Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr

Dyddiad cau: 27 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 4, £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg ond ffafriaeth i Barc Cathays, Caerdydd

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Trwyddedu Ansawdd Dŵr / Gweithrediadau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377  fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201601

Y rôl

Penderfynu ar geisiadau am drwydded yn unol â pholisi, prosesau, canllawiau a gweithdrefnau cydnabyddedig CNC. Cefnogi'r Gwasanaeth Trwyddedu ac ymateb i ymholiadau cwsmeriaid mewnol ac allanol, wedi'u halinio ag Ansawdd Dŵr.

Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol ac uchel ei gymhelliant i ymuno â'n Tîm Trwyddedu Ansawdd Dŵr prysur ac amrywiol. Prif rôl y Timau Caniatáu Ansawdd Dŵr yw gwella ansawdd dŵr trwy fynd i’r afael â llygredd a chefnogi twf economaidd cynaliadwy trwy benderfynu ar geisiadau am drwyddedau a chaniatâd amgylcheddol o fewn terfynau amser statudol. Byddwch yn gweithio gyda chwmnïau dŵr, diwydiant, busnesau a deiliaid tai ac yn helpu i greu amgylchedd glanach, mwy diogel ac iachach. Byddwch yn gweithio mewn tîm o 8 Swyddog Trwyddedu sy'n gweithio'n hybrid. Lleolir y tîm yn bennaf yng Nghaerdydd ac er mwyn datblygu sgiliau technegol bydd angen mynychu'r swyddfa yn bersonol i dderbyn hyfforddiant a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen.

Mae'r Tîm Caniatáu Ansawdd Dŵr yn rhan o wasanaeth trwyddedu cenedlaethol ehangach sy'n cwmpasu trwyddedu a thrwyddedu Gwastraff, Diwydiant, Morol, Adnoddau Dŵr, Coedwigaeth, Rhywogaethau. Mae'n eistedd o dan y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Chaniatáu.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Emma Jones ar Emma.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â cheisiadau ar gyfer ei weithdrefn neilltuedig trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru lle maent ar gael, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol ag amserlenni a chyllidebau.
  • Cefnogi a gweithio ar y cyd â’r gwasanaeth trwyddedu i sicrhau prosesau effeithlon a chysondeb o ran dull.  
  • Ymgymryd ag adroddiadau sgrinio technegol i lywio penderfyniadau ar geisiadau mewn perthynas â'ch maes pwnc.
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau effeithiol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol) i sicrhau dealltwriaeth dda a dull effeithlon o ddarparu trwyddedau sy'n addas i'w diben ac sy’n trosglwyddo i weithgareddau cydymffurfio.
  • Llunio cofnodion priodol o benderfyniadau, camau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a threfniadol wedi cael eu bodloni.
  • Cynhyrchu gwybodaeth gywir yn rheolaidd ynghylch cynnydd a’i darparu i reolwyr, fel y gellir addasu a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl yr amserlen a'r gost.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Mae angen gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth wyddonol berthnasol i fod yn gymwys ar gyfer Swyddog Trwyddedu 2 o dan drefniadau gosodiadau, morol, gwastraff, ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr.
  2. Profiad o wasanaeth cwsmeriaid a'r gallu i ddylanwadu/darbwyllo i gyflawni'r canlyniad dymunol.
  3. Dealltwriaeth ynghylch y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a sut maent yn ymwneud â'r broses drwyddedu. (Dymunol).
  4. Profiad o wneud penderfyniadau gan ddefnyddio meddalwedd dechnegol a rhaglenni modelu. (Dymunol).
  5. Gallu i nodi effeithlonrwydd a gwelliannau mewn prosesau a ffyrdd o weithio. (dymunol).

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf