Dadansoddwr Cymorth Wrth y Ddesg x 2
Dyddiad cau: 06/08/2025 | Cyflog: Gradd 4, £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Abertawe
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Cymorth Wrth y Ddesg / Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos dechrau 18/08/2025
Rhif swydd: 201810, 201811
Y rôl
Fel Dadansoddwr Cymorth Wrth y Ddesg, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cymorth TG o safon, wyneb yn wyneb ac o bell, i gydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch yn datrys problemau technegol sy’n ymwneud â gliniaduron, cyfrifiaduron pen desg, ffonau symudol, argraffyddion a thechnoleg arall sy’n wynebu’r defnyddiwr - gan helpu i sicrhau bod ein pobl yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn gysylltiedig, lle bynnag y maent yn gweithio.
Gan weithio fel rhan o’r Tîm Cymorth Wrth y Ddesg, byddwch yn ymateb i geisiadau cymorth, yn ymchwilio i namau technegol, ac yn rheoli tasgau sy’n gysylltiedig ag asedau gyda phroffesiynoldeb a sylw i fanylion. Byddwch hefyd yn cynorthwyo mewn cyflwyniadau technegol mwy, fel rhaglenni amnewid dyfeisiau, ac yn cyfrannu at brofi a sicrhau ansawdd caledwedd newydd.
Mae hon yn rôl gydweithredol iawn sy’n gofyn am sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, meddylfryd datrys problemau, a’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda defnyddwyr, desg wasanaeth y tîm TGCh, a chydweithwyr TG eraill.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Benji Stubbs ar benji.stubbs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae’r Tîm Cymorth Wrth y Ddesg yn dîm bach, cyfeillgar o saith gweithiwr proffesiynol TG ledled Cymru, i gyd yn ymroddedig i gefnogi staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn eu defnydd dyddiol o dechnoleg. Rydym yn sicrhau bod gan gydweithwyr yr offer a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i warchod a gwella amgylchedd Cymru.
Fel tîm, ni yw’r arbenigwyr i droi atynt am gymorth TG wyneb yn wyneb ac ymarferol. Rydym yn pontio’r bwlch rhwng y systemau digidol a’r bobl sy’n dibynnu arnynt – boed hynny’n disodli caledwedd sy’n heneiddio, datrys problemau meddalwedd, neu sicrhau cysylltedd symudol yn y maes.
Mae ein gwaith yn cefnogi nodau strategol CNC yn uniongyrchol drwy gadw systemau’n rhedeg yn esmwyth, galluogi cydweithio, ac ymateb yn gyflym pan fydd pethau’n mynd o chwith.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cymryd cyfrifoldeb dros ddigwyddiadau a cheisiadau sy’n berthnasol i’r tîm, gan ddefnyddio profiad a sgiliau datrys problemau i ymchwilio a datrys mewn modd amserol ac effeithlon.
- Ymgysylltu mewn cyfathrebu clir â staff i drefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu sesiynau o bell i ymchwilio i broblemau caledwedd a/neu gymwysiadau a’u datrys.
- Cynnal perthynas gref â’r ddesg wasanaeth TGCh er mwyn rhannu arbenigedd ail linell, a chymheiriaid mewn timau gweithredol eraill er mwyn datblygu tîm rheoli problemau cadarn, gan weithio’n agos er mwyn ymchwilio i faterion parhaus.
- Gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer problemau cymorth wrth ochr y ddesg oddi wrth y ddesg wasanaeth.
- Defnyddio ystod o dechnegau ymchwil a chyfathrebu i ddatblygu’r arbenigeddau mewn meysydd yng nghylch gwaith y tîm Cymorth wrth Ochr y Ddesg. Bod yn gyfrifol am gynorthwyo’r uwch-beirianwyr cymorth wrth ochr y ddesg a gweithio gyda nhw i ddatblygu sgiliau angenrheidiol.
- Bod yn gyfrifol am brofi’r adeiladwaith ochr y ddesg a ddatblygwyd gan yr uwch-beirianwyr.
- O dan gyfarwyddyd arweinydd y tîm Cymorth wrth Ochr y Ddesg ac uwch-beirianwyr, arwain y gwaith o gyflwyno rhaglenni cyfnewid ar gyfer cyfrifiaduron personol, gliniaduron ac argraffwyr.
- Arwain ar y weithdrefn rheoli asedau a sicrhau ei bod yn cael ei dilyn, gan arwain at stocrestr gywir a thrin asedau a data yn ddiogel.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ffurfweddu argraffwyr a gweinyddion argraffu CNC a datrys problemau sylfaenol sy’n ymwneud â nhw.
- Dangos dull hyblyg tuag at weithio, gan flaenoriaethu pan fydd problemau a cheisiadau uchel eu blaenoriaeth yn cyrraedd y tîm Cymorth wrth Ochr y Ddesg.
- Cydweithio â thimau iechyd a llesiant i osod systemau cyfarpar sgrin arddangos hanfodol a nodwyd ac a gytunwyd rhwng y tîm Digidol, Data a Thechnoleg a’r busnes.
- Cymryd perchnogaeth dros galedwedd newydd a chynnal profion priodol arni wrth baratoi ar gyfer ei chyflwyno i’r staff.
- Cynorthwyo gyda defnyddio systemau gweithredu Windows ar galedwedd CNC (gliniaduron, cyfrifiaduron pen desg a thabledi). Cymryd cyfrifoldeb am reoli’r holl asedau caledwedd a ddefnyddir a’r feddalwedd a osodir ar gyfer staff, a chynnal cofnodion cywir yn gyson trwy gronfa ddata a systemau digidol, data a thechnoleg canolog.
- Gwneud rhai penderfyniadau i ddatrys neu i unioni problemau posib, gan ddefnyddio ystod o sgiliau arbenigol i asesu pa mor gritigol mae’r gwasanaeth neu wasanaethau yr effeithir arnynt, a chymryd camau rhagweithiol i leihau’r risg i staff CNC.
- Darparu cymorth i staff ar sut i ddefnyddio a chynnal a chadw ffonau clyfar a symudol. Datrys problemau a thrwsio unrhyw broblemau a adroddir i’r tîm ac awgrymu newidiadau i’r ffurfweddiad. Darparu ffonau symudol newydd a chyfnewid, gan ddarparu cymorth a nodiadau canllaw.
- Dysgu oddi wrth y peirianwyr wrth ochr y ddesg i wella a datblygu sgiliau technegol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Arbenigedd a sgiliau technegol sy’n canolbwyntio ar dechnoleg bwrdd gwaith.
- Dealltwriaeth o ITIL, yn ddelfrydol ardystiad yn ITIL Foundation, a bod wedi gweithio mewn amgylchedd ITIL.
- Gradd mewn TGCh, neu brofiad cyfwerth.
- Yn gyfarwydd â chysyniadau gweinyddu systemau – gan greu, addasu a datrys problemau cyfrifon.
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gyfforddus ac yn hyderus wrth ddelio â sefyllfaoedd/unigolion heriol, ac ymrwymiad cadarn i gyflenwi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ddefnyddwyr.
- Y gallu i ddadansoddi materion a cheisiadau technegol, gan ddefnyddio’r technegau dadansoddi priodol. I wneud hyn, mae’n bwysig gallu amsugno gwybodaeth newydd yn hawdd, wrth i systemau newydd gael eu cyflwyno i gylch gwaith y tîm, a bod yn gallu deall a chofnodi gofynion defnyddwyr.
- Y gallu i weithio o fewn amgylchedd pwysau uchel, i gyflawni canlyniadau o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt, a chydag agwedd hyblyg at waith, gan flaenoriaethu yn ôl y gofyn pan fydd problemau a cheisiadau â blaenoriaeth uchel yn cyrraedd y tîm Cymorth wrth Ochr y Ddesg
- Trwydded yrru ddilys y DU – bydd teithio i swyddfeydd rhanbarthol yn ofynnol fel rhan o’r swydd hon.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.