Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877| Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Tîm Trwyddedu Rhywogaethau / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 21 Gorffennaf 2025
Rhif swydd: 201583
Y rôl
Fel Arweinydd y Tîm Trwyddedu Rhywogaethau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd uchel i randdeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau trwyddedu rheoleiddiol cadarn, sy’n seiliedig ar risg, yn cael eu gwneud ledled Cymru, gyda’ch arbenigedd yn tanategu ac yn cynnal y gwaith hanfodol hwn.
Gan arwain tîm ymroddedig o saith gweithiwr proffesiynol, byddwch yn eu rheoli a’u cymell i gyflawni portffolio amrywiol o drwyddedau rhywogaethau, sy’n amrywio o ran cymhlethdod a graddfa. Bydd eich arweinyddiaeth yn allweddol wrth gynnal gwasanaeth trwyddedu cyson, effeithlon ac arbenigol.
Mae cydweithio yn ganolog i’r rôl hon. Byddwch chi a’ch tîm yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Trwyddedu ehangach, gan feithrin diwylliant sy’n gwerthfawrogi gwaith tîm, effeithlonrwydd a chryfderau unigol pob aelod o’r tîm. Byddwch hefyd yn cydweithio â rhannau eraill o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gynnwys y timau cynghori ar rywogaethau, timau polisi bioamrywiaeth, a’r tîm dulliau rheoliadol, gan helpu i lunio a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, ac arferion gorau.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn rheoli enw da Cyfoeth Naturiol Cymru, gan sicrhau aliniad â gweithgareddau sefydliadol a llywodraethu ehangach sy’n gysylltiedig â chyfundrefn rheoleiddio rhywogaethau ledled Cymru. Yn ogystal, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o adfer costau ar gyfer gwasanaethau trwyddedu pan fo’n berthnasol, yn gyrru gwelliant parhaus o ran prosesau a safonau, ac yn rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth sy’n dod i’r amlwg a’i goblygiadau posibl i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nicholas Bettinson drwy anfon neges at nicholas.bettinson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r tîm rhywogaethau yn un o sawl tîm yng Ngwasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, mae ein penderfyniadau’n helpu i gyflawni gweledigaeth ein cynllun corfforaethol ar gyfer Cymru yn 2030 fel gwlad lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Darperir gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid yn unol â thargedau lefel gwasanaeth, gan asesu a phenderfynu ar geisiadau cymhleth am drwyddedau rhywogaethau, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau, prosesau a chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r tîm yn cyfrannu’n weithredol at waith datblygu strategol, gan sicrhau bod trwyddedau Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn effeithiol ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth a gofynion rheoleiddiol sy’n esblygu. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn addasu i heriau newydd a sicrhau bod ein prosesau trwyddedu yn parhau i gefnogi datblygu cynaliadwy.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli a chynllunio adnoddau tîm o fewn eich cyllideb ddynodedig er mwyn cyflawni amcanion y cynllun busnes, gan ddangos arweinyddiaeth glir a phersonol ar faterion llesiant, iechyd a diogelwch er mwyn cynnwys y tîm cyfan mewn diwylliant cadarnhaol.
- Rheoli perfformiad y staff yn unol â’r polisïau a gweithdrefnau cyfredol, a sicrhau bod y tîm yn cyflawni targedau’r dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol.
- Gan ddefnyddio eich gwybodaeth fanwl am eich maes arbenigol, byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau rheoleiddio cadarn yn cael eu gwneud gan weithio gyda rhwydweithiau partneriaid mewnol ac allanol y sector rhywogaethau i ddatrys ceisiadau trwyddedau anodd a chymhleth ledled Cymru.
- Cydweithio â chydweithwyr yn yr adrannau Gweithrediadau, Cyfathrebu, Polisi a Chyfreithiol, a chydag uwch-reolwyr, o ran safleoedd rhywogaethau sydd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd neu sy’n cyflwyno risg uchel i enw da’r sefydliad.
- Llywio cynnwys y Cynllun Gwasanaeth Rheoleiddio, gan sicrhau bod y swyddogaeth drwyddedu’n cael ei hadlewyrchu yn y gweithgareddau strategol ar gyfer y trefniadau perthnasol.
- Gan ddefnyddio eich gwybodaeth arbenigol o’r maes pwnc, ymdrechu i wella arbedion effeithlonrwydd o ran proses a pholisi drwy gyfrannu at, a dylanwadu ar newidiadau i bolisïau a chanllawiau, drwy ymgysylltu’n weithredol â chwsmeriaid mewnol a grwpiau llywodraethu mewn perthynas â materion trwyddedu.
- Rhoi strategaethau ar waith a datblygu cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni amcanion y Gwasanaeth Trwyddedu.
- Nodi a rheoli unrhyw risgiau i’r sefydliad a’i enw da, a dadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth sy’n aml yn gymhleth, gan arddangos crebwyll cadarn ac ymwybyddiaeth wleidyddol dda wrth wneud penderfyniadau.
- Fel aelod o grŵp rheoli’r adran, cyfrannu at gyfeiriad a rheolaeth gyffredinol yr adran a’ch grŵp, gan reoli risgiau’n effeithiol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad blaenorol o fod yn rheolwr llinell neu’n rheolwr prosiect a gafwyd drwy arwain, rheoli, cefnogi a datblygu staff.
- Profiad sylweddol o fabwysiadu dull integredig sy’n seiliedig ar risg wrth fynd ati i gyflawni gwaith o fewn eich maes technegol o wybodaeth am rywogaethau.
- Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Profiad o weithio gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu prosesau a systemau er mwyn cynnal eu heffeithiolrwydd a gwella profiad y cwsmer.
- Sgiliau profedig o ran gwneud penderfyniadau ar sail risg, dadansoddi (data tystiolaethol) a datrys problemau.
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf profedig.
- Y gallu i ddefnyddio rhaglenni TG, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol, cronfeydd data, taenlenni, a rhaglenni prosesu geiriau.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.