Swyddog Trwyddedu Gwastraff

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Arweinydd Tîm, Caniatáu Gwastraff / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 19 Mai 2025

Rhif swydd: 201577 

Y rôl

Penderfynu ar geisiadau am drwyddedau yn unol â pholisïau, prosesau, canllawiau a gweithdrefnau cydnabyddedig Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhoi cymorth i'r Gwasanaeth Trwyddedu ac ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol.

Bydd deiliad y swydd yn darparu arbenigedd ar gyfer un o'r trefniadau penodol canlynol:

  • Gwastraff

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Huw Davies, huw.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Penderfynu ar ganlyniad ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol drwy wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â cheisiadau i’w weithdrefn neilltuedig, a gwneud hynny trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru lle maent ar gael, a chyhoeddi, gwrthod neu amrywio trwyddedau yn unol ag amserlenni a chyllidebau.
  • Penderfynu ar geisiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol a meddalwedd dechnegol a/neu raglenni modelu, yn unol â gofynion eich gweithdrefn neilltuedig.
  • Helpu datblygiad technegol swyddogion trwyddedu yn eich tîm trwyddedu neilltuedig drwy hyfforddiant uniongyrchol a thrwy hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Datblygiad Technegol gan ddefnyddio eich arbenigedd yn eich maes perthnasol.
  • Cynrychioli'r tîm trwyddedu yn eich maes arbenigedd ar grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid mewnol/allanol.  
  • Bod yn arweinydd wrth wneud penderfyniadau cymhleth ynglŷn â thrwyddedau, gan gynnwys ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy’n llai cymhleth. 
  • Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â thrwyddedu.  
  • Darparu cymorth technegol yn eich maes gwaith ar gyfer timau gweithredol, gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio, a rhoi cymorth i’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant strwythuredig yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu at wella effeithlonrwydd a pherfformiad y tîm trwyddedu, nodi cyfleoedd i newid y prosesau a'r arweiniad, a chefnogi diwylliant o welliant parhaus ar gyfer eich gweithdrefn neilltuedig ac ar gyfer gwaith ar draws gweithdrefnau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n ymwneud â'r broses drwyddedu.
  2. Profiad ymarferol o asesu ceisiadau perthnasol am drwyddedau neu eu defnyddio o fewn rôl gydymffurfio.
  3. Hanes o ddarparu’r atebion amserol gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth a phenderfyniadau yn effeithiol ar sail risg.
  4. Profiad o hyfforddi a sgiliau mentora.
  5. Profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid a'r gallu i ddylanwadu a pherswadio i gyflawni canlyniadau amgylcheddol.
  6. Profiad o gyflawni gwelliannau/effeithlonrwydd prosesau.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf