Uwch Arbenigol Rheoleiddio Gwastraff
Dyddiad cau: 10/04/2025 | Cyflog: Gradd 8 £52,268 - £57,726 per annum | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu / Tîm Dulliau Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 201545
Y rôl
Gwaith tîm Dulliau Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff yw ysgogi gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd rheoleiddio. Rydym yn rhan o'r Adran Rheoleiddio a Thrwyddedu o fewn Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, ac yn eistedd o fewn y Grŵp Rheoleiddio, Polisi a Dulliau Gweithredu. Rydym yn dîm cyfeillgar a chynhwysol sy'n gweithio ar y cyd â phartneriaid mewnol ac allanol i gyflawni ein nodau. Rydym ar daith gyffrous ac ni allai fod amser gwell i ymuno â ni wrth i ni gefnogi’r gwaith o addasu i newid hinsawdd, yr argyfwng natur a mynd ati i geisio lleihau llygredd yn amgylchedd naturiol Cymru gymaint ag sydd bosibl.
Byddwch yn arweinydd arbenigol ar sector(au) gwastraff a neilltuwyd ac yn cefnogi darpariaeth ehangach o gynllun gwaith y tîm fel y bo'n briodol. Byddwch yn rheoli’r gwaith o gyflwyno rhaglenni CNC i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosesau rheoleiddio ar safleoedd a heb fod ar safleoedd. Bydd hyn yn trosi polisi Llywodraeth Cymru a’r DU yn ddulliau ymarferol o ddarparu. Byddwch yn hyrwyddo ein Hegwyddorion Rheoleiddio ac yn cael eich arwain ganddynt. Byddwch yn gweithio gydag ystod o gydweithwyr o dimau eraill o’r adrannau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector. Byddwch yn cyfrannu at y Cynllun Gwasanaeth Rheoleiddio yn eich meysydd arbenigedd. Byddwch yn hyfforddi ac yn mentora aelodau eraill o'r tîm i gefnogi datblygiad a chynnydd o fewn y tîm. Darparu cyngor arbenigol i dimau i ddylanwadu ar drwyddedu, cydymffurfio a gorfodi o fewn deddfwriaeth a pholisi gwastraff.
Gweithredu fel arbenigwyr proffesiynol yn eich maes gan gefnogi’r timau gweithredol a thrwyddedu ar gyfer un neu fwy o’r canlynol:
- trin a defnyddio biowastraff,
- trin a rheoleiddio gwastraff anadweithiol nad yw’n beryglus
- a gwastraff peryglus,
- tirlenwi,
- metelau eilaidd
- ynni o wastraff
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Emily Roe at
emily.roe@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn brif bwynt cyswllt â rheoleiddwyr amgylcheddol, y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar y dull rheoleiddio, cyngor technegol ac arweiniad ar gyfer yr holl Sectorau Diwydiant a Gwastraff.
- Arwain neu gefnogi prosiectau cenedlaethol i gyflawni atebion integredig sydd wedi'u cynllunio a'u rheoli'n dda sy'n cynyddu newid a gwelliant effeithiol wrth gyflawni rheoleiddio o fewn CNC ac ar gyfer busnesau ledled Cymru.
- Arwain yn benodol ar fentora a hyfforddi Cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm ddigon o gydnerthedd technegol a deddfwriaethol ar gyfer eich maes gwaith penodedig.
- Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu cymhwyso i feysydd gwaith y mae'r tîm yn ymgymryd â nhw.
- Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol, er mwyn caniatáu i staff yn y busnes eu deall a’u defnyddio’n gyson a phriodol er mwyn galluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Gwybodaeth helaeth o ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; gyrwyr polisïau Cymru, Llywodraeth y DU yn y sector Diwydiant a Gwastraff.
2. Dealltwriaeth dechnegol ragorol o'ch maes gwaith penodedig, gyda sgiliau dadansoddol cryf a phrofiad o reoli prosiectau yn llwyddiannus, a gyflawnwyd trwy brofiad gwaith sylweddol mewn maes cysylltiedig.
3. Profiad o hysbysu a dylanwadu ar reoleiddwyr a rhanddeiliaid eraill i alluogi datrys materion amgylcheddol yn effeithiol gan ddilyn egwyddorion SMNR.
4. Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
5. Gallu gweithio'n gyflym â phrofiad cydnabyddedig o gyflawni.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.