Uwch Swyddog Rheoli Prosiect Cyflenwi Ynni
Dyddiad cau: 12 Mai 2025 | Cyflog: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Resolfen
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhifau y swyddi: 203772, 203773
Y rôl
Byddwch yn gweithio yn y Tîm Cyflenwi Ynni yn rheoli’r gwaith o integreiddio prosiectau adnewyddadwy mawr a chymhleth o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwch yn gyfrifol am y rhyngwyneb rhwng datblygu ac adeiladu prosiectau proffil uchel a chyfrifoldebau stiwardiaeth tir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Byddwch yn dylanwadu ar randdeiliaid allweddol ac yn cynnal partneriaethau yn fewnol ac allanol; yn gwella enw da'r prosiect drwy ymateb i risgiau a materion a’u rheoli. Byddwch yn cydweithio â Chyfarwyddiaethau eraill, i sicrhau bod gweithdrefnau llywodraethu mewnol yn cael eu dilyn, gan ymgorffori egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) a chanlyniadau Lles wrth gyflawni prosiectau ynni.
Mae'r rôl yn cynnwys gwaith wrth ddesg ac ar safleoedd ar YGLlC yn Ne a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio gyda chyflenwyr prosiect arbenigol a disgwylir i chi reoli tîm prosiect bach, mewnol trwy ddull matrics. Bydd gennych rôl ganolog yn y strwythur rheoli prosiectau cyflenwi ynni a disgwylir i chi ddadansoddi a dehongli ystod o wybodaeth gymhleth, gan gyfleu pwyntiau allweddol i eraill. Mae'r rôl yn adrodd i Arweinydd y Tîm Cyflenwi Ynni, yng Nghyfarwyddiaeth Gweithrediadau'r De Orllewin. Bydd y rôl gyffrous a heriol hon yn darparu’n rhannol gytundeb lefel gwasanaeth newydd gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar lwyth gwaith ychwanegol tybiedig o chwe phrosiect ynni adnewyddadwy ar unrhyw un adeg.
Mae'r rôl hon yn gofyn am arbenigedd o ran rheoli prosiectau a chontractau sy'n cwmpasu ystod o ddisgyblaethau technegol gan gynnwys rheoli tir, coedwigaeth, amgylcheddol a pheirianneg. Bydd gan ymgeisydd cryf hyfforddiant, sgiliau, profiad a gwybodaeth berthnasol mewn un neu fwy o'r disgyblaethau technegol hyn ac mae profiad o brosiectau adnewyddadwy ar raddfa fawr yn ddymunol. Byddwch yn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn modd diogel, amgylcheddol gynaliadwy ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith. Bydd gennych sgiliau gofal cwsmeriaid da, ynghyd â sgiliau trafod a rheoli rhanddeiliaid gyda'r gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith da.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gordon Baird ar Gordon.Baird@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a goruchwylio timau prosiect gan gynnwys cyflenwyr arbenigol a Swyddogion Cefnogi Prosiect.
- Darparu cefnogaeth mentora a datblygu staff i aelodau'r tîm a chefnogi gweithrediad arferion gwaith iechyd, diogelwch a lles ac asesiadau risg.
- Rheoli’r gwaith o gyflawni Prosiectau Ynni (neu brosiectau masnachol eraill) gan ddefnyddio’r dull PRINCE 2 Lite. Cynnal dogfennaeth prosiectau, trefnu cyfarfodydd Bwrdd Prosiectau ac uwchgyfeirio materion a cheisio arweiniad fel y bo'n briodol.
- Ymgysylltu'n uniongyrchol â datblygwyr i fapio a dilyn gweithdrefnau ar gyfer cyflawni prosiectau.
- Goruchwylio’r gwaith o drafod a chwblhau cytundebau masnachol, gan weithio’n agos gyda chyflenwyr Asiantau Tir arbenigol.
- Cyflawni prosesau ymgynghori mewnol CNC (fel Ymgynghoriadau Tir ac Eiddo).
- Adolygu Asesiadau Risg a Datganiadau Dull Datblygwyr a monitro gweithgareddau ar y safle i sicrhau cydymffurfiaeth.
- Sefydlu a rheoli contractau ar gyfer gwasanaethau cyflenwi arbenigol gan gynnwys gweithgareddau tir fel clirio coed.
- Cynorthwyo Datblygwyr gyda gwaith i gyflawni amodau cynllunio.
Datblygu a sicrhau gweithrediad systemau ar gyfer rheoli cytundebau masnachol yn ystod eu bywyd gweithredol. - Gall ddarparu cyngor technegol arbenigol i Reolwyr Prosiect mewn disgyblaeth berthnasol yn ôl yr angen (yn amodol ar lefelau o arbenigedd perthnasol).
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o Reoli Prosiectau. (Hanfodol)
- Yn gweithio'n dda dan bwysau ac yn meddu ar sgiliau diplomyddiaeth da i reoli cwsmeriaid heriol. (Hanfodol)
- Hyblyg ac addasadwy, yn barod i ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau mewn sawl lleoliad. (Hanfodol)
- Trefnus, yn llawn cymhelliant ac yn meddu ar sgiliau da o ran rheoli adnoddau. (Hanfodol)
- Sgiliau cyfathrebu a datrys problemau rhagorol. (Hanfodol)
- Sgiliau TG da gan gynnwys MS Office. (Hanfodol)
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.