Swyddog Cymorth Prosiect Cyflawni Ynni

Dyddiad cau: 12 Mai 2025 | Cyflog: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Resolfen

 

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cyflenwi Ynni / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203741

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn aelod pwysig o'r Tîm Darparu Ynni. Mae'r tîm prysur a deinamig hwn yn gyfrifol am ddarparu ynni adnewyddadwy neu brosiectau masnachol eraill ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwch yn ymuno â thîm prosiect sy'n gyfrifol am reoli'r rhyngwyneb rhwng datblygu/adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy proffil uchel a chyfrifoldebau stiwardiaeth tir CNC.

Byddwch yn rhoi cymorth rheoli prosiect i Reolwyr Prosiect ar brosiectau mawr cymhleth ac yn rheoli prosiectau risg isel llai yn uniongyrchol o dan oruchwyliaeth Rheolwyr Prosiect. Byddwch yn defnyddio Gweithlyfrau Swyddfa Rheoli Rhaglen ac yn rheoli setiau data prosiect ynni adnewyddadwy. Bydd angen i'r rôl weithio ar y cyd â Chyfarwyddiaethau eraill, dilyn gweithdrefnau llywodraethu mewnol, ymgorffori canlyniadau SMNR a Lles yng nghyflawniadau prosiectau ynni.

Mae'r rôl yn cynnwys gwaith desg technegol a gwaith ar y safle ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn Ne a Chanolbarth Cymru gan sicrhau bod datblygwyr wedi ystyried y risgiau i bobl a'r amgylchedd ac wedi cynllunio'r gwaith, y dulliau rheoli diogelwch a'r dulliau gweithio i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn modd diogel, amgylcheddol gynaliadwy ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith. 

Mae'r rôl hon yn cefnogi’r gwaith o reoli prosiectau a chontractau sy'n rhychwantu ystod o ddisgyblaethau technegol, gan gynnwys rheoli tir, coedwigaeth, amgylcheddol a pheirianneg. Bydd gan ymgeisydd cryf yr hyfforddiant, sgiliau, profiad a gwybodaeth berthnasol mewn un neu fwy o'r disgyblaethau technegol hyn ac mae profiad o brosiectau adnewyddadwy ar raddfa fawr yn ddymunol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gordon Baird ar Gordon.Baird@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain ar gyflwyno canlyniadau prosiectau. Gall hyn gynnwys rheoli contractau cyflenwi allanol, adolygu, dadansoddi a dehongli data cymhleth a chyflwyno gwybodaeth i gydweithwyr yn y tîm.
  • O dan oruchwyliaeth Rheolwyr Prosiect, rheoli prosiectau llai, sy’n llai cymhleth gan ddefnyddio dull PRINCE 2 Lite.
  • Ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol wrth gyflwyno canlyniadau prosiectau.
  • Cefnogi rheolwyr prosiect i gyflawni holl gyfrifoldebau Rheoli Prosiect a dirprwyo pan fo angen.
  • Cynnal archwiliadau safle ac arolygu safleoedd gweithredol – darparu sicrwydd ansawdd ar gyfer cydymffurfio â phrydles/contract a monitro Iechyd a Diogelwch a Digwyddiadau Llygredd.
  • Cael cyngor arbenigol mewnol ac allanol gan Gyflenwyr gan gynnwys arbenigwyr amgylcheddol, cyfreithiol a pheirianneg trwy ddarparu cyfarwyddiadau clir ac effeithiol.
  • Darparu cyngor technegol arbenigol i Reolwyr Prosiect mewn disgyblaeth berthnasol yn ôl yr angen (yn amodol ar lefelau o arbenigedd perthnasol)
  • Defnyddio pecyn cymorth PRINCE2 Lite i reoli'r holl risgiau a materion sy'n gysylltiedig â'r Prosiectau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Y gallu i gyflawni canlyniadau prosiect o fewn terfynau amser tynn. (Hanfodol)
  2. Sgiliau trefnu, cyfathrebu a rhyngbersonol da. (Hanfodol)
  3. Parodrwydd i gefnogi prosiectau mewn rhannau eraill o Gymru yn ôl yr angen. (Hanfodol) 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (Bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol.)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf