Uwch-gynghorydd Datblygu a Pherygl Llifogydd

Dyddiad cau: 17/08/2025| Cyflog: Gradd 6: £41,132- £44,988 | Lleoliad: Bwcle, Bangor neu'r Trallwng

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Datblygu a Pherygl Llifogydd / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 15/09/2025

Rhif swydd: 202851

Y rôl

Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu cymunedau a chefnogi datblygu cynaliadwy drwy ymuno â’n tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd, sydd yn un o’r naw maes gwasanaeth allweddol ym maes rheoli perygl llifogydd. Fel uwch-gynghorydd, byddwch yn rhan o dîm gwybodus ac ymroddedig o ddeg, yn gweithio ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru (Gweithrediadau’r Gogledd).

Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn darparu cyngor arbenigol ar faterion perygl llifogydd ar gyfer ceisiadau cynllunio a chydsyniadau seilwaith, gan helpu i sicrhau bod datblygiadau’n cyd-fynd â pholisi TAN 15 (2025) Llywodraeth Cymru ar y perygl o lifogydd ac erydiad arfordirol. Bydd eich mewnwelediad yn hanfodol wrth lunio penderfyniadau cynllunio gwydn ac ymwybodol o’r hinsawdd ar draws y rhanbarth ac wrth ddylanwadu ar eraill ar lefel uwch a datblygu perthnasoedd gwaith cryf.

Y tu hwnt i gynllunio, byddwch yn asesu gwaith brys, yn adolygu ceisiadau am drwyddedau, ac yn cefnogi camau gorfodi o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru) (Perygl Llifogydd) 2016. Dyma gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth dechnegol wrth ddylanwadu ar randdeiliaid allanol a defnyddio offer rheoleiddio i amddiffyn pobl, eiddo a’r amgylchedd.

Byddwch yn rhan o sefydliad sy’n flaengar ac sydd wedi ymrwymo i addasu i’r hinsawdd, a bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni amcanion cynllun corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) erbyn 2030. Os ydych chi’n barod i gymryd yr awenau ar heriau perygl llifogydd hollbwysig ac eisiau i’ch arbenigedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Ames   Charlotte.Ames@cyfoethnaturiocymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu arweinyddiaeth dechnegol broffesiynol, strategol ac arbenigol wrth gymhwyso gwaith cynllunio a thrwyddedu gweithgareddau perygl llifogydd, gan gynnwys darparu cyngor a chyfarwyddyd i uwch-reolwyr, Tîm Arwain CNC a swyddogion Llywodraeth Cymru. 
  • Cyfrannu’n weithredol at is-grwpiau rheoli perygl llifogydd cenedlaethol i gynghori, meithrin cysondeb, datblygu polisi a chanllawiau, a darparu arbenigedd technegol.
  • Meithrin perthnasoedd â phartneriaid proffesiynol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn helpu i gyflawni cynlluniau llifogydd awdurdodau lleol a chodi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd. 
  • Cyflawni ein hymateb i ymgynghoriadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, gan gynnwys asesiadau canlyniadau llifogydd strategol, Cynlluniau Datblygu Lleol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
  • Arwain ar ymatebion i apeliadau ac ymchwiliadau cynllunio.
  • Arwain y tîm wrth gyflwyno trwyddedau gweithgareddau perygl llifogydd ar gyfer yr ardal, gan gynnwys asesu a gwirio cydymffurfedd â gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a’r Ddeddf Draenio Tir. 
  • Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y ceir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymwysterau perthnasol – wedi eich addysgu i lefel gradd mewn disgyblaeth wyddonol neu beirianneg.
  2. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu’n gweithio tuag ato.
  3. Dealltwriaeth gynhwysfawr o Nodyn Cyngor Technegol 15 Llywodraeth Cymru a Chanllawiau Cynllunio Cymru i arwain y tîm ar safleoedd cymhleth a dadleuol, gan gynnwys dehongli a gweithredu polisi Llywodraeth Cymru. 
  4. Dealltwriaeth drylwyr o egwyddorion peirianneg, technegau adeiladu, lluniadau peirianneg a datganiadau dull gwaith cymhleth. 
  5. Dealltwriaeth drylwyr o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a’r broses ar gyfer trwyddedau gweithgareddau perygl llifogydd CNC. 
  6. Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn modd proffesiynol. 
  7. Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol uwch a dylanwadu arnynt. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf