Dyddiad cau: 03/09/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg o fewn De Cymru

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr  / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 25/09/2025

Rhif swydd: 203455

Y rôl

Fel geomorffolegydd yn y Tîm Hydroleg a Geomorffoleg, yn eistedd yn ein Hadran Rheoli Llifogydd a Dŵr yn ne Cymru, byddwch yn gweithio fel un o dri geomorffolegydd. Byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad geomorffolegol ymarferol i amrywiaeth o gwsmeriaid mewnol ac allanol ledled de Cymru. 

Mae eich rhanbarth gwaith yn cwmpasu rhai o afonydd eiconig Cymru, o afon Teifi yng ngorllewin Cymru i afon Gwy ym Mhowys. Bydd eich gwaith yn gyfuniad o waith swyddfa a gwaith maes ac yn amrywio o ran natur, ond gallai gynnwys cynnal arolygon afonydd ac yna prosesu a dadansoddi data a gasglwyd, rhoi cyngor i'n cydweithwyr trwyddedu, neu gynnal gwaith maes fel rhan o un o'n prosiectau adfer afonydd. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â 
Dale Coxdale.cox@naturalresourceswales.gov.uk neu
Lloyd Jones - lloyd.jones@naturalresourceswales.gov.uk  


Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Fel rhan o'r Tîm Hydroleg a Geomorffoleg, mae'r rôl hon yn hanfodol wrth gyflawni ein holl flaenoriaethau corfforaethol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal a gwella cynefinoedd afonydd ar draws de Cymru, gan helpu natur i adfer yn eich gwaith ar brosiectau adfer afonydd a helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn i newid hinsawdd trwy eich gwaith gyda'n cydweithwyr trwyddedu.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Dadansoddi, dehongli a llunio adroddiadau ar ddata gwyddonol technegol, gan ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel i'r timau perthnasol, er mwyn cefnogi eu penderfyniadau a'u helpu i warchod yr amgylchedd.  
  • Ymchwilio i geisiadau am drwyddedau a atgyfeiriwyd a gwneud sylwadau arnynt, gan ddarparu ymateb technegol i ganolfan drwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), awdurdodau, datblygwyr a thimau rheoli adnoddau naturiol yn unol â pholisi cyfredol CNC, er mwyn cael dylanwad ar drwyddedu a datblygu cynaliadwy a’u hyrwyddo.
  • Cynghori ar gydymffurfedd â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a deddfwriaeth berthnasol arall.
  • Gweithredu fel cynghorydd technegol ar adfer afonydd, biobeirianneg a mesurau rheoli llifogydd yn naturiol.
  • Darparu mewnbwn technegol i ganllawiau ar gyfer rheoli perygl llifogydd, trwyddedu, gorfodi, adfer tynnu dŵr cynaliadwy, a phrosiectau priodol eraill.
  • Darparu mewnbwn technegol i’r gwaith o ddatblygu arferion geomorffolegol yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar rôl y maes mewn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Rhoi cymorth technegol i gydweithwyr CNC ar faterion geomorffolegol cymhleth.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau argyfwng yn llwyddiannus, gan gynnwys rheoli digwyddiadau sychder a llifogydd.
  • Cynnal arferion gorau iechyd a diogelwch drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau ein bod yn darparu arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Asiantaeth yr Amgylchedd. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddoniaeth amgylcheddol neu beirianneg sifil).  
  2. Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru) neu’n gweithio tuag at gael aelodaeth.
  3. Yn gallu dangos cymhwysedd mewn gwyddoniaeth geomorffolegol a bod â'r gallu i'w gymhwyso'n ymarferol ac yn arloesol ar lefel weithredol.  Bydd profiad wedi'i ennill dros nifer o flynyddoedd gan ddefnyddio dulliau, technegau a chyfrifiadau geomorffolegol, gyda rhywfaint o brofiad o weithio ar safleoedd afonydd.
  4. Dealltwriaeth dda o elfennau hydromorffolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn ogystal â'r gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol ar agweddau o'r fath.
  5. Y gallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
  6. Y gallu i ymgymryd â gwaith maes mewn amgylchedd sy'n heriol yn gorfforol o bryd i'w gilydd.
  7. Trwydded yrru lawn y DU. 

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf