Cyflwyniad i’r Prosiect a’r Gwasanaeth

Dyddiad cau: 16/07/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoli Gwasanaethau / Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. Gweithio fel rhan o batrwm shifft hyblyg i gyflenwi oriau’r gwasanaeth.  Byddwch hefyd yn gweithio fel rheolwr digwyddiadau ar ddyletswydd ym maes TGCh ar rota ‘y tu allan i oriau’

Dyddiad cyfweld: I’w gadarnhau

Rhif swydd: 201868

Y rôl

Rydym am benodi Rheolwr Pontio Rhwng Gwasanaethau hynod drefnus a rhagweithiol i ymuno â’n tîm Rheoli Gwasanaethau o fewn yr adran Digidol, Data a Thechnoleg yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Bydd y rôl ganolog hon yn arwain y broses o drosglwyddo prosiectau digidol o’r dechrau i’r diwedd i wasanaethau gweithredol byw, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cyd-fynd â methodolegau a safonau rheoli prosiectau corfforaethol CNC. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwasanaethau digidol newydd neu well yn cael eu darparu’n esmwyth ac yn effeithiol, a chyda chynaliadwyedd hirdymor mewn golwg.

Fel Rheolwr Pontio Rhwng Gwasanaethau, byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau prosiect a chynnyrch – o fewn yr adran Digidol, Data a Thechnoleg ac ar draws y sefydliad ehangach – i gydlynu’r broses o dderbyn gwasanaethau, gan sicrhau bod gwasanaethau newydd yn rhai y gellir eu cefnogi, yn ddiogel, ac yn barod i’w defnyddio’n weithredol.

Byddwch hefyd yn rhoi sicrwydd i’r Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ynghylch y parodrwydd sefydliadol a thechnegol i gefnogi gwasanaethau ar ôl iddynt fynd yn fyw, gan helpu i ymgorffori’r gwasanaethau hyn mewn gweithrediadau busnes fel arfer.

Mae’r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth gref o egwyddorion Rheoli Gwasanaethau TG (ITSM) a fframwaith ITIL (Llyfrgell Seilwaith Technoleg Gwybodaeth), sgiliau ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol, ac ymrwymiad i sicrhau nad yn unig y caiff atebion digidol newydd eu cyflwyno – ond y cânt eu mabwysiadu a’u cynnal yn llwyddiannus ar draws y sefydliad.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sarah Griffith ar sarah.griffith@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Wedi’i sefydlu yn 2013, mabwysiadodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) strategaeth sy’n canolbwyntio ar y cwmwl o’r cychwyn cyntaf, yn rhydd o systemau etifeddol a mudo ar raddfa fawr. Mae ein hadran Digidol, Data a Thechnoleg wedi’i strwythuro’n dimau arbenigol sy’n rheoli amgylchedd cwmwl Azure aml-ranbarthol sy’n cefnogi gwasanaethau cenedlaethol hanfodol, gan weithredu 24/7.

Mae ein hystâd dechnoleg yn helaeth ac yn hanfodol, gan gynnwys dros 100 o gymwysiadau gwe, systemau modelu amser real, offer rhybuddio cyhoeddus, a data y rhyngrwyd pethau o fwy na 650 o wefannau o bell. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi diogelwch y cyhoedd, diogelu’r amgylchedd, a darparu gwasanaethau o safon.

Wrth edrych ymlaen, mae CNC yn buddsoddi yng ngalluoedd digidol Cymru drwy fod yn bartner â chwmnïau dylunio a datblygu arbenigol. Drwy dimau cyflawni integredig – sy’n cyfuno staff mewnol ac arbenigwyr allanol – rydym yn meithrin capasiti, yn ehangu sgiliau, ac yn cyflawni canlyniadau sy’n cyd-fynd â’n strategaethau digidol a chorfforaethol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynllunio a rheoli datblygiad a chyflawniad prosiectau, a gaiff eu crynhoi’n aml yn rhaglenni bach, o fewn rhaglenni gwaith mawr Digidol, Data a Thechnoleg yn ôl amser, cyllideb ac ansawdd gan ddefnyddio offer rheoli prosiectau, fframweithiau a phrosesau llywodraethu CNC.
  • Sicrhau bod prosiectau’n cynhyrchu’r cynhyrchion gofynnol i’r safon ansawdd ofynnol ac o fewn y cyfyngiadau penodedig o ran amser, cost a chydnawsedd technegol Digidol, Data a Thechnoleg a bod y cynhyrchion yn gallu cyflawni’r manteision a ddiffinnir yn yr achos busnes a gyflwynwyd i’r awdurdod dylunio atebion.
  • Cydlynu a chynghori ar ofynion newid busnes ar gyfer gweithrediadau Digidol, Data a Thechnoleg, gan weithio gyda pherchnogion busnesau yn unol â’r dull strategol a nodir yn y Fframwaith Newid Busnes a sicrhau bod newid busnes yn amserol ac ar lefel briodol.
  • Dylanwadu ar randdeiliaid allweddol a chynnal partneriaethau yn fewnol ac yn allanol, gan wella enw da’r adran Digidol, Data a Thechnoleg drwy ymateb i faterion a godir a’u datrys.
  • Gweithio gydag arweinwyr busnes a defnyddwyr allweddol i adeiladu rhwydweithiau i ddefnyddwyr arbenigol er mwyn cefnogi cymwysiadau yn gynaliadwy dros y tymor hir, gan sicrhau bod cymwysiadau yn cael eu rhoi ar waith gyda’r canllawiau, hyfforddiant a dogfennaeth ategol briodol.
  • Meithrin diwylliant o reoli prosiectau yn yr adran Digidol, Data a Thechnoleg drwy offer, canllawiau a fframweithiau rheoli prosiectau safonol i sicrhau bod gwaith rheoli prosiectau yn gyson ac yn cyflawni’n llwyddiannus i’r sefydliad.
  • Sicrhau bod y gwasanaeth sy’n rhan o’r broses derbyn gwasanaeth yn barod i dderbyn gwerthusiad.
    Cyflwyno canllawiau ar ddylunio a chyflwyno gwasanaethau i’r prosiectau yn unol â strategaeth a pholisïau cyfredol Digidol, Data a Thechnoleg.  
  • Cynllunio, amserlennu a chyflawni tasgau sy’n hwyluso effeithiolrwydd gweithredol y swyddogaeth dylunio a chyflwyno gwasanaeth.
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth gwasanaeth newydd ar gael drwy’r prosiect a’i bod ar gael i’r rheolwr derbyn a rhyddhau gwasanaeth ar gyfer gwerthuso.
  • Cynorthwyo defnyddwyr y swyddogaeth cyflwyno gwasanaeth er mwyn cyflenwi gwasanaethau i’r gwasanaeth cymorth yn effeithiol wrth gydbwyso’r gofyniad i sicrhau y gellir cefnogi a chynnal y gwasanaeth sy’n cael ei drosglwyddo.
  • Dogfennaeth cymorth gwasanaeth ddrafft a RACI, sy’n sicrhau bod y cwsmer a datryswyr Digidol, Data a Thechnoleg yn deall y gofynion cymorth.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad ITIL yn orfodol, yn ddelfrydol â chymwysterau mewn ITIL Sylfaen.
  2. Profiad o weithio o fewn swyddogaeth rheoli gwasanaeth.
  3. Dealltwriaeth ardderchog o brosesau cam cynllunio gwasanaeth.
  4. Dealltwriaeth ardderchog o swyddogaethau sy’n seiliedig ar drawsnewid, yn enwedig rheoli newid a rhyddhau.
  5. Dealltwriaeth o swyddogaethau sy’n ymwneud ag ITIL, yn enwedig rheoli rhyddhau, rheoli digwyddiadau a rheoli problemau.

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol: A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf