Uwch-gynghorydd Polisi Gwastraff
Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rhaglen Diwygio Rheoleiddio Gwastraff
/ Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203312
Y rôl
Bydd y rôl yn rhoi cyfle i chi archwilio a datblygu arbenigedd mewn amrywiol feysydd polisi gwastraff gan gynnwys rheoleiddio ar y safle a rheoleiddio nad yw'n seiliedig ar safle (er enghraifft dyletswydd gofal gwastraff, deddfwriaeth cofrestru cludwyr, Cludo Gwastraff Rhyngwladol a thipio anghyfreithlon).
Byddwch yn gweithio ar lefel genedlaethol a lefel y DU wrth ddatblygu polisi gwastraff, byddwch yn rhoi cymorth technegol i’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ac Uwch Gynghorwyr Arbenigol yn y tîm er mwyn cynnig cyngor polisi traws-gyfarwyddiaeth, a mewnbwn i ddeddfwriaeth newydd a diwygiedig.
Arwain a chyfarwyddo’r busnes ehangach drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i lunio/ llywio Polisi’r Llywodraeth, yr ymagwedd sefydliadol ar gyfer Cymru ac agendâu rhanddeiliaid ar gyfer eu sector(au) penodedig.
Rheoleiddio seiliedig ar safle (Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol gan gynnwys gweithrediadau a gweithfeydd gwastraff, esemptiadau, Ailgylchu Cyfleusterau Materol, Gwastraff Mwyngloddio).
- Rheoleiddio nad yw'n seiliedig ar safle (Diffiniad o Wastraff / Diwedd Gwastraff).
- Cyfundrefnau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pacio, Batris, WEEE).
- Gwastraff Peryglus
- Economi gylchol - gweithio gydag eraill i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.
- Sector Gwastraff (Trin a Defnyddio Biowastraff, trin a rheoleiddio gwastraff anadweithiol nad yw’n beryglus a gwastraff peryglus, tirlenwi, metelau eilaidd ac ynni o wastraff).
- Cynllun Lwfans Tirlenwi/Targedau adennill awdurdodau lleol.
- Ymagwedd polisi a strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â throseddau gwastraff.
- Ymagwedd strategol tuag at dystiolaeth a dadansoddi data gwastraff.
- Dyletswydd Gofal/cofrestru cludwyr.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Louise Peel ar Louise.Peel@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Prif rôl y tîm Polisi Gwastraff yw arwain strategaeth a chyngor ar sail tystiolaeth ar gyfer Gwastraff ac Adnoddau ar draws yr holl gyfarwyddiaethau a gweithgareddau rheoleiddio, gan gyfleu canlyniadau ein gwaith i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol i gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Rydym yn cynghori Llywodraeth Cymru ac yn gweithio gydag eraill i hyrwyddo symudiad tuag at economi gylchol a rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, drwy leihau’r gwastraff a gynhyrchir, ailddefnyddio ac adennill gymaint ag sydd bosibl, a sicrhau bod defnydd terfynol cynaliadwy a phriodol ar gyfer y deunydd hwn.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo’r tîm i ddatblygu cysylltiadau gwaith effeithiol a ffyrdd newydd o weithio gyda grwpiau o bob rhan o’r sefydliad er mwyn cyflawni’r ffordd orau o gyflwyno’r amcanion corfforaethol;
- Cynorthwyo gyda datblygiad technegol “dulliau rheoleiddio” arloesol; er mwyn cyflwyno’r “canlyniadau rheoleiddiol” y mae ar Cyfoeth Naturiol Cymru eu hangen.
- Dehongli data ac arsylwadau er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol a chanllawiau’r diwydiant a chynghori’n unol â hynny.
- Gwerthuso’r codau, y safonau, y rheoliadau a’r canllawiau presennol a’r rhai a gynigir er mwyn darganfod yr effaith ar raglenni a gweithgareddau presennol a rhaglenni a gweithgareddau’r dyfodol.
- Arwain ar neu gefnogi prosiectau cenedlaethol i gyflawni datrysiadau integredig wedi'u cynllunio a'u rheoli'n dda sy'n hybu newid a gwelliannau effeithiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gyfer busnesau ledled Cymru.
- Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu defnyddio yn y meysydd gwaith y byddwch yn ymgymryd â hwy
- Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ac ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eich sector(au) penodol.
- Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, a hynny ar faterion amgylcheddol yn ddelfrydol.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflenwi canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a’r sefydliad ehangach.
- Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da er mwyn gallu cyfleu materion technegol a rheoleiddiol cymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio cryf i ddylanwadu ar, neu i helpu i gyflwyno canlyniadau drwy, sefydliadau partner/rhanddeiliaid.
- Profiad o ddeall a defnyddio gweithgareddau rheoleiddiol.
- Gallu gweithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol a dangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu trwy gyfrwng cyfatebol arall.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.