Swyddog Rheoli Cynaliadwy Natura 2000

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Bangor

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203323

Y rôl

Byddwch yn gweithio yn un o dimau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn darparu cyngor yn ymwneud â rheoli safleoedd Natura 2000 yn gynaliadwy er mwyn cefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru i adfer safleoedd Natura 2000. Mae’r rhaglen yn anelu at helpu i fynd i'r afael â'r Argyfwng Natur, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adeiladu ecosystemau gwydn. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid i ddatblygu prosiectau, monitro eu cynnydd a sicrhau eu bod yn cyflawni'n effeithiol ac yn brydlon.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Huw Jones ar Huw.P.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yng Ngogledd Orllewin Cymru a bydd yn cyflwyno rhaglen o waith sy'n canolbwyntio ar gynefinoedd arfordirol ar draws Gogledd Cymru. Byddwch yn rhan o Dîm Amgylchedd amlddisgyblaethol o 12 aelod o staff sy'n canolbwyntio ar reoleiddio amgylcheddol a rheoli safleoedd dynodedig i gyflawni canlyniadau cynllun corfforaethol CNC.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio gyda staff Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol, i ddatblygu prosiectau partneriaeth a fydd yn gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth
  • Nodi a datblygu cynigion ar gyfer cyllid cyfalaf a chymorth grant ar gyfer camau gweithredu a phrosiectau sydd ar waith sydd wedi'u llywio gan flaenoriaethau Dogfen Natur Hanfodol a Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyson ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Gweithio gyda thîm yr amgylchedd, y tîm rheoli tir a thirfeddianwyr i helpu i gyflawni cytundebau rheoli
  • Sicrhau bod gan yr holl brosiectau'r caniatadau angenrheidiol er mwyn iddynt allu mynd rhagddynt
  • Helpu i fonitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, darparu prosiectau neu gydymffurfio â chytundebau rheoli. Nodi a chefnogi unrhyw gamau unioni i sicrhau y cyflawnir canlyniadau. Casglu tystiolaeth i sicrhau bod unrhyw hawliadau a gyflwynir yn briodol
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o gadwraeth natur, bioamrywiaeth, safleoedd a thirweddau gwarchodedig yn yr amgylchedd morol neu ddaearol
  2. Profiad o weithio gyda thirfeddianwyr a/neu randdeiliaid eraill
  3. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.  
  4. Y gallu i ddylanwadu, trafod a chydweithio ag eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl/sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
  5. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.    
  6. Gallu rhagorol am feithrin cydberthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol.
  7. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol clir a chryno.
  8. Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol neu gymwysiadau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi'u haddasu.
  9. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.
  10. Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig) 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf