Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg yn Ne Cymru

 

 

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 22 Mai 2025

Rhifau y swyddi: 203575, 203578

Y rôl

Mae Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) – pwrpas ein Sefydliadau – wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gan bawb yn CNC rôl i’w chwarae wrth gyflawni SMNR ac o fewn hynny mae rôl CNC o ran sicrhau cydnerthedd ecosystemau yn sail i les ehangach yng Nghymru.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan benodol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy trwy gyflawni cylch gwaith Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ar draws Gogledd Cymru. Bydd deiliaid y swydd yn cyfrannu arbenigedd technegol penodol i’r tîm mewn o leiaf un o’r meysydd gwaith canlynol: 

Gwaith Rheoli'r Amgylchedd gan gynnwys rheoli digwyddiadau, rheoleiddio a chydymffurfio â'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR), a chyflwyno datrysiadau a phrosiectau partneriaeth rheoleiddio a chefnogol sy'n cyflawni canlyniadau amgylcheddol ar lawr gwlad.  

Prif ffocws y rôl yw cynnal arolygiadau cydymffurfio amaethyddol i geisio sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol. Er mai ein dyhead yw gweithio gyda’r gymuned amaethyddol i sicrhau cydymffurfiaeth, byddwn yn defnyddio ein hofferynnau gorfodi i sicrhau cydymffurfiaeth fel y bo’n briodol.   

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nicola Mills ar nicola.mills@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys deiliaid trwyddedau, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau trydydd sector, i alluogi eraill i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau a chynlluniau partneriaeth o'r syniadau gwreiddiol i’r cam gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau wedi'u halinio i flaenoriaethau o ran lle.
  • Asesu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ac amodau trwydded neu gydsyniad. Pan nodir diffyg cydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn dychwelyd at gydymffurfiaeth mor gyflym â phosibl. Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Llunio cydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd y cytunwyd arnynt i gefnogi penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymholiadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflwyno'n fanwl gywir ac yn effeithiol.
  • O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor proffesiynol lleol ac ymatebion i ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal perthynas waith gyda'r timau hyn trwy gysylltiadau rheolaidd.
  • Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, darparu prosiectau neu gydymffurfio â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer i sicrhau y darperir canlyniadau.
  • Chwarae rôl o fewn Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn i Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dilyn prosesau’r sefydliad, i sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth ymarferol dda am reoli’r amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o'r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm.
  2. Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  3. Sicrhau datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus, arbenigedd a chymhwysedd trwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio.
  4. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.  
  5. Y gallu i ddylanwadu, trafod a chydweithio ag eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl/sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
  6. Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol neu gymwysiadau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi'u haddasu.
  7. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
  8. Meddu ar drwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru (ceir a faniau) 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf