Ymgynghorydd Geomorffoleg
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg yn Ne Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31st Mawrth 2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203176
Y rôl
Byddwch yn ymuno â Thîm Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr yn Ne Cymru, o fewn ein Hadran Rheoli Llifogydd a Dŵr. Rydym yn dîm aml-swyddogaeth mawr sy'n cwmpasu De a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio ar rai o afonydd mwyaf eiconig Cymru o afon Teifi i afon Gwy a phob anfon yn yr ardal rhwng y ddwy. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith ar y safle ac yn y swyddfa, a byddwch yn cael y cyfle i ddarparu atebion ymarferol a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â’r Argyfwng Natur a Hinsawdd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lloyd Jones ar lloyd.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Dadansoddi, dehongli a pharatoi adroddiadau ar ddata gwyddonol technegol, gan ddarparu gwybodaeth o ansawdd da i'r timau perthnasol, i gefnogi eu penderfyniadau ac i'w helpu i ddiogelu'r amgylchedd.
- Ymchwilio a gwneud sylwadau ar geisiadau am drwyddedau a gyfeiriwyd, gan ddarparu ymateb technegol i ganolfan drwyddedu CNC, awdurdodau, datblygwyr, timau NRM yn unol â pholisi cyfredol CNC, i ddylanwadu ar drwyddedu a datblygu cynaliadwy a’u hyrwyddo.
- Rhoi cyngor ar gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD), a deddfwriaeth berthnasol arall.
- Gweithredu fel cynghorydd technegol ar fesurau adfer afonydd, biobeirianneg a rheoli llifogydd yn naturiol (NFM).
- Darparu mewnbwn technegol i ganllawiau ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, Trwyddedu, Gorfodi, Adfer Tynnu Dŵr yn Gynaliadwy, a phrosiectau priodol eraill.
- Darparu mewnbwn technegol i ddatblygiad arferion geomorffolegol yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ei rôl yn y Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol.
- Darparu cymorth technegol i gydweithwyr CNC ar faterion geomorffolegol cymhleth.
- Cyfrannu at ddatblygiad llwyddiannus a gweithredu cynlluniau brys gan gynnwys rheoli sychder a llifogydd.
- Cefnogi arferion gorau o ran Iechyd a Diogelwch drwy fynd ati’n rhagweithiol i hybu ymwybyddiaeth a sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu darparu i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Radd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil).
- Aelod o gorff proffesiynol priodol (e.e. CIWEM neu ICE) ac yn gweithio tuag at ddod yn siartredig yn y dyfodol agos.
- Y gallu i ddangos cymhwysedd mewn gwyddoniaeth geomorffolegol a'r gallu i gymhwyso'n ymarferol ac yn arloesol ar lefel weithredol. Bydd profiad wedi cael ei ennill dros nifer o flynyddoedd gan ddefnyddio dulliau, technegau a chyfrifiadau geomorffolegol, gyda phrofiad cyffelyb o weithio ar safle ar afonydd.
- Dealltwriaeth dda o elfennau hydromorffolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn ogystal â'r gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol ar agweddau o'r fath.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Y gallu i wneud gwaith maes mewn amgylcheddau sydd weithiau'n anodd yn gorfforol.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg
- Dymunol: B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.