Swyddog Trwyddedu Coedwigaeth

Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Trwyddedu Coedwigaeth / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201619

Y rôl

Fel Swyddog yn y Gwasanaeth Trwyddedu Coedwigaeth byddwch yn gyfrifol am asesu'r ceisiadau cwympo coed mwy cymhleth, y cynlluniau rheoli coedwigoedd a cheisiadau asesu effaith amgylcheddol yn unol â pholisi, prosesau, canllawiau a gweithdrefnau CNC.  Bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n berthnasol i drwyddedu coedwigaeth. Byddwch yn helpu i sicrhau bod y Tîm Trwyddedu Coedwigaeth yn asesu tua 30% o'n ceisiadau yn fewnol. Rhaid i chi allu gweithio'n effeithlon ac effeithiol a darparu lefel ragorol o gefnogaeth i'r tîm a'n cwsmeriaid.

Rydym yn chwilio am rywun a all ymuno â’n tîm bach ond prysur, sydd â phrofiad a gwybodaeth am goedwigaeth, yn gallu gweithio'n gyflym, cwrdd â therfynau amser, yn rhagweithiol, yn hyblyg ac yn gydweithredol ac sy'n gallu blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol. 

Byddwch yn cefnogi'r sector coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru i reoli coetir yn gynaliadwy a chyflawni'r canlyniadau dymunol yn Strategaeth Coetiroedd i Gymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Suzanne Lilley-Owen at suzanne.lilley-owen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Rydym yn dîm bach prysur o chwech ydym ni sy’n delio â thrwyddedau coedwigaeth ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn gweithio'n agos â'n cydweithwyr yn y Tîm Rheoliadau Coedwig ac Iechyd Coed, y Tîm Amgylchedd a'r Tîm Dulliau Rheoleiddio.  Rydym yn rhan o’r Gwasanaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu sy’n rhan o’r Tîm Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.  Mae rôl Swyddog 2 yn adrodd yn uniongyrchol i'r Arweinydd Tîm Trwyddedu Coedwigaeth.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau trwydded amgylcheddol cymhleth trwy wneud penderfyniadau cadarn ar geisiadau ar gyfer y drefn a neilltuwyd iddynt drwy gynnal asesiad technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC pan fyddant ar gael, a rhoi, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amser a chyllideb.
  • Penderfynu ar geisiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd technegol a/neu raglenni modelu fel sy’n ofynnol gan eich cyfundrefn.
  • Cynorthwyo datblygiad technegol swyddogion trwyddedu o fewn eich tîm trwyddedu penodedig, trwy hyfforddiant uniongyrchol a thrwy gefnogi cyflwyno'r Fframwaith Datblygu Technegol gan ddefnyddio eich arbenigedd yn eich maes cysylltiedig.
  • Cynrychioli'r tîm trwyddedu yn eich maes arbenigedd ar grwpiau technegol mewnol perthnasol, a chyfarfodydd rhanddeiliaid mewnol/allanol.  
  • Gweithredu fel arweinydd ar gyfer penderfyniadau trwyddedu cymhleth, gan gynnwys prosiectau seilwaith llai cymhleth o bwys cenedlaethol.
  • Cydlynu ac arwain wrth baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau trwyddedu.  
  • Darparu cymorth technegol yn eich maes pwnc i dimau gweithredol gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio a chefnogi cyflwyno hyfforddiant strwythuredig yn ôl yr angen.
  • Cyfrannu at well effeithlonrwydd a pherfformiad y tîm trwyddedu, nodi cyfleoedd ar gyfer newidiadau i’r broses a’r canllawiau a chefnogi diwylliant o welliant parhaus ar gyfer eich cyfundrefn a hefyd ar gyfer gweithio ar draws cyfundrefnau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n berthnasol i'r broses drwyddedu.
  2. Profiad ymarferol o asesu ceisiadau trwyddedau perthnasol neu eu defnyddio mewn rôl gydymffurfio.
  3. Hanes o ddarparu’r atebion amserol gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth a phenderfyniadau yn effeithiol ar sail risg.
  4. Profiad o hyfforddi a sgiliau mentora.
  5. Profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid a'r gallu i ddylanwadu a pherswadio i gyflawni canlyniadau amgylcheddol.
  6. Profiad o gyflawni gwelliannau/effeithlonrwydd prosesau.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf