Dyddiad cau: 31/08/2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cyngor a Rheoli yr Ardal Forol / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 12/09/2025

Rhif swydd: 203299, 202438

Y rôl

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Morol Cymru gyfan clòs, fel un o ddeg uwch-gynghorydd morol. Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn darparu ac yn rheoli cyngor technegol arbenigol i gefnogi rheolaeth gynaliadwy Ardaloedd Morol Gwarchodedig ac ardaloedd morol eraill o amgylch arfordir Cymru ac oddi ar yr arfordir.

Byddwch yn arwain ac yn cydlynu cyngor morol ar ystod eang o waith achos, gan sicrhau bod blaenoriaethau amgylcheddol wedi’u hymgorffori mewn penderfyniadau cynllunio a rheoleiddiol. Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a phartneriaid allanol, byddwch yn hyrwyddo dull gwasanaethau ecosystem sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn helpu i nodi cyfleoedd i gefnogi nodau a rennir ar gyfer yr amgylchedd morol.

Mae’r rôl yn bennaf wedi’i lleoli o’r cartref neu’r swyddfa, gyda chyfleoedd achlysurol ar gyfer gwaith maes ochr yn ochr â’r tîm monitro morol. Bydd angen dealltwriaeth gadarn arnoch o ddeddfwriaeth forol, yn enwedig mewn perthynas â chadwraeth, a phrofiad amlwg mewn gwaith achosion morol cymhleth. Mae sgiliau trefnu cryf a’r gallu i reoli terfynau amser tynn yn hanfodol.
Os ydych chi’n angerddol am gadwraeth forol ac yn mwynhau cydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Gjerlov charlotte.gjerlov@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a / neu gydlynu’r gwaith o ddarparu cyngor morol technegol arbenigol ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr yn nyfroedd Cymru, gan ofyn am gyngor gan y Tîm Cynghori Cymru Gyfan a’r Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol yn ôl yr angen. Bydd yn cynnwys cynigion cymhleth proffil uchel a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol / datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol.
  • Chwarae rôl tyst arbenigol mewn ymholiadau cyhoeddus a fforymau tebyg yn ôl yr angen.
  • Sicrhau ansawdd adroddiadau / asesiadau allanol a mewnol, yn ogystal â’u dehongli a chynghori yn eu cylch.
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau ac ymgysylltiad effeithiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys cysylltu a gweithio mewn partneriaeth, yn arbennig o ran ardaloedd morol gwarchodedig.
  • Dylanwadu a chyfrannu at ddatblygu a chyflenwi Cynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol Cyfoeth Naturiol Cymru, a pholisïau, strategaethau a phrosesau perthnasol eraill Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Darparu cyngor technegol a gweithredol arbenigol ar gyfer y gwaith o ddatblygu safonau / prosesau a chanllawiau corfforaethol.
  • Bod yn barod am ddigwyddiadau llygredd morol ac ymateb iddynt.
  • Mentora a hyfforddi aelodau eraill o’r tîm a chydweithwyr fel y bo angen.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu canllawiau gwaith achos ac yna eu gweithredu.
  • Cyfrannu cyngor technegol at achosion gorfodi, yn fewnol a chyda Llywodraeth Cymru o ran trwyddedau morol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1.    Sgiliau a phrofiad technegol sylweddol yn y maes morol.

2.    Gwybodaeth sylweddol am ofynion deddfwriaethol morol, yn enwedig cadwraeth forol.

3.    Gwybodaeth a phrofiad da o ddulliau monitro a dadansoddi morol.

4.    Gwybodaeth a phrofiad sylweddol o waith achos morol.

5.    Sgiliau dadansoddi a dehongli tystiolaeth forol da, a sgiliau ysgrifennu a beirniadu adroddiadau.

6.    Dealltwriaeth dda o’r sector datblygu arfordirol a morol.

7.    Sgiliau dylanwadu cryf a’r gallu i gyfathrebu, negodi a chydweithio’n effeithiol, yn fewnol ac yn allanol, ar lefelau uwch.

8.    Sgiliau rheoli / cydlynu prosiectau.

9.    Sgiliau hyfforddi a mentora.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf