Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol

Dyddiad cau: 6 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Gogledd Cymru

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Tir yn Gynaliadwy / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu 

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2027

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203241 a 203242

Y rôl

Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm o Swyddogion Cyswllt Coedwig Genedlaethol pwrpasol a fydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag ystod eang o ffermwyr, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid er mwyn cyflawni statws Coedwig Genedlaethol ar gyfer safleoedd ychwanegol. 
Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ffermwyr, tirfeddianwyr, rheolwyr tir a grwpiau cymunedol sy'n ceisio cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli coetiroedd, creu coetir, ymgysylltu â'r gymuned, a mynediad cyhoeddus. 

Byddant yn gweithio mewn modd arloesol gyda phartneriaid eraill i gyflwyno sgiliau a gwybodaeth hanfodol lle bo angen i sectorau penodol. Byddant yn rhoi cyngor i randdeiliaid sy'n cefnogi rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Stacey Delbridge at Stacey.Delbridge@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd rhanddeiliaid newydd a’r rhai presennol gan gynnwys ffermwyr, cymunedau a thirfeddianwyr o bob rhan o Gymru o ran sut y gall coetir newydd gyflawni eu dyheadau a hefyd ar yr un pryd sicrhau buddion amlswyddogaethol i’r amgylchedd, i gymdeithas, a’r economi. 
  • Darparu cyngor i gydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio, i ffynonellu ffrydiau ariannu a hyrwyddo arfer gorau ar gyfer rheoli a chreu coetir. Ochr yn ochr â chefnogi tirfeddianwyr ac asiantiaid coedwigaeth wrth nodi ymgyngoreion, ffynonellau gwybodaeth a chysylltiadau perthnasol i hwyluso’r gwaith o baratoi cynlluniau dylunio creu coetir a chynlluniau rheoli coetiroedd o safon uchel sy’n cydymffurfio ag UKFS. 
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cynigion ac ymholiadau’r Goedwig Genedlaethol. Bydd y Swyddogion Cyswllt yn ymdrin yn rhagweithiol â materion cymhleth a dadleuol sy'n ymwneud â phobl a buddiannau coetir, gan arwain at gyflawni canlyniadau prosiect a datblygu meysydd gwaith yn ôl yr angen. 
  • Rhoi cyngor ar argymhellion ar gyfer safleoedd Coedwig Genedlaethol ychwanegol y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru trwy gyfuniad o welliannau a chreu coetiroedd newydd. 
  • Cydgysylltu â staff perthnasol CNC ynghylch rhyngweithio rhwng timau i sicrhau bod rhwymedigaethau o ran prosiectau, polisi neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol. 
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Llais y Goedwig, Cyswllt Ffermio a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru; a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a phrofiad o goedwigaeth/creu coetiroedd/mynediad cyhoeddus/ymgysylltu â'r gymuned yn ystod pob cam o ddatblygu'r prosiect o'r cychwyn hyd at y broses o gyflawni. 
  2. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid allanol a'r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu. 
  3. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu ymrwymiad gweladwy i'ch DPP eich hun (neu barodrwydd i ymuno ag un). 
  4. Profiad rheoli prosiect cydnabyddedig.
  5. Gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm ac arwain timau rhithwir. 
  6. Profiad o reoli materion cynhennus a chysylltu â'r gymuned a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd. 
  7. Meddu ar sgiliau hunanreoli, trefnu a rhyngbersonol cryf ac effeithiol.
  8. Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd hynod gymhleth, datrys problemau, a ffurfio barn gadarn ar sail tystiolaeth.
  9. Gallu ysgrifennu dogfennau clir a chryno.

Gofynion y Gymraeg

  • 203241 Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

  • 203242 Hanfodol: ​Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf