Arweinydd y Tîm, Mynediad a Hamdden Awyr Agored
Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Mynediad Addysg a Hamdden / Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201372
Y rôl
Gan adrodd i’r Rheolwr Dulliau Integredig Newid Hinsawdd a Phobl yn yr Adran Rheoli Adnoddau Naturiol (NRM) yn ein Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu (EPP), mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud eich marc i gyfrannu at uchelgais CNC i gysylltu pobl â byd natur yn well. Gwyddom pa mor bwysig yw bod yn yr awyr agored ar gyfer lles personol ond mae hefyd yn hanfodol bod pobl yn malio am eu hamgylchedd os yw am ddylanwadu ar y penderfyniadau a wnânt bob dydd. Fel Arweinydd Tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored byddwch yn arwain tîm sy'n gweithio trwy eraill i hyrwyddo mynediad yn amlach i fwy o bobl o gefndiroedd amrywiol a chyda gwahanol anghenion mynediad i fwynhau amgylcheddau amrywiol a chyfoethog Cymru i ymgymryd â gweithgareddau hamdden.
Byddwch yn arwain y tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored i ddatblygu a chyflawni uchelgais CNC ar gyfer mynediad awyr agored a hamdden yn unol â gwerthoedd CNC. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill yn yr EPP a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid. Byddwch hefyd yn gweithredu fel arbenigwr yn y maes gwaith hwn i arwain, rheoli a chyflwyno polisi CNC, rhaglenni (gan gynnwys rheoli dwy raglen grantiau sefydledig), cynlluniau, strategaethau a chanllawiau. Bydd hyn yn trosi polisi Llywodraeth Cymru a’r DU yn ddulliau ymarferol o ddarparu.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Bill Pervis ar bill.purvis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk or Michelle van-Velzen neu Michelle.van-Velzen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Arwain tîm bach o gynghorwyr arbenigol technegol iawn ac, mewn rhai achosion, gweithredu fel arweinydd arbenigol a rheoli prosiectau materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain tîm bach o gynghorwyr arbenigol technegol iawn ac, mewn rhai achosion, yn gweithredu fel arbenigwr sy'n arwain ac yn rheoli prosiectau penodol a materion cymhleth sy'n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni Cyfoeth Naturiol Cymru;
- Bod yn gyfrifol am gyflawni cynllun gwaith y tîm, cynnal a monitro perfformiad yn erbyn nodau a thargedau y cytunir arnynt a nodir yn y cynllun gwasanaeth rheoli adnoddau naturiol;
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros faes polisi mynediad awyr agored i sicrhau uniondeb o ran dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, y llywodraeth ganolog ac mewn perthynas â bwriadau polisi'r Undeb Ewropeaidd;
- Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn prosiectau ar faterion cymhleth a phenodol, megis paratoi canllawiau, lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a sectorau/partneriaid perthnasol;
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Arwain gwaith y tîm i ddatblygu a chynnal gwaith ymgysylltu â phartneriaid, Llywodraeth Cymru a'r DU, arweinwyr polisi perthnasol y sector, a rhanddeiliaid, rhwydweithiau a phartneriaid; byddwch yn cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer fforymau mynediad cenedlaethol a lleol, eich maes arbenigol/technegol arall ac ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid;
- Cynnal gwybodaeth am y sector(au) arbenigol dynodedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a'r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au);
- Cyfrannu at waith grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Cydweithio â'r rheolwr i ddatblygu a chyflenwi Cynllun Datblygu Personol y cytunir arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE mewn perthynas â hamdden a mynediad a'ch maes arbenigol yr ydych yn gyfrifol amdano. Ysgogwyr polisi Cymru a'r DU mewn perthynas â hamdden a mynediad a'ch maes arbenigol yr ydych yn gyfrifol amdano a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru;
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol mewn perthynas â’r amrediad o bartneriaid a rhanddeiliaid sydd ynghlwm â mynediad a hamdden yng Nghymru.
- Profiad o'r canlynol: Dealltwriaeth drwyadl o’r maes mynediad a hamdden awyr agored a'r amrediad cymhleth o ysgogwyr a rhwystrau i gyflenwi;
- Llywio gwaith eich tîm gyda'r sector mynediad a hamdden awyr agored ac o'i fewn, a chydag awdurdodau lleol, perchnogion tir a rheolwyr; cynrychiolwyr o sefydliadau awyr agored/cefn gwlad a chyrff gwirfoddol gan gynnwys fforymau mynediad cenedlaethol a lleol;
- Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn;
- Cynrychioli'r sefydliad o ran materion proffil uchel a chynhennus yn gyhoeddus;
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob Pennaeth Busnes yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.