Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Dulliau Rheoleiddio
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Dulliau Rheoleiddio Dŵr, Tir, Bioamrywiaeth a Môr / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Cyfnod penodol o 100 wythnos
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 13 Mai 2025
Rhif swydd: 203714
Y rôl
Prif ddiben y rôl newydd hon yw cefnogi gwaith ar ddulliau rheoleiddio sy’n canolbwyntio ar ansawdd dŵr, o fewn tîm Dulliau Rheoleiddio Bioamrywiaeth ac Ansawdd Dŵr.
Mae’r rôl yn benodol i reoleiddio cwmnïau dŵr a bydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r gwelliannau rheoleiddio y mae eu hangen fel rhan o’r Cynllun Rheoli Asedau nesaf (AMP8).
Ymysg y prif weithgareddau bydd cefnogi ac arwain ar ddatblygu a gwella prosesau, ynghyd â llunio canllawiau a chyflwyno hyfforddiant.
Rhoi arweinyddiaeth arbenigol ar reoleiddio Ansawdd Dŵr (a chefnogi darpariaeth ehangach o gynllun gwaith y tîm fel y bo'n briodol) a rheoli darpariaeth rhaglenni CNC i wella effeithlonrwydd prosesau rheoleiddio. Bydd hyn yn trosi polisi Llywodraeth Cymru a’r DU yn ddulliau ymarferol o ddarparu.
Byddwch yn hyrwyddo ein Hegwyddorion Rheoleiddio ac yn cael eich arwain ganddynt.
Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill yn yr adran Tystiolaeth a Gweithrediadau Rheoli Adnoddau Naturiol, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Eleanor Ellick at eleanor.ellick@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn brif bwynt cyswllt â rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar y dull rheoleiddio, cyngor technegol ac arweiniad ar gyfer yr holl Sectorau Diwydiant a Gwastraff perthnasol.
- Rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisi gweithredol a deddfwriaeth newydd, dehongli deddfwriaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol ar gyfer y sector(au) penodol a meysydd cyfrifoldeb.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
- Cefnogi datblygiad a hyfforddiant staff ar draws CNC drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad technegol, deddfwriaethol a rheoleiddiol.
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth gan gynnwys comisiynau gan RBB i sicrhau dealltwriaeth a defnydd cyson a phriodol ymysg staff sy’n galluogi CNC i ddarparu gwasanaeth rheoleiddio effeithiol.
- Cyfrannu at gyflawni cynllun busnes y tîm, cynllun cyflawni’r gyfarwyddiaeth a chynllun corfforaethol CNC.
- Cefnogi’r gwaith o fentora a hyfforddi Cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm ddigon o gydnerthedd technegol a deddfwriaethol ar gyfer eich maes gwaith penodedig.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynllunio fframweithiau monitro a gwerthuso ymyriadau rheoleiddio i lywio asesiad o'r angen i CNC wella prosesau rheoleiddio a thrwyddedu.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; a’r hyn sy’n sbarduno polisïau Llywodraeth Cymru a’r DU yn eich sector(au) penodol.
- Profiad o hysbysu a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
- Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
- Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau rheoleiddio.
- Gallu gweithio'n gyflym a meddu ar brofiad cydnabyddedig o gyflawni.
- Bod yn arloesol a dangos cymhelliant i gyrraedd targedau.
- Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.