Cynllun Graddio Rheoli Gwastraff

Dyddiad cau: 22/06/2025 | Cyflog: Gradd 3: £28,932-£30,955 y flwyddyn. | Lleoliad: 2x Gogledd Cymru, 4x De Cymru       

 

Efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau 'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwastraff Unwaith Mewn Gweithrediadau / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb:  Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/03/2026 gyda possibilrwydd o estyniad am 12 mis.

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 07/07/2025

Rhif swydd: 203542, 203543, 203544, 203545, 203546, 203547

Y rôl

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd CNC yn cynnig chwe lleoliad â thâl a fydd yn dechrau ym mis Medi 2025. Mae'r rhain yn benodol ar gyfer y rhai sydd ar fin graddio neu sydd wedi graddio’n ddiweddar mewn disgyblaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd neu faes cysylltiedig.

Ydych chi'n angerddol am ddiogelu adnoddau naturiol Cymru? Ydych chi eisiau helpu i gyflawni ymrwymiadau Cymru i gyrraedd dim gwastraff erbyn 2050 a lleihau ein hallyriadau carbon? Os felly, dyma'r amser i ymuno â ni, Mae 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru yn gynllun i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith nad yw ein llwybr tuag at economi ddiwastraff, carbon isel erioed wedi bod mor bwysig. Mae'n gyfnod cyffrous i reoleiddio gwastraff.

Mae pedair Llywodraeth y DU yn cyflwyno system Olrhain Gwastraff Digidol a fydd yn gweddnewid y ffordd y mae gwastraff yn cael ei olrhain, gan fynd i'r afael â throseddau gwastraff a helpu Cymru i reoli gwastraff yn fwy cynaliadwy.

Bydd y lleoliadau yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o’n helpu i ymgorffori a rheoleiddio'r gofynion newydd. Drwy ddefnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, yn ymgymryd â chamau gorfodi cymesur ac yn cyflawni nifer o fuddion yn sgil ein hymyriadau rheoleiddiol.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion rheoleiddio eraill a lleoliadau addysg uwch yn y Tîm Gwastraff Unwaith o fewn Gweithrediadau yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Byddwch yn cael pecyn hyfforddi llawn a byddwch yn cael eich mentora gan dimau a chydweithwyr ledled Cymru sy'n gyfrifol am gyflawni gwaith polisi rheoleiddio gwastraff. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac ochr yn ochr â'n staff i brofi ystod amrywiol o gyfleoedd ac arferion i ddiogelu a gwella'r amgylchedd drwy gyfuniad o weithgareddau yn y swyddfa a gwaith maes.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kate Jones at kate.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 07/07/25.  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rhoi cyngor a chanllawiau i fusnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a'r trydydd sector i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o fonitro a chasglu data i dargedu gweithgareddau ac asesu cydymffurfiaeth.
  • Byddwch yn cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Datblygu a chynnal systemau i gofnodi ac olrhain cydymffurfiaeth a sicrhau bod materion yn cael eu huwchgyfeirio.
  • Lle bo achos o ddiffyg cydymffurfio, byddwch yn cefnogi ymyriadau priodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth unwaith eto cyn gynted â phosib, gyda chyn lleied â phosib o effaith ar yr amgylchedd a chan ystyried yr effeithiau economaidd.
  • Rheoli materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd a chyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a lles cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd  israddedig (neu gymhwyster lefel uwch) mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a chynaliadwyedd gan sefydliad addysg uwch.
  2. Dealltwriaeth dda o egwyddorion rheoli gwastraff a deddfwriaeth gysylltiedig, gan gynnwys cylch gwaith CNC ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu a'r economi gylchol.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a sefydliadau rheoledig, gan esbonio'r gofynion a dylanwadu'n gadarnhaol i wella cydymffurfiaeth.
  4. Sgiliau TGCh da.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf