Dyddiad cau: 27 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203541

Y rôl

Bydd yr Arbenigwr Sŵn Arweiniol yn arwain y gwaith o ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol ar acwsteg, rheoli sŵn a seinwedd i lunio / llywio polisi’r Llywodraeth, ymagwedd sefydliadol Cymru ac agendâu rhanddeiliaid, ac arwain ar bolisi sŵn/canllawiau safbwynt CNC wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau amgylcheddol eraill yn y DU, ar ddarparu cymorth technegol ar sŵn/dirgryniad a’r ffyrdd o’i fonitro ac asesu i adrannau Trwyddedu a Gweithrediadau Ardal CNC.

Mae'r rôl hon yn adrodd i arweinydd y Tîm Ansawdd Aer a Sŵn, o fewn y Grŵp Tystiolaeth Integredig yn yr Adran Dystiolaeth a Gwybodaeth.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jiping Shi ar jiping.shi@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni


Prif rôl y Tîm Ansawdd Aer a Sŵn yw arwain y gwaith o fonitro a modelu ansawdd aer a sŵn a darparu cyngor asesu effeithiau i wneud penderfyniadau a chadarnhau cydymffurfiaeth o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a chynnal ymgyngoriadau Cynllunio Datblygu ar draws yr holl gyfarwyddiaethau a gweithgareddau rheoleiddio gydag allyriadau i'r awyr (gan gynnwys sŵn), i wella ansawdd aer a sŵn yng Nghymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a darparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar wasanaeth Sŵn i Gymru, gan sicrhau bod penderfyniadau lleol yn gyson ac yn unol â’r dull gweithredu a gytunwyd gan y llywodraeth.
  • Arwain ar bolisi sŵn/canllawiau sefyllfa CNC gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau amgylcheddol eraill y DU, ar ddarparu cymorth technegol ynglŷn â sŵn/dirgryniad a’u monitro a’u hasesu ar ran Lleoedd, Trwyddedu a’r adran Gyfreithiol.
  • Darparu hyfforddiant arwain a mentora ar fonitro a rheoli sŵn/dirgryniad ar ran Lleoedd, Trwyddedu a’r adran Gyfreithiol.
  • Meddu ar y gallu i ddatblygu ac arfarnu asesiad monitro sŵn mewn senario cymhleth.
  • Gweithredu fel prif gyswllt sŵn CNC o fewn rhwydwaith sŵn y DU gyfan i gyfnewid gwybodaeth, dulliau ac arfer gorau ym maes asesu effaith sŵn. Cynnal a diweddaru canllawiau sŵn gan gynnwys rheoli sŵn a dirgryniad Asiantaethau Amgylcheddol y DU: trwyddedau amgylcheddol
  • Bydd angen profiad o weithio gyda diwydiant i ddadansoddi a gwella effaith sŵn.  
  • Rheoli rhwydwaith sŵn CNC. Cefnogi’r gwaith o ddatblygu offer a gweithdrefnau i hwyluso dadansoddi a phrosesu data gan alluogi dehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol a throi data yn dystiolaeth sy'n berthnasol yn lleol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR..Byddai deiliad y swydd angen gradd neu gyfwerth mewn pwnc peirianneg neu wyddoniaeth priodol a chymhwyster lefel uwch mewn acwsteg, e.e. Diploma’r Sefydliad Acwsteg mewn Acwsteg a Rheoli Sŵn neu’n gweithio tuag at gyflawni’r cymhwyster hwn o fewn 2 flynedd.

  1. Byddwch naill ai’n aelod siartredig o’r Sefydliad Acwsteg neu’n meddu ar y profiad angenrheidiol i fodloni’r gofynion.
  2. Byddwch naill ai’n aelod siartredig o’r Sefydliad Acwsteg neu’n meddu ar y profiad angenrheidiol i fodloni’r gofynion.
  3. Profiad rheoleiddio neu ddiwydiannol gyda phwyslais arbennig ar Acwsteg, gydag ymarfer acwsteg diweddar sylweddol.
  4. Yn gyfarwydd â'r technegau diweddaraf ar gyfer monitro sŵn a dirgryniad, gan gynnwys offer, asesiadau effaith a mesurau atal a lliniaru priodol ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad.
  5.  Fel arbenigwr, bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr rhagorol, yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol effeithiol, a bod yn weithiwr tîm cryf.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf