Uwch Gynghorydd Llywodraethu, Caffael a Chontractau

Dyddiad cau: 02/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Caffael / Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201738

Y rôl

Chwarae rôl allweddol wrth gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy drwy ddarparu canllawiau caffael a rheoli contractau arbenigol ar draws cytundebau amrywiol.

Byddwch yn sicrhau bod polisïau, templedi a chanllawiau yn adlewyrchu dull sy'n seiliedig ar risg ac yn cydymffurfio'n llawn â gofynion perthnasol yr UE, y DU, Llywodraeth Cymru a CNC. Gan dynnu ar eich arbenigedd mewn cyfraith gaffael, cyfraith achos, ac arferion gorau, byddwch yn darparu cyngor awdurdodol i helpu i lunio cytundebau cadarn a chyfreithiol gadarn.

Fel arbenigwr pwnc, byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu Strategaeth Gaffael a Chontract CNC, gan yrru arferion gorau a sicrhau cydymffurfiaeth o fewn fframwaith llywodraethu masnachol cadarn.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Vernon Lambert at vernon.lambert@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Nodi a rheoli risgiau sefydliadol sy'n gysylltiedig â chaffael a rheoli contractau, gwneud penderfyniadau yn unol ag awdurdod dirprwyedig, a sicrhau bod canlyniadau'n gadarn, yn cydymffurfio ac yn werth am arian o dan egwyddorion ymrwymo ein harian.
  • Hyrwyddo arferion busnes diwygiedig, gan ysgogi newid drwy ddylanwadu ar ganfyddiadau a sicrhau bod amcanion busnes a chydymffurfiaeth yn cael eu bodloni o fewn fframwaith caffael a llywodraethu contract effeithlon, hyblyg a chadarn.
  • Datblygu a chynnal canllawiau, offer, templedi, a deunyddiau hyfforddi ar gyfer caffael a chontractau o fewn CNC, gan sicrhau aliniad ag arferion gorau, gwelliant parhaus, a’r gwersi a ddysgwyd
  • Adolygu a gwella trefniadau caffael a llywodraethu contractau CNC, gan arwain y swyddogaeth gaffael i sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso’n gyson ar draws y sefydliad i ddarparu gwasanaethau effeithiol sy’n cydymffurfio.
  • Dehongli dogfennau deddfwriaethol cymhleth, asesu anghenion a risgiau busnes, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel i wella prosesau caffael a rheoli contractau a lleihau risg i CNC.
  • Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i’r swyddogaeth caffael a chontractau a staff nad ydynt yn ymwneud â chaffael, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ac arferion gorau, cefnogi gwneud penderfyniadau ar sail risg, a chyflawni canlyniadau cynaliadwy.
  • Arwain agweddau penodol ar y Strategaeth Caffael a Chontractau, gan ysgogi canlyniadau caffael a gwelliannau o ran cost, effeithlonrwydd, gwerth, cydymffurfiaeth ac ansawdd, yn unol â thargedau a dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt.
  • Adeiladu a chynnal cydberthnasau cydweithredol â chwsmeriaid mewnol, gan arwain rhaglenni newid allweddol i hybu ymwybyddiaeth o risgiau caffael, cyfleoedd, ac arferion gorau, a dylanwadu ar fabwysiadu prosesau sy'n cyd-fynd ag anghenion busnes.
  • Sefydlu cysylltiadau cadarnhaol â Llywodraeth Cymru, Cyrff a Noddir, Asiantaethau, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan sicrhau cydweithio effeithiol.
  • Datblygu a gweithredu mentrau corfforaethol i sicrhau cydymffurfiaeth â chanlyniadau busnes ac i sicrhau gwelliant parhaus ym maes caffael a rheoli contractau.
  • Arwain neu gymryd rhan mewn timau prosiect sy'n adolygu ac yn gwella canllawiau caffael, polisïau, gweithdrefnau, ac offer ategol, templedi a hyfforddiant a hynny’n barhaus.             
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Aelodaeth lawn o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (MCIPS)
  2. Profiad cadarn ac amlwg o ddeddfwriaeth fasnachol a pholisi sector cyhoeddus.
  3. Dealltwriaeth sylweddol o gysyniadau caffael/masnachol, llywodraethu a thechnegau.
  4. Ffocws craff ar gwsmeriaid, gan sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael eu cydbwyso â gofynion fframwaith llywodraethu caffael CNC.
  5. Profiad sylweddol fel ymarferydd wrth gymhwyso gwybodaeth gaffael a gofynion penodol y swydd.
  6. Profiad trosglwyddadwy o gyflawni amcanion busnes, yn ddelfrydol y rhai sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy a/neu gaffael a rheoli contractau.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf