fynd i’r afael ag effeithiau gorlifoedd storm a gollyngiadau parhaus.

Mae'r Tîm Polisi Ansawdd Dŵr yn rhan o Grŵp Dŵr a Natur o fewn Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol.  Byddwch yn rhan o dîm gwasgaredig yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewn lleoliadau ledled Cymru.  Byddwch yn gallu elwa o drefniadau gweithio hybrid.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / Geraint Weber.

geraint.weber@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol ar gyfer polisi Ansawdd Dŵr newydd neu ddiwygiedig, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data; gweithio gyda staff Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad dogfennau polisi, cyngor ac arweiniad CNC, LlC a phartneriaid eraill; rheoli datblygiad gweithdrefnau, adnoddau a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Asiantaeth yr Amgylchedd, SEPA, Water UK a chwmnïau dŵr a chyrff Amgylcheddol eraill yn y DU; a gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
  • Cynnal gwybodaeth am y sector dŵr gan nodi goblygiadau newidiadau i ddeddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r amgylchedd dŵr yng Nghymru.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU ac Ewrop yn ymwneud ag Ansawdd Dwr; yr hyn sy’n sbarduno polisi, cynlluniau strategol a mentrau Llywodraeth Cymru a’r DU ym maes Ansawdd Dŵr (Strategaeth Ddŵr Llywodraeth Cymru, strategaethau ehangach y DU); a’r problemau a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli amrywiaeth o wybodaeth a ffynonellau data yn ymwneud ag ansawdd dŵr a’r amgylchedd; dadansoddi setiau data mawr gan ddefnyddio taenlenni a modelau perthnasol.
  3. Gweithio gyda: chwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, Cyrff Anllywodraethol amgylcheddol, Llywodraethau (DU), undebau ffermio; cynrychioli CNC ar grwpiau polisi allweddol (Cymru/DU).
  4. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
  5. Byddwch yn aelod o CIWEM neu sefydliad proffesiynol perthnasol arall a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi yr holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf